Neidio i'r prif gynnwy

Mae eglwys yn Abertawe, clwb pêl-droed yn Sir Ddinbych a chanolfan wirfoddoli ym Mhowys ymhlith y 38 prosiect i dderbyn cyfran o dros £4.3 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bu Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ymweld â Phlwyf Casllwchwr a Gorseinon yn Abertawe yn ddiweddar lle bydd cyllid o £300,000 yn hanfodol i ailgynllunio ac ailwampio'r eglwys hanesyddol i greu man cymunedol amlbwrpas. Mae'r cyfleuster eisoes yn fan cyfarfod i dros 50 o grwpiau cymunedol ac mae cynlluniau ar waith i gynyddu'r nifer hwn unwaith y bydd gwaith adnewyddu wedi'i gwblhau. Bydd y gwelliannau'n cynnwys lle ar gyfer grwpiau garddio a bioamrywiaeth, clybiau ieuenctid, gweithgareddau gwyliau ysgol, darpariaeth banc bwyd mwy, sgiliau cymorth TGCh a grwpiau cymorth ariannol.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cynllun grant cyfalaf sy'n helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Mae prosiectau eraill sydd hefyd wedi derbyn cyllid yn cynnwys £300,000 tuag at ddatblygu Hyb Digartrefedd ar Ynys Môn, £95,000 ar gyfer gwaith adnewyddu yng Nghlwb Pêl-droed Tref Dinbych, a £100,000 tuag at adeilad newydd yng Nghaerffili ar gyfer Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn bwysig o ran helpu sefydliadau i brynu neu wella cyfleusterau fel y gall pobl leol elwa arnynt yn eu bywydau beunyddiol.

Roeddwn yn falch o ymweld â Gorseinon yn ddiweddar i glywed am y cynlluniau cyffrous sydd ganddynt i greu mwy o gyfleusterau cymunedol o fewn gofod yr Eglwys.

Mae pob un sy'n derbyn cefnogaeth gan y rhaglen yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu ac mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn gallu eu helpu i wneud hyd yn oed mwy.

Dywedodd y Parchedig Dr Adrian Morgan, ficer St Catherine's yng Ngorseinon:

Mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio gan lawer o grwpiau cymunedol ar gyfer bob math o weithgareddau wythnosol, ond mae ei gynllun mewnol wedi cyfyngu ar ddefnydd y gymuned o'r Neuadd. Ond gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydyn ni nawr yn mynd i drawsnewid y gofod hwn er mwyn gallu cynnal llawer mwy o weithgareddau cymunedol yn gyson.

Rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn gallu gweld budd canolfannau fel y rhain i gefnogi gweithgareddau cymunedol sy’n pontio rhwng y cenedlaethau, lleihau unigrwydd i'r ifanc a'r henoed fel ei gilydd, a helpu cymunedau i gryfhau eu hymdeimlad o le a bod yn lle croesawgar i bawb.

Ffotograff: Bradley Lever