Mae cam newydd ein hymgyrch sy’n lansio heddiw yn mynd i geisio rhoi hwb i bawb yn ein gwlad i siarad am roi organau a rhannu’u penderfyniad gyda’r bobl y maen nhw’n eu caru.
Mae heddiw (20 Gorffennaf 2016) yn nodi lansio’r cam nesaf yn ymgyrch Rhoi Organau Cymru: ‘Amser trafod rhoi organau’ er mwyn atgoffa pobl am y system newydd a’u hannog i rannu’u penderfyniad ynglŷn â rhoi organau gyda’r bobl sydd agosaf atyn nhw.
Dyma Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i esbonio:
“Mae Cymru wedi cael system rhoi organau newydd ers mis Rhagfyr 2015 – gall pobl ddewis optio allan, optio i mewn neu wneud dim. Rydym ni’n gwybod fod y neges hon wedi taro deuddeg gyda 74% o bobl* yn ymwybodol o’r system newydd, ond dim ond 47% sydd wedi rhannu’n penderfyniad gyda’u hanwyliaid. Mae cam newydd ein hymgyrch sy’n lansio heddiw yn mynd i geisio rhoi hwb i bawb yn ein gwlad i siarad am roi organau a rhannu’u penderfyniad gyda’r bobl y maen nhw’n eu caru.”
Mae Gwenllian Boyns (18) o Ruthun yn Sir Ddinbych, ac un o wynebau ymgyrch newydd Rhoi Organau Cymru, yn gwybod yn rhy dda pa mor bwysig yw siarad â’ch anwyliaid am benderfyniadau rhoi organau. Pan fu farw ei mam, Elen Meirion, yn sydyn yn 2012 a hithau ond yn 45 mlwydd oed, ei hunig blentyn, Gwenllian, oedd yn gwybod am benderfyniad ei mam i ddod yn rhoddwr organau. Dyma Gwenllian i esbonio:
"Mi roedd colli Mam yn hunllef ac mi rydw i’n gweld ei cholli bob dydd. Roedd hi’n drasiedi go iawn ac yn amser anodd ofnadwy i’r teulu ac i mi. Roedd Mam yn berson hyfryd, caredig a ddiffuant oedd wrth ei bodd yn canu ac yn mwynhau cerddoriaeth o bob math. Roedd ein cartref ni’n lle hapus a llawn bywyd.
“Pan grybwyllodd y Nyrs Arbenigol Rhoi Organau y gallem ni roi organau Mam, roeddwn i’n gwybod yn union beth fyddai hi eisiau’i wneud, am ein bod ni wedi cael sgyrsiau am y pwnc cyn hynny. Doedd Mam, fel llawer o bobl eraill, ddim wedi arwyddo Cofrestr Rhoi Organau’r GIG eto, ond am ein bod ni wedi trafod y peth, roeddwn i’n gwybod beth oedd ei theimladau ar y mater, ac yn gwybod beth fyddai hi eisiau. Mi faswn i’n annog teuluoedd eraill i drafod y pwnc pwysig ond sensitif hwn, am nad oes neb yn gwybod beth sy’n eu disgwyl rownd y gongol.”
Roedd Elen Meirion yn athrawes ysgol gynradd yn Ysgol Pen Barras yn Rhuthun ac roedd hi’n chwaer i’r canwr adnabyddus Rhys Meirion.
Cefnogir ymgyrch ‘Amser trafod rhoi organau’ gan hysbysebion ar y radio, ar fysiau a threnau, mewn sinemâu ac ar lwyfannau digidol yn ogystal â chael cefnogaeth drwy gyfrwng rhwydwaith o bartneriaid yr ymgyrch ledled Cymru.
I ddarganfod mwy o wybodaeth am roi organau Mae rhoi a rhoi byw yn ymweld â rhoi organau a meinwe.