Bydd atyniadau i dwristiaid ar Ynys Gybi yn cael hwb ariannol, bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyhoeddi yn ystod ymweliad â Chaergybi heddiw.
Nod y prosiect yw trawsnewid Ynys Gybi yn gyrchfan eiconig, gan fanteisio i'r eithaf ar ei lleoliad strategol fel porth rhyngwladol ar gyfer ymwelwyr sy'n dod i Gymru a'r DU.
Bydd y prosiect yn cynnwys gwelliannau i'r cyfleusterau croesawu ymwelwyr ym mhorthladd a gorsaf drenau Caergybi, gan dynnu sylw at yr hyn sydd gan Ynys Gybi, Ynys Môn a'r Gogledd i'w gynnig i ymwelwyr.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwelliannau i safleoedd allweddol ar Ynys Gybi, fel Eglwys Sant Cybi a'r Gaer Rufeinig, a Pharc Morglawdd Caergybi, gan gynnwys gwell cyfleusterau a dehongli. Bydd arwyddion yn cael eu darparu hefyd i helpu i gysylltu'r atyniadau â'i gilydd.
Mae'r datblygiadau yng Nghaergybi yn rhan o raglen ehangach Cyrchfan Ddenu Twristiaid Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen, sydd wedi'i hariannu gan yr UE a'i harwain gan Croeso Cymru, yw creu 11 o gyrchfannau y mae'n rhaid ymweld â nhw. Lluniwyd y prosiect i sicrhau buddsoddiad mewn busnesau a swyddi yn y sector twristiaeth yn y rhanbarthau, a rhoi Cymru ar fap y byd fel cyrchfan wyliau.
Cyn ymweld ag Eglwys Sant Cybi a'r Gaer Rufeinig, dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae miloedd o ymwelwyr yn dod i mewn i Gymru a'r Deyrnas Unedig drwy Gaergybi bob blwyddyn. Mae yma hanes cyfoethog yn ymestyn yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid a'r canol oesoedd, ynghyd â chyfoeth o atyniadau naturiol.
"Bydd yr hwb ariannol hwn yn gwella a chodi proffil yr atyniadau hyn, gan annog pobl i dreulio mwy o amser yng Nghaergybi. Bydd yn caniatáu i'r dref fanteisio i'r eithaf ar ei lleoliad strategol.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhan o raglen ehangach o fuddsoddiad sylweddol mewn twristiaeth i greu nifer o gyrchfannau y mae'n rhaid ymweld â nhw ar draws Cymru, ac mae'n bleidlais o hyder yng Nghaergybi a'r hyn sydd gan y dref i'w gynnig."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi Huws:
"Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad hwn am fuddsoddiad i wella a chodi proffil Ynys Gybi fel porth pwysig i ymwelwyr rhyngwladol sy’n dod i Ynys Môn a rhannau eraill o'r Gogledd. Bydd y pecyn hwn yn ein helpu i wella profiad yr ymwelwyr mewn lleoliadau pwysig, gan helpu i hyrwyddo'r hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig. Bydd yn sicrhau bod yr ymwelwyr yn ymwybodol eu bod yng Nghymru, a'u bod yn cael blas ar ein diwylliant a’n treftadaeth. Drwy wneud hyn rydyn ni'n gobeithio gweld twristiaeth yn arwain at fanteision economaidd ehangach i fusnesau a chymunedau."