Neidio i'r prif gynnwy

Mater

1. Mae'r papur hwn yn darparu gwybodaeth gefndir i aelodau'r CPG am rôl y CPG mewn perthynas â'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol gan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a'r gwaith o gyflawni nod llesiant 'Cymru Lewyrchus' gan gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

2. Mae'r papur yn nodi cynigion ynghylch sut y gallai'r CPG ymgymryd â'i swyddogaeth o ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a osodir ar gyrff cyhoeddus. Gofynnir i aelodau'r CPG ystyried y cynigion ym mharagraffau 14-18 isod.       

Cefndir

Amcanion Llesiant

3. Ers 2017, bu'n ofynnol i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol osod amcanion llesiant sy'n manteisio i’r eithaf ar gyfraniad eu sefydliad at gyflawni pob un o'r saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

4. Dylai gosod amcanion llesiant fod yn rhan annatod o broses gynllunio gorfforaethol pob corff cyhoeddus, gydag amcanion y cytunwyd arnynt yn cael eu cyhoeddi mewn datganiad llesiant i'w cynnwys yng nghynllun corfforaethol y corff (neu gyfwerth). Rhaid i'r datganiad llesiant hefyd gynnwys manylion y camau mae'r corff cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni ei amcanion. Ar ôl i'r amcanion gael eu gosod, mae disgwyl i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol, wrth arfer eu swyddogaethau statudol, i gyflawni'r amcanion hynny. Mae hefyd yn ofynnol iddynt adolygu eu hamcanion llesiant bob blwyddyn a chyhoeddi diweddariad blynyddol ar y cynnydd y maent yn ei wneud tuag at eu cyflawni.

Y CPG

5. Diben y CPG, fel y'i disgrifir yn y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, yw "gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru”. Er mwyn gwneud hyn, gall y CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r canlynol:

(a) y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae Rhan 2 o'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru; 

(b) y gwaith o gyflawni nod llesiant 'Cymru Lewyrchus' gan gyrff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; a 

(c) y swyddogaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. 

6. Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn esbonio y caiff CPG "ddarparu gwybodaeth neu gyngor ar fater y cyfeirir ato ohono’i hun neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru. Pan fo’r CPG yn cael cais gan Weinidogion Cymru, rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol."
 

Y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol 

7. Mae Rhan 2 o'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar y cyrff cyhoeddus hynny sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac ar wahân ar Weinidogion Cymru.

8. Bydd y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol yn dechrau ar 1 Ebrill 2024. Wedi hynny, bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu gynrychiolwyr staff eraill lle nad yw undebau llafur yn bresennol) wrth bennu eu hamcanion llesiant neu wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny, tra bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r CPG wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y maent yn eu cymryd i gyflawni eu hamcanion llesiant.

9. O ystyried y bydd y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol yn ategu dyletswyddau llesiant presennol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae Atodiad A yn rhoi esboniad o sut y bydd y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus yn cyd-fynd â phob cam o'r ddyletswydd llesiant bresennol.   

10. Bydd gofyn i bob corff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol gyhoeddi a darparu adroddiad blynyddol i'r CPG ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol yn esbonio'r hyn y maent wedi'i wneud i gydymffurfio â'r ddyletswydd yn y 12 mis blaenorol. Rhaid i bob corff cyhoeddus gytuno ar ei adroddiad gyda'i undebau llafur cydnabyddedig (neu, lle nad oes undeb llafur cydnabyddedig, cynrychiolwyr staff eraill) neu, os na chytunwyd arno, rhaid i'r adroddiad gynnwys datganiad yn esbonio pam na chytunwyd arno.

Cyflawni Nod Llesiant Cymru Lewyrchus gan Gyrff Cyhoeddus

11. Nod 'Cymru Lewyrchus' yw un o'r saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac, o 1 Ebrill 2024, bydd yn cael ei ddisgrifio yn y Ddeddf fel a ganlyn:

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.

12. Roedd y disgrifiad hwn yn cyfeirio'n wreiddiol at 'waith addas' yn hytrach na 'gwaith teg' ond fe'i diwygiwyd gan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus. Diben diwygio'r disgrifiad oedd sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant yn ystyried cyflawni gwaith teg wrth osod, adolygu a chymryd camau tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant.

13. Daeth y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus hefyd â'r gwaith o gyflawni nod llesiant 'Cymru Lewyrchus' gan y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus o fewn cwmpas y CPG er mwyn galluogi'r CPG i ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ar y cyfraniad mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud at gyflawni'r nod hwn – gan gynnwys hyrwyddo gwaith teg.  

Dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y CPG i Weinidogion Cymru mewn perthynas â dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol cyrff cyhoeddus

14. Cynigir y bydd yr adroddiadau blynyddol ar y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a gyhoeddir gan gyrff cyhoeddus bob blwyddyn yn cael eu crynhoi a'u dadansoddi gan ysgrifenyddiaeth y CPG. Bydd aelodau'r CPG yn derbyn adroddiad cryno bob blwyddyn a fydd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Pan fo corff cyhoeddus wedi gosod amcanion llesiant yn ystod y cyfnod adrodd, bydd wedi darparu tystiolaeth ei fod wedi ceisio consensws neu gyfaddawd gyda'i weithlu mewn perthynas â'r rhain, a chanlyniad y broses honno; 
  • Pan fo corff cyhoeddus wedi gwneud penderfyniadau o natur strategol mewn perthynas â'r camau rhesymol y mae'n bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion llesiant hynny yn ystod y cyfnod adrodd, bydd wedi darparu tystiolaeth ei fod wedi ceisio consensws neu gyfaddawd gyda'i weithlu mewn perthynas â'r rhain, a chanlyniad y broses honno; ac
  • A yw adroddiad blynyddol pob corff cyhoeddus wedi'i gytuno gyda'i weithlu ac, os na, y rhesymau pam na chafwyd cytundeb.

15. Yn ogystal â'r wybodaeth hon, gall y crynodeb a ddarperir i aelodau'r SPC dynnu sylw hefyd at enghreifftiau o arfer nodedig y gallai'r CPG fod am dynnu sylw cyrff cyhoeddus eraill ato a/neu ei rannu'n ehangach drwy astudiaethau achos sydd i'w cyhoeddi ar ei wefan.

16. Bydd ystyriaeth o'r adroddiad cryno yn cael ei drefnu fel eitem sefydlog o fusnes y CPG.

17. Diben yr ymarfer blynyddol parhaus hwn yw sicrhau bod y CPG yn cael gwybodaeth sy'n ei alluogi i:

  • ddeall i ba raddau mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol;
  • nodi a chyhoeddi enghreifftiau o ymarfer da; a
  • nodi a mynd i'r afael ag unrhyw feysydd pryder posibl. 

18. Ar ôl ystyried yr adroddiad cryno gan aelodau'r CPG bob blwyddyn, bydd sylwadau'r CPG yn cael eu cofnodi yng nghofnodion y cyfarfodydd perthnasol a'u cyhoeddi ar wefan y CPG. Pan nodir enghreifftiau o ymarfer da, bydd y rhain yn cael eu hamlygu ar adran benodol o'r wefan lle bydd astudiaethau achos ar gael i sefydliadau eraill ddysgu ohonynt. Lle nodir unrhyw feysydd sy'n peri pryder, caiff y rhain eu bwydo'n ôl i'r corff/cyrff cyhoeddus perthnasol, ynghyd â chyfeiriad at ganllawiau a gwybodaeth berthnasol.               

Y Camau Nesaf

19. Gwahoddir aelodau'r CPG i gytuno ar y cynigion a nodir uchod.

20. O ystyried bod y ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus yn dechrau ym mis Ebrill 2024, ni fydd yr adroddiadau blynyddol cyntaf ar bartneriaeth gymdeithasol yn cael eu cyhoeddi cyn gwanwyn/haf 2025. Felly, bydd eitem sefydlog yn cael ei hychwanegu at flaenraglen waith y CPG i'w hystyried o'r gyfran gyntaf o adroddiadau blynyddol yn haf 2025 ac yn rheolaidd wedi hynny. 

Atodiad A

Y berthynas rhwng y Ddyletswydd Llesiant a'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ar Gyrff Cyhoeddus

Mae'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi'i nodi yn adrannau 15, 16 a 18 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae'n ategu'r dyletswyddau llesiant presennol y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ddarostyngedig iddynt o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae tair elfen i'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n ymwneud â thair elfen y ddyletswydd llesiant fel a ganlyn:  

Elfen 1 y Ddyletswydd Llesiant: gosod amcanion llesiant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy. Diffinnir datblygu cynaliadwy fel proses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau, mewn modd sy’n gydnaws â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Rhaid i'r camau mae corff cyhoeddus yn eu cymryd i gyflawni datblygu cynaliadwy gynnwys gosod a chyhoeddi amcanion ("amcanion llesiant") a ddyluniwyd i sicrhau y cyfraniad mwyaf gan y corff at gyflawni pob un o'r saith nod llesiant, a chymryd pob cam rhesymol wrth arfer ei swyddogaethau i gyflawni'r amcanion hynny.

Mae'r canllawiau statudol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn esbonio sut mae gan gyrff cyhoeddus fecanweithiau eisoes i nodi eu hamcanion, megis y cynllun corfforaethol neu'r cynllun strategol, a bod y ddyletswydd datblygu cynaliadwy yn ymwneud â dylunio'r amcanion hyn mewn ffordd sy'n sicrhau eu cyfraniad mwyaf at y nodau llesiant. Dylai gosod amcanion llesiant fod yn rhan annatod o broses gynllunio gorfforaethol pob corff cyhoeddus, rhaid i'r amcanion y cytunwyd arnynt gael eu cyhoeddi a rhaid i'r corff hefyd gyhoeddi datganiad ("datganiad llesiant") am eu hamcanion llesiant ar yr un pryd. Mae'r canllawiau statudol yn annog cyrff i gynnwys y ddau ddarn o wybodaeth yn yr un ddogfen - megis Cynllun Corfforaethol neu ddogfen debyg. Rhaid i'r datganiad llesiant hefyd gynnwys manylion y camau mae'r corff cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni ei amcanion.

Elfen 1 y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol: cynnwys y gweithlu wrth osod amcanion llesiant  

Nod y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yw hyrwyddo dull mwy cyson a chydweithredol o osod amcanion llesiant, a phenderfyniadau strategol a wneir mewn perthynas â'r rhain, gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

I'r perwyl hwn, mae Adran 16 o'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus a enwir i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'i undeb(au) llafur cydnabyddedig neu, os nad oes undeb llafur cydnabyddedig, gyda chynrychiolwyr staff eraill, wrth osod ei amcanion llesiant o dan adran 3(2)(a) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a phan fydd yn gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae angen iddo eu cymryd i fodloni'r amcanion hynny yn unol ag adran 3(2)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Mae adran 16 o'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr "i’r graddau y bo'n rhesymol”. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r corff cyhoeddus gynnwys ei undeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr ar gam ffurfiannol yn y broses o osod amcanion; rhaid iddynt ddarparu digon o wybodaeth i alluogi undeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr i ystyried yn iawn beth sy'n cael ei gynnig, a rhaid caniatáu digon o amser iddynt ystyried yn ddigonol yr hyn sy'n cael ei gynnig ac ymateb.

Y ddyletswydd i rannu ac ymgynghori ar wybodaeth ddigonol ar gam ffurfiannol o'r broses, ac i ganiatáu digon o amser i gynigion gael eu hystyried gan undebau llafur neu gynrychiolwyr staff eraill, yw'r isafswm a ddisgwylir o'r broses ymgysylltu. Bydd y gofynion hyn yn hyrwyddo dull mwy cyson a chydweithredol o wneud penderfyniadau strategol gan gyrff cyhoeddus, gan sicrhau, yn ei dro, fod amcanion a osodir a phenderfyniadau allweddol a wneir gan gyrff cyhoeddus yn ystyried safbwyntiau, gwybodaeth a phrofiadau gweithlu'r corff hwnnw yn iawn.

Nid yw'r ddyletswydd yn berthnasol i benderfyniadau corff cyhoeddus o ddydd i ddydd. 

Dylid nodi hefyd fod y ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff cyhoeddus geisio, yn hytrach na chyflawni, consensws neu gyfaddawd gydag undeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr wrth osod amcanion llesiant.

Elfen 2 y Ddyletswydd Llesiant: cymryd pob cam rhesymol i gyflawni amcanion llesiant

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, ar ôl gosod eu hamcanion llesiant, gymryd pob cam rhesymol wrth arfer eu swyddogaethau statudol i gyflawni'r amcanion hynny. Mae'r canllawiau statudol (SPSF 2) yn nodi: 

Bydd terfyn bob amser o ran faint o gyllid, pobl, amser ac asedau sydd ar gael i gymryd y camau angenrheidiol. Ond mae angen adolygu’r ystyriaeth a roddir i’r ffactorau hyn drwy’r pum ffordd o weithio a ddarperir gan yr egwyddor datblygu cynaliadwy o’i gymharu â’r cyfraniad a wneir gan yr amcanion llesiant.

Elfen 2 y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol: cynnwys y gweithlu wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol mae'r corff yn eu cymryd i gyflawni ei amcanion llesiant

O bryd i'w gilydd, bydd angen i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau strategol ychwanegol ynghylch y camau i'w cymryd tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant. Er mwyn sicrhau bod barn, gwybodaeth a phrofiadau ei weithlu yn cael eu hystyried pan fydd penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu, lle nad oes undeb llafur cydnabyddedig, gyda’u cynrychiolwyr staff eraill.

Dylai'r corff cyhoeddus gynnwys ei undeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr ar gam ffurfiannol yn y broses o wneud penderfyniadau; darparu digon o wybodaeth i alluogi undeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr i ystyried yn iawn beth sy'n cael ei gynnig a chaniatáu digon o amser iddynt ystyried yn ddigonol yr hyn sy'n cael ei gynnig ac ymateb.

The Well-being Duty component 3: reviewing and Elfen 3 y Ddyletswydd Llesiant: adolygu ac adrodd ar gynnydd  

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyhoeddi adroddiadau blynyddol o'r cynnydd y maent wedi'i wneud o ran cyflawni eu hamcanion llesiant ac, wrth baratoi'r adroddiadau hyn, rhaid iddynt adolygu eu hamcanion llesiant. Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cydymffurfedd â'r Ddeddf honno. Y ddyletswydd adrodd flynyddol yw darparu tryloywder i'r cyhoedd, y rhai sydd â chyfrifoldeb am ddarparu atebolrwydd ar gyfer y Ddeddf a'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus o ran cael mynediad at wybodaeth i gefnogi gwelliant parhaus. Mae hyn yn wahanol i'r adroddiadau partneriaeth gymdeithasol sy'n adroddiad ar yr hyn mae corff cyhoeddus wedi'i wneud i gydymffurfio â'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol. 

Mae'r canllawiau statudol yn cynghori cyrff cyhoeddus y dylid adolygu ac adrodd ar gynnydd yn erbyn amcanion llesiant fel rhan o'u prosesau adrodd corfforaethol ehangach, yn hytrach nag fel ymarfer ar wahân, ac y dylid eu cyhoeddi yn adroddiadau blynyddol cyrff cyhoeddus (neu gyfatebol). Dyma'r arfer a welsom gyda chyrff o dan y Ddeddf, gyda'r mwyafrif o gyrff yn defnyddio eu prosesau cynllunio ac adrodd corfforaethol presennol i gyflawni eu dyletswydd o ran gosod amcanion ac adrodd. Mae hyn yn helpu i atgyfnerthu bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol cyrff cyhoeddus.

Elfen 3 y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol: adrodd ar gyfraniad y gweithlu at gynnydd tuag at amcanion llesiant

Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn adeiladu ar y gofyniad uchod drwy roi dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i adrodd yn flynyddol (yn yr achos hwn, i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol) ar sut y ceisiodd gonsensws neu gyfaddawd gydag undeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol i'w cymryd i gyflawni ei amcanion llesiant. Rhaid i'r adroddiad partneriaeth gymdeithasol hwn fod wedi'i gytuno gydag undeb llafur/cynrychiolwyr gweithwyr y corff cyhoeddus neu, os nad yw hi wedi bod yn bosibl dod i gytundeb, rhaid iddo gynnwys esboniad pam na ddaethpwyd i gytundeb.