Neidio i'r prif gynnwy

Bydd adeilad amlwg ym Mae Colwyn yn cael ei adnewyddu diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr adeilad rhestredig yn 7 Ffordd Abergele, yn cael ei drawsnewid yn llwyr gan Gyngor Conwy, mewn cydweithrediad â chwmni North Wales Development Trust Ltd, i greu ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd ar gyfer y diwydiannau creadigol.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio:

“Yn ddiweddar, cyhoeddais fuddsoddiad o £1.4m i adnewyddu gofod masnachol ym Mae Colwyn ac rwy’n falch o gyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn o £610,000. Mae’r diwydiannau creadigol yn tyfu’n gyflym yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn helpu’r dref i ddenu busnesau bach a chanolig eu maint a swyddi yn y diwydiant. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio adeilad hanesyddol i greu stori newydd yn yr ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Louise Emery, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dros Ddatblygiad Economaidd:

“Rydym wrth ein bodd bod y cyllid hwn wedi cael ei roi inni fel bod modd i Fae Colwyn allu ailddefnyddio adeilad trawiadol ac arwyddocaol fel lle i fusnesau yn y sector pwysig hwn, sector sy’n ffynnu. Dyma ddatblygiad sy’n mynd i ychwanegu elfen bwysig arall at y gwaith parhaus o adfywio’r dref.”

Bydd y datblygiad yn cynnwys swyddfeydd, cyfleusterau rhwydweithio ac ystafelloedd cyfarfod y bydd modd eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos. Bydd y datblygiad yn cael ei anelu at fusnesau bach a chanolig eu maint o fewn y diwydiannau creadigol, er mwyn manteisio ar y diddordeb cynyddol yng Nghymru fel lle ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu.

Daw’r buddsoddiad o Gronfa ‘Adeiladu ar gyfer y Dyfodol’ Llywodraeth Cymru, cronfa sydd werth £108m gan gynwus £38m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd ac £16m gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys arian cyfatebol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill a ffynonellau o’r trydydd sector. Y nod yw adfywio canol trefi a’r ardaloedd cyfagos, drwy adnewyddu ac ailddatblygu adeiladau a thir segur. Cafwyd cyllid o £183,000 gan Lywodraeth Cymru a £427,000 gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiect Ffordd Abergele.