Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Aston Martin werth dros £60m o gontractau i’w cynnig i fusnesau ledled Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r tro cyntaf i gontractau sector preifat gael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru a bydd yn gyfrwng rhwydd i fusnesau bach a chanolig Cymru fanteisio ar y contractau dirifedi y mae Aston Martin yn eu cynnig mewn cysylltiad â’r gwaith ar eu safle newydd yn Sain Tathan. 


Mae Aston Martin eisoes wedi hysbysebu gwerth miliynau o bunnau o gontractau ar GwerthwchiGymru ar gyfer y gwaith ar hen safle’r MoD.  Un o’r rhai sydd wedi elwa fwyaf hyd yn hyn yw’r cwmni adeiladu TRJ o Rydaman sydd wedi ennill contract ar gyfer cynnal gwaith cychwynnol yn Sain Tathan ar gyfer Aston Martin. 

Gwnaeth y Prif Weinidog ei gyhoeddiad cyn y seremoni swyddogol i nodi cychwyn Rhan II y gwaith ar safle Sain Tathan.

Dywedodd: 

“Mae’n bleser ‘di fi gyhoeddi ein bod bellach wedi agor ein sianel gaffael GwerthwchiGymru i Aston Marton. Dyma newyddion cyffrous i fusnesau Cymru gan taw dyma’r tro cyntaf iddi gael ei defnyddio i ddyfarnu contractau sector preifat. 


“Mae hyn yn hwyluso pethau i fusnesau bach a chanolig o Gymru sydd am geisio am y contractau dirifedi y mae Aston Martin yn eu hysbysebu ar gyfer gwaith ar eu safle yn Sain Tathan, ac o gyfuno hynny, er enghraifft, â chyfleuster datblygu cyflenwyr Busnes Cymru, gallai olygu o bosib dros £60m o gontractau i Gymru. 


“Mae Aston Martin eisoes yn cael dylanwad da ar yr economi, gyda thros 40 o weithwyr o Gymru’n cael eu cyflogi ar safle Gaydon ac rydyn ni’n gwybod y daw llawer mwy o gyfleoedd gwaith eto cyn 2020. 


“Mae penderfyniad y cwmni i symud i Sain Tathan yn gaffaeliad mawr i Gymru ac rwy’n disgwyl ymlaen at barhau i feithrin ein partneriaeth â’r cwmni er mwyn dod â’r manteision mwyaf posibl i’n heconomi ac i wella’n henw da drwy’r byd.” 


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 


“Hoffwn longyfarch y cwmni adeiladu TRJ o Rydaman am fod y cwmni cyntaf o Gymru i ennill contract sy’n gysylltiedig â chynlluniau Aston Martin yng Nghymru. 


“Mae llwyddiant y cwmni’n dangos y bydd y manteision economaidd sy’n deillio o benderfyniad Aston Martin i ddod i Gymru yn cael eu teimlo ledled y wlad, ac nid ym Mro Morgannwg yn unig." 


Dywedodd y Dr. Andy Palmer, Llywydd a Phennaeth Aston Martin:  


“Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cymryd cam pwysig arall ar ein taith i Sain Tathan, wrth inni ddatblygu hen safle’r MOD yn gyfleuster cynhyrchu newydd. 


“Yn sgil cael defnyddio sianel gaffael GwerthwchiGymru, rydym wedi gallu hyrwyddo’r contractau amrywiol i gynulleidfa ehangach yng Nghymru a thu hwnt.” 


Meddai Owain Jones, Cyfarwyddwr TRJ: 


“Ro’n i’n falch iawn taw ni oedd y cwmni cyntaf o Gymru i gael ei ddewis gan Aston Martin i weithio ar eu safle yn Sain Tathan ac rŷn ni’n disgwyl mlaen yn ofnadw at ddechrau ar y gwaith


“Mae’n newyddion da iawn bod Aston Martin am weithio gyda chwmnïau bach a chanolig o Gymru ac rwy’n siŵr taw ni yw’r cyntaf o lawer o fusnesau o Gymru fydd yn elwa ar eu penderfyniad i ddod i Sain Tathan.”

Cyhoeddodd Aston Martin llynedd eu bod wedi dewis Sain Tathan o blith 20 o safleoedd posib trwy’r byd ar gyfer eu hail ffatri gynhyrchu, hynny fel rhan o £200M o fuddsoddiad mewn cynnyrch a chyfleusterau newydd. 

Disgwylir iddyn nhw gyflogi 750 o weithwyr yn Sain Tathan cyn 2020 gan gynnal gyda llawer o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi.  Amcangyfrifir y daw gwerth hanner biliwn o bunnau o fuddiannau economaidd i Gymru yn ei sgil.