Bydd cyllid benthyciad yn helpu prifysgolion i gyrraedd uchelgeisiau carbon isel.
Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, â Phrifysgol Caerdydd i weld sut mae buddsoddiad o £12.2m yn cyflymu eu camau tuag at leihau carbon.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o gyllid benthyciad ehangach o £20m i brifysgolion er mwyn helpu i gyrraedd eu hallyriadau carbon isel.
Mae wedi helpu'r Brifysgol i wella adeilad hŷn drwy osod goleuadau ynni-effeithlon, ffenestri newydd a phympiau gwres. Mae hyn yn rhan o daith gynaliadwyedd ehangach y brifysgol, lle mae'n darparu dull o wefru cerbydau trydan ac yn gweithio i drydaneiddio ei fflyd.
Mae cyllid wedi dod o raglen Di-garbon Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector Addysg Uwch ac Addysg Bellach, sydd ar gael i brifysgolion a cholegau yng Nghymru. Bydd yr arbedion ynni a gyflawnir gan y buddsoddiad hwn yn helpu i ad-dalu'r benthyciad ac yn ariannu mwy o fuddsoddiad mewn atebion gwresogi carbon isel.
Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi llwyddo i sicrhau cyllid i wella effeithlonrwydd ynni ei hadeiladau. Mae cyllid hefyd wedi'i gynnig i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi £20m o gyllid benthyciad i sefydliadau addysg uwch i'w cefnogi i leihau allyriadau a chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
"Mae hyn yn rhan o daith ehangach i leihau allyriadau carbon ar draws y sector cyhoeddus cyfan. Mae'n her enfawr, ond trwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n gwybod y gallwn gyflawni hyn. Byddwn yn annog eraill i ddilyn ôl troed sefydliadau fel Prifysgol Caerdydd."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
"Rwyf mor falch o'r gwaith y mae ein sefydliadau addysg yn ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
"Mae Prifysgol Caerdydd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda'r cyllid hwn, nid yn unig i leihau allyriadau carbon ond hefyd i arbed arian trwy leihau'r defnydd o ynni.
"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector addysg uwch ac addysg bellach i sicrhau y gallant elwa o arbed costau drwy arbedion effeithlonrwydd ynni."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd Prifysgol Caerdydd, Dr Paula Sanderson:
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau'r cyllid newydd hwn a chael y cyfle i groesawu'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Addysg Uwch i'r Brifysgol i drafod sut y bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net. Bydd hyn yn ein galluogi i ariannu gwaith mawr newydd, gan gynnwys uwchraddio'r ffenestri yn ein hadeiladau Tŵr a Chyfraith a fydd yn darparu arbedion ynni y mae mawr eu hangen a lleihau allyriadau carbon.
Mae hyn yn nodwedd allweddol o'n Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd Amgylcheddol ac mae'n adeiladu ar fesurau cadwraeth ynni blaenorol gan gynnwys goleuadau LED, solar PV, uwchraddio cypyrddau mygdarth ac inswleiddio gwaith pibellau. Roeddem hefyd yn gallu dangos rhai o'n cerbydau trydan, 100% newydd i'r Gweinidogion fel rhan o'n fflyd prifysgolion - i gyd yn rhan o'n nod i fod yn fwy cynaliadwy a'u prynu gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.