Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi ymweld ag Amgueddfa Caerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd i gyhoeddi cyllid gwerth ychydig dros £750,000 i helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol i ddatblygu eu cyfleusterau a’u gwasanaethau.
Bydd y cyllid, a fydd yn cael ei ddarparu fel rhan o’r Cynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid, yn helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yng Nghymru i ddatblygu ac adnewyddu eu cyfleusterau. Bydd ffocws penodol ar ehangu mynediad, gweithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio a datblygu gwasanaethau cynaliadwy.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ailwampio a moderneiddio chwe llyfrgell, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu Canolfan Realiti Rhithwir yn Llyfrgell Penygroes a gardd llesiant yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen, Gwynedd. Bydd yn helpu Llyfrgell Rhymni yng Nghaerffili i ddatblygu canolfan addysg ar gyfer darllen a chymorth i drigolion lleol, ac yn helpu Llyfrgell Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adeiladu mannau effeithlon, hyblyg sy’n diwallu anghenion y gymuned.
Bydd Llyfrgell Port Talbot a Llyfrgell y Barri yn elwa ar greu mannau ‘Gofod Gwneud’ – mannau neilltuedig lle y gall pobl gwrdd i gyd-gynhyrchu, gweithio ar brosiectau a rhannu adnoddau a gwybodaeth. Byddan nhw’n helpu defnyddwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u creadigrwydd ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a’r Celfyddydau (STEAM).
Rhoddir cyllid i helpu Cyngor Sir Fynwy gyda gwaith yn Neuadd y Sir i sicrhau bod eu casgliadau’n cael eu gwarchod a bod rhagor o bobl yn cael eu gweld yn y dyfodol. Bydd y gyllid hefyd yn cefnogi prosiect datgarboneiddio Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, a fydd yn galluogi’r amgueddfa i osod system ffotofoltäig ac uwchraddio ei system goleuo halogen presennol i system UV. Bydd hyn yn lleihau ôl troed yr amgueddfa ynghyd â’i gwariant a faint o ynni mae’n ei ddefnyddio yn gyffredinol.
A hithau’n siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Mae’n bleser mawr gen i gyhoeddi cyllid gwerth £750,000 ar gyfer y prosiectau hyn. Mae’r ymweliad heddiw ag Amgueddfa Caerdydd, sydd wedi elwa ar y gronfa yn y gorffennol, wedi bod yn hynod ddiddorol. Mae’n ddiddorol gweld yn berson y ffordd mae’r amgueddfa wedi defnyddio’r cymorth hwn i wneud gwelliannau – gan greu rhagor o fannau deniadol ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau lleol a galluogi’r amgueddfa i weithio gyda chymunedau ac i adlewyrchu hanes a diwylliant amrywiol y ddinas.
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn sy’n chwarae rôl werthfawr sy’n ganolig i fywyd cymdeithas. Bydd y gronfa hon yn ehangu mynediad ar gyfer ein cymunedau, yn hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol, yn darparu cyfleoedd dysgu ac yn cefnogi cydlyniant, cynaliadwyedd a ffyniant ein cymunedau.
“Hoffwn i annog pawb i weld yr hyn sydd ar gael yn eu hamgueddfa, archif neu lyfrgell leol.”
Dywedodd Alison Tallontire, Rheolwr Amgueddfa Dros Dro Amgueddfa Caerdydd:
"Mae'r prosiect wedi rhoi pwrpas newydd i oriel City Lab yr Amgueddfa i greu gofod mwy ymatebol a hyblyg. Mae elfennau o arddangosfeydd yr Amgueddfa a oedd yn sefydlog ac yn anhyblyg wedi'u tynnu neu eu hailbwrpasu i greu gofod amlbwrpas y gellir ei raglennu gydag arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro a fydd yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda cymunedau Caerdydd.
“Mae'r gwaith yn ein galluogi i ddatblygu partneriaethau a chefnogi prosiectau a chynnig lle ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau cysylltiedig i raddau nad oedd yn bosibl o'r blaen. Wrth i ni ddechrau ailagor yr amgueddfa, rydym yn cysylltu â phartneriaid cymunedol ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am gyfleoedd i gyd-gynhyrchu. Rydym eisoes wedi ymrwymo i gefnogi llawer o brosiectau ac edrychwn ymlaen at gefnogi llawer mwy yn y dyfodol."