Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething heddiw wedi cyhoeddi dros £9.7miliwn o gyllid i gefnogi gwasanaethau newyddenedigol ac ôl-enedigol yn Ysbyty Singleton.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu Uned Gofal Trosiannol saith gwely ac Uned Gofal Arbennig Babanod i wella ansawdd y gofal i famau a babanod, a rhyddhau gofod yn ei Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig. 

Wrth siarad cyn ymweld â'r ward newydd enedigol heddiw, dywedodd Mr Gething y byddai'r newidiadau yn caniatáu i'r bwrdd iechyd gynyddu’r nifer o enedigaethau y gallai cael eu trin yn Singleton o ddiwedd mis Gorffennaf 2019. Bydd hyn yn cynyddu’r gallu i drin mwy o gleifion, yn gyson â chynigion a gyflwynwyd yng Nghynllun De Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Mae'n buddsoddiad yn Ysbyty Singleton yn dangos ein hymrwymiad i wella gwasanaethau ar draws GIG Cymru. Mae'r datblygiadau pwysig yn addo gwella ansawdd gofal i famau a babanod, gan ddarparu amgylchedd mwy diogel, a mynediad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos at nyrsys gofal trosiannol newyddenedigol ac at gotiau gofal critigol newyddenedigol gwerthfawr." 

Bydd y buddsoddiad yn Ysbyty Singleton yn:

  • darparu Uned Gofal Trosiannol 7 gwely â gofal nyrsio arbenigol 24/7 i ofalu am fabanod sydd angen mwy na'r gofal ôl-enedigol arferol ond lle nad oes angen eu derbyn i'r uned babanod newydd-anedig, ynghyd â llety dros nos i famau, gydag ystafelloedd sengl a chyfleusterau ensuite i roi preifatrwydd a helpu i reoli heintiau
  • darparu Uned Gofal Arbennig Babanod 12 gwely parhaol
  • cynyddu capasiti yr Uned Dibyniaeth Fawr Newyddenedigol drwy ychwanegu dau got a'r Uned Gofal Arbennig Babanod drwy ychwanegu un cot
  • caniatáu gofod i ehangu'r Uned Dibyniaeth Fawr
  • darparu gofod ar gyfer 9 cot gofal arbennig ychwanegol. 
Dywedodd Jan Worthing, Cyfarwyddwr Ysbyty Singleton:

“Rydyn ni’n croesawu’r buddsoddiad hwn o £9.71miliwn  gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith ad-drefnu sylweddol hwn a chynyddu capasiti newyddenedigol Ysbyty Singleton. Mae hyn yn ategu gweledigaeth Rhaglen De Cymru a Chynghrair Gofal Aciwt Canol De Cymru o ddarparu gofal iechyd diogel, o ansawdd uchel, mewn lleoliadau gofal newyddenedigol ac ôl-enedigol lleol, rhanbarthol a thrydyddol. 

“Bydd y gwaith yn cychwyn ganol 2018 ac yn digwydd fesul cam er mwyn sicrhau na fydd yn amharu ar y gwasanaethau.”