Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hawliau dynol pobl hŷn yn rhan annatod o wasanaethau cyhoeddus Cymru i sicrhau mai dyma'r lle gorau yn y byd i heneiddio'n dda.
Wrth siarad mewn digwyddiad i ddathlu gwaith a dylanwad y Comisiynydd Pobl Hŷn, Sarah Rochira, sydd ar fin gadael y swydd, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phobl hŷn i ddatblygu rhaglen waith er mwyn cefnogi pawb i fyw bywydau iach, ffyniannus a gwerth chweil.
Bydd y gwaith cychwynnol yn cynnwys cefnogi'r holl bobl hŷn i gael llais a rheolaeth dros eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar gomisiynu, diogelu ac eirioli.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Diwygio'r canllawiau sy'n ymwneud ag uwchgyfeirio pryderon ynghylch cartrefi gofal er mwyn sicrhau nad yw pobl hŷn yn wynebu risg wrth i'w cartref gau. Lle bo'n rhaid cau cartref gofal, bydd y canllawiau hyn yn sicrhau bod hynny'n digwydd mewn ffordd sy'n gwarchod hawliau'r preswylwyr;
- Gwella ansawdd, cysondeb ac argaeledd gwasanaethau eiriolaeth annibynnol sy'n rhoi llais i bobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu;
- Sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn rhan annatod o brosesau Llywodraeth Cymru i asesu effaith ei pholisïau ar grwpiau o bobl;
- Gweithio gyda phobl hŷn i ddarparu rhaglen waith newydd a fydd yn mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag heneiddio'n dda.
Mae gan Gymru draddodiad o weithio gyda phobl hŷn ac ar eu cyfer, o gyflwyno'r Strategaeth gyntaf erioed ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn 2003 i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn cynta'r Byd yn 2008.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Rydyn ni i gyd yn byw’n fwy iach ac yn hirach. Rydw i am i Gymru fod yn wlad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl hŷn i greu cymunedau cefnogol a bywiog.
"Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, mae Sarah Rochira wedi ein helpu i ganolbwyntio ar sicrhau bod modd i'r holl bobl hŷn fwynhau bywyd sy'n llawn gwerth, ystyr a phwrpas. Rwy'n cytuno â hi bod yn rhaid i ni sicrhau bod lles pobl hŷn yn rhan annatod o wasanaethau cyhoeddus. I wneud hyn, byddwn yn datblygu rhaglen waith a fydd yn gwireddu hawliau pobl hŷn."
Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:
"Mae Ffyniant i Bawb, ein strategaeth genedlaethol i symud Cymru ymlaen, yn ymrwymo i gefnogi pawb i fyw bywydau iach, ffyniannus a gwerth chweil. Byddaf yn arwain gwaith i sicrhau ein bod yn cyflawni'r ymrwymiadau hyn ar gyfer bobl hŷn ledled Cymru.
"Hoffwn ddiolch i Sarah am ei holl waith caled ac am ein perthynas adeiladol yn ystod ei chyfnod yn gomisiynydd pobl hŷn. Rwy'n gwybod bod y gwaith hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn beth bynnag fo'u hamgylchiadau, a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer."