Heddiw, Carl Sargeant wedi cyhoeddi bod dros £1m o gyllid gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddyrannu i 33 o brosiectau Dechrau'n Deg ledled Cymru i'w helpu i wella eu cyfleusterau.
Bydd y cyllid hwn a ddyfarnwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 yn cefnogi ystod eang o brosiectau, gan gynnwys gwneud gwaith adnewyddu llawn ar sawl adeilad Dechrau'n Deg, ac addasu safleoedd gwag i roi mwy o le i brosiectau llai megis gwella diogelwch ac offer TG.
Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'n cynnig deuddeg awr a hanner yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer plant bach 2-3 oed; helpu i ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant; cymorth i rieni; a gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen allweddol sydd â'r nod o helpu i wella cyfleoedd plant mewn bywyd a lleihau'r angen i ymyrryd yn nes ymlaen. Mae'n un o nifer o raglenni sy'n helpu i liniaru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n gallu cael effaith hirdymor ar blant ac unigolion drwy gydol eu bywydau.
"Dyma pam ein bod yn darparu dros £70 miliwn y flwyddyn mewn cyllid refeniw i'r Awdurdodau Lleol i ddarparu'r cynllun a pham fy mod yn cyhoeddi dros £1m o gyllid cyfalaf i sicrhau bod gan y plant yr amgylchedd gorau posibl i chwarae a dysgu ynddo.”