Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o dros £50 miliwn i brifysgolion a cholegau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gefnogaeth yn rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr a phrif sefydliadau addysg Cymru ac i ddarparu’r sgiliau a’r dysgu fel ymateb i effaith economaidd y coronafeirws.

Bydd £27 miliwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau addysg uwch gyda £23 miliwn i gefnogi myfyrwyr mewn colegau AB a chweched dosbarth. 

Addysg uwch      

Bydd £27 miliwn yn cael ei ddarparu i brifysgolion drwy Gronfa Adfer a Buddsoddi mewn Addysg Uwch ar gyfer Cymru, i gynnal addysgu ac ymchwil ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021.  

Bydd y Gronfa Adfer yn cael ei sefydlu i gefnogi prifysgolion i gynnal swyddi mewn addysgu, ymchwil a gwasanaethau myfyrwyr, a buddsoddi mewn  prosiectau a fydd yn cefnogi’r adferiad economaidd ehangach a chefnogi myfyrwyr sy'n dioddef problemau ariannol.          

Er bod ffigurau diweddaraf UCAS am geisiadau prifysgol wedi dangos cynnydd mewn ceisiadau i brifysgolion Cymru gan ieuenctid 18 oed, gall y coronafeirws arwain at rai myfyrwyr o’r DU yn gohirio eu ceisiadau tan y flwyddyn nesaf.      

Hefyd mae gan nifer o brifysgolion Cymru bryderon am ostyngiad posib mewn myfyrwyr rhyngwladol eleni a llai o refeniw o lety myfyrwyr, yn ogystal â gostyngiad posib mewn buddsoddiad ymchwil gan ffynonellau preifat ac elusennol.

Addysg bellach a chweched dosbarth    

Bydd mwy na £15 miliwn yn cael ei ddarparu i ddysgwyr sy’n dechrau ar gwrs Safon Uwch neu alwedigaethol mewn coleg AB neu chweched dosbarth, i wneud iawn am eu hamser o’u lleoliad addysg yn gynharach eleni ac i helpu gyda’u pontio i ddysgu ôl-16. Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu i ddysgwyr llawn amser sydd rhwng 16 ac 19 oed, ac mae’n cynrychioli cynnydd o 5 y cant i’r cyllid ar gyfer pob myfyriwr.                 

Bydd hyd at £5 miliwn yn cael ei ddarparu i gefnogi dysgwyr galwedigaethol i ddychwelyd i’r coleg i’w helpu i ennill eu cymwysterau trwydded i ymarfer heb fod angen ailsefyll y flwyddyn lawn.        

Bydd £3.2 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ddarparu offer digidol fel gliniaduron ar gyfer dysgwyr coleg. Bydd £466,000 yn cael ei ddarparu i gefnogi myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Sgiliau Byw yn Annibynnol, i alluogi iddynt ddychwelyd i gwblhau eu pontio o goleg i gyflogaeth ac annibyniaeth. Bydd £100,000 hefyd yn cael ei ddarparu hefyd i gefnogi prosiectau iechyd meddwl a lles rhanbarthol a datblygiad proffesiynol ym maes Dysgu Cymunedol awdurdodau lleol.                    

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:                                 

Mae’n prifysgolion a cholegau yma yng Nghymru o safon byd, am eu hymchwil a bywyd myfyrwyr. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ar fyfyrwyr, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, fod prifysgolion Cymru ar y blaen unwaith eto i’r DU ar gyfer boddhad myfyrwyr.       

Mae ein colegau a’n prifysgolion yn ‘stiwardiaid lleoliad’ a gyda’i gilydd gallant greu mwy o effaith i fyfyrwyr a’u cyswllt ag ysgolion, cymunedau lleol, cyflogwyr a phartneriaid rhyngwladol.    

Felly rydym yn cefnogi'r sefydliadau mawr hyn ym mywyd Cymru, fel y gallant gefnogi myfyrwyr o bob oed, a pharhau i chwarae eu rhan yn ein hadferiad.

Ni fydd gennym ddarlun llawn o effaith y pandemig ar brifysgolion tan y tymor nesaf, ond bydd y cyllid hwn yn darparu cefnogaeth hanfodol i’n sefydliadau ni wrth iddynt baratoi ar gyfer yr hydref.

Nod ein cefnogaeth ni ar gyfer myfyrwyr 16 i 19 oed yw sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau ym mis Medi yn wynebu anfantais oherwydd y tarfu maent wedi’i wynebu yn gynharach eleni, ac mae’n rhan o fesurau ehangach i sicrhau bod gennym ni weithlu medrus a fydd yn sbarduno’r adferiad economaidd wedi’r coronafeirws.

Byddwn yn ystyried y sefyllfa eto yn yr hydref, er mwyn parhau â’n cefnogaeth i’r adferiad economaidd a chymdeithasol yn dilyn COVID-19.

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:

Mae ein prifysgolion yn gyflogwyr mawr yn eu cymunedau ac yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n hanfodol ar gyfer twf economaidd.

Mae'r cymorth hwn yn rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr a galluogi sefydliadau addysg Cymru i gyflawni'r ymrwymiad Covid i gyflogadwyedd a sgiliau.

Bydd y pecyn mesurau hwn yn galluogi sefydliadau i gefnogi pobl ifanc i gwblhau a pharhau â dysgu a allai fod wedi cael ei darfu gan Covid-19, a chefnogi'r rhai a allai fod wedi chwilio am waith fel arall i aros mewn addysg i wella eu cyflogadwyedd a'u sgiliau ymhellach.