Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cymru yn gweld ei buddsoddiad uchaf erioed mewn amddiffyn rhag llifogydd eleni, gyda £77 miliwn wedi'i ddyrannu i amddiffyn cymunedau ledled y wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gyhoeddi Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wrth y Senedd fod yr arian yn dod ar 'adeg dyngedfennol' yn dilyn gaeaf pan welodd llawer o gymunedau Cymru realiti caled newid hinsawdd.

Yn ystod y 12 mis nesaf, bydd 4,640 o eiddo yn elwa ar y cynlluniau newydd sy'n cael eu hariannu drwy'r rhaglen, ac mae hynny'n ychwanegol i'r 11,000 o eiddo a fydd yn elwa ar gynlluniau presennol a fydd yn cael eu cwblhau eleni.

Mae'r cyllid uchaf erioed yn datblygu ar ddwy flynedd yn olynol o fuddsoddiad o fwy na £75 miliwn sy'n cyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu i leihau perygl llifogydd i dros 45,000 o eiddo.

Daw hyn ar ôl i Gyllideb Llywodraeth Cymru basio drwy'r Senedd yn ddiweddar, a ryddhaodd £1.6 biliwn ychwanegol ar gyfer gwariant cyhoeddus.

Mae rhaglen 2025-26 yn cynnwys:

  • £36 miliwn mewn cyllid cyfalaf, gyda £22 miliwn wedi'i ddyrannu i Cyfoeth Naturiol Cymru a £14 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru, fel y Bontnewydd yng Ngwynedd, Pentre yn Rhondda Cynon Taf, Gurnos ym Mhowys a Haven Head yn Sir Benfro.
  • Dros £24 miliwn mewn cyllid refeniw i Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Bron i £16 miliwn i awdurdodau lleol, gan gynnwys £11 miliwn ar gyfer y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol
  • £2 filiwn ychwanegol i gefnogi 23 o brosiectau rheoli llifogydd naturiol a fydd yn diogelu bron i 2,800 o eiddo

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

Y gaeaf diwethaf yn unig, effeithiodd effeithiau dinistriol Stormydd Bert a Darragh ar fwy na 700 o eiddo ledled Cymru, gan bwysleisio pam fod amddiffyn rhag llifogydd yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Mae'r digwyddiadau hyn yn atgyfnerthu sut mae'n rhaid i'n rhaglen llifogydd fod yn gadarn - ac yn wir, mae'n gadarn - er mwyn cyflawni cynllun o waith sydd wedi'i gynllunio, a rheoli gofynion unrhyw ymateb brys angenrheidiol.

Darparwyd £8.1 miliwn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf argyfwng yn dilyn stormydd y gaeaf, ochr yn ochr â grantiau cartrefi o £500 a £1,000 i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt.

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:

O adeiladu amddiffynfeydd caled i gyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur, rydym wedi ymrwymo i helpu i gadw cymunedau'n ddiogel rhag llifogydd.

Gyda newid yn yr hinsawdd yn cynyddu pa mor aml y mae llifogydd yn digwydd, a pha mor ddifrifol ydynt, rydym yn dangos ein hymrwymiad gyda'r buddsoddiad mwyaf erioed a chamau gweithredu pendant i amddiffyn pobl ledled Cymru.