Neidio i'r prif gynnwy

Bydd prosiect newydd gwerth £1 miliwn i farchnata Bwyd Môr yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn helpu i roi sail gadarn er mwyn i'r diwydiant ffynnu mewn byd ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad cyn dadl yn y Senedd ar Brexit a physgodfeydd, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai Prosiect Datblygu'r Farchnad Bwyd Môr yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd y prosiect, a sefydlwyd fel partneriaeth rhwng Menter a Busnes a Seafish, yn datblygu'r farchnad ar gyfer bwyd môr o Gymru a gafodd ei ddal a'i brosesu yn lleol. 

Bydd hefyd yn helpu busnesau bwyd môr i roi gwerth i fwyd môr, deall anghenion y farchnad, gwella'r arbenigedd o ran marchnata yn y sector ac annog llongau i gyrraedd safon Cynllun Pysgota Cyfrifol.

Bydd y prosiect yn ymgysylltu â llongau a busnesau ar draws sector bwyd môr Cymru.  Yn ystod oes y prosiect, disgwylir y bydd wedi rhoi cymorth i 60 o fusnesau. 

Ym mis Medi, bydd y prosiect yn mynd ar Daith Fasnach i Hong Kong er mwyn arddangos bwyd môr gorau Cymru yn Expo Bwyd Môr Asia 2018. 

Mae'r prosiect newydd yn adeiladu ar y pecyn cymorth ariannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y diwydiant pysgodfeydd a hynny drwy Gronfa Bontio'r UE. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y diwydiannau pysgota a dyframaethu yn cael cymorth ariannol drwy'r gronfa i helpu'r sectorau ddod o hyd i farchnadoedd newydd a pharatoi ar gyfer masnachu y tu allan i'r UE yn y dyfodol. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Bydd Brexit yn cyflwyno heriau yn ogystal â chyfleoedd i’r diwydiant pysgodfeydd. Fel Llywodraeth, byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i helpu'r diwydiant baratoi i wynebu'r heriau hyn a'i helpu i addasu ar gyfer byd ar ôl Brexit.

"Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi y byddwn yn buddsoddi mwy na miliwn ym Mhrosiect Datblygu'r Farchnad Bwyd Môr dros y pedair blynedd nesaf er mwyn helpu i farchnata bwyd môr o Gymru yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd yn rhoi cymorth hanfodol bwysig i'r sector wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae hyn yn ychwanegu at y cyllid a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Prif Weinidog ar gyfer y sector drwy Gronfa Bontio'r UE. Rydym eisiau sicrhau bod gan y sector ddyfodol cryf a chynaliadwy a bydd y cyllid hwn yn gymorth i ddod o hyd i’r bylchau o ran masnachu er mwyn sicrhau bod y diwydiant yn ffynnu unwaith i ni adael yr UE."