Mae Julie James, wedi cyhoeddi dros £2.5 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau i wella gwasanaethau gofal a chymorth ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r dyraniad cyllid yn cynnwys:
- Dros £650,000 ar gyfer cyfarpar arbenigol a thechnoleg gynorthwyol i gefnogi rhyddhau cleifion o’r ysbyty’n gynnar, atal derbyn cleifion i ysbytai a chynorthwyo pobl i aros yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain
- Dros £620,000 i ddatblygu cynlluniau byw â chymorth arbenigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot
- Dros £200,000 i symud a gweddnewid y Cartref Plant yn Nhŷ Nant, Abertawe
- £270,000 i adnewyddu ward yn Ysbyty Tonna, Castell-nedd, i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig gysylltiadau clos â gwasanaethau iechyd meddwl
- £285,000 tuag at gostau datblygu Hyb Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn darparu cymorth atal a llesiant aml-asiantaeth
- Dros £560,000 i greu llety newydd ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, Gwasanaethau Niwro-Ddatblygiadol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Gwasanaethau Cymorth Lleoliadau Aml-asiantaeth o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
“Nod ein rhaglen gyfalaf Cronfa Gofal Integredig tair blynedd yw integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn well, gan ein bod ni’n gwybod bod cartrefi’n gallu gwneud gwahaniaeth i’n hiechyd.
“Gall tai priodol gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol, neu ddarparu’r amgylchedd priodol i bobl sy’n gadael ysbyty, a lleihau oedi wrth geisio cael pobl gartref. Mae’r rhaglen yn dechrau cefnogi’r amcan hwn ond rwyf am ei gweld yn rhoi mwy o sylw i dai sy’n cefnogi anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl yn y dyfodol.
“Yn ogystal â hyn, gall y math priodol o gymorth yn ein hysbytai wella gofal, a helpu pobl i ddychwelyd adref yn gynt. Gwyddom fod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau hirdymor, a gall y rhaglen hon gefnogi buddsoddiad hefyd a fydd yn eu helpu i weithredu ac integreiddio’n fwy effeithiol.
“Mae’n hanfodol bod pobl yn derbyn y cymorth priodol pan maen nhw ei angen, waeth a ydyn nhw’n bobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau iechyd hirdymor, pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion iechyd cymhleth, neu ofalwyr.”
Y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Bae’r Gorllewin. Meddai:
“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad ychwanegol hwn a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau mwy cynaliadwy sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Drwy ddod â phartneriaid lleol ynghyd, mae gwasanaethau integredig, arloesol Bae’r Gorllewin yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ystyrlon i fywydau pobl.
“Mae 2019 yn flwyddyn o newid mawr i ni fel partneriaeth wrth i’r newid yn ffin y Bwrdd Iechyd ddod i rym ac i Ben-y-bont ar Ogwr adael i ymuno â rhanbarth Cwm Taf ar 1 Ebrill, ond mae’r holl bartneriaid yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf bosibl”.