Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na 200 o fusnesau yng Nghymru wedi llofnodi Contract Economaidd Llywodraeth Cymru yn ei flwyddyn gyntaf, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo dros £41m o gymorth busnes i 96 o gwmnïau ledled Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf trwy Gronfa Dyfodol yr Economi gafodd ei chreu i helpu busnesau i baratoi ar gyfer heriau'r dyfodol. 

Cafodd y Contract Economaidd ei lunio'n unswydd er mwyn i Lywodraeth Cymru allu datblygu perthynas newydd gryfach â busnesau ac ysgogi twf cynhwysol ac ymddygiad cyfrifol - gan gynnwys darparu mwy o waith teg a datgarboneiddio. 

Mae'n golygu bod cwmnïau sy'n chwilio am gymorth bellach yn gorfod siarad â Llywodraeth Cymru ac ymrwymo i wneud rhywbeth er mwyn cael rhywbeth, y cyfan wedi'i seilio ar egwyddorion cydweithredu. 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Rwy'n hynod falch bod perthynas gref ac adeiladol Llywodraeth Cymru â busnesau wedi arwain at lunio a llofnodi mwy na 210 o Gontractau Economaidd mewn prin flwyddyn, ac mae llawer mwy i ddod. 

"Mae'r contractau hyn wedi'u llofnodi gan gwmnïau o bob lliw a llun, o un pen o'r wlad i'r llall. Yn wir, mae'r ffaith fod dros hanner y contractau wedi'u llofnodi gan gwmnïau bach a micro yn dangos ein bod wedi taflu'n rhwyd yn bell a da hynny. 

"Mae busnesau o bob rhan o Gymru wedi manteisio'n gyson ar y cyfle i siarad â ni ac i ddangos sut maen nhw'n gweithredu egwyddorion twf cynaliadwy, gwaith teg, iechyd, datgarboneiddio a sgiliau a dysgu - y math o ymddygiad sy'n ganolog i'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi. 

"Mae'n dda gennyf gyhoeddi ein bod, ers lansio'n Meysydd Gweithredu a Chronfa Dyfodol yr Economi gysylltiedig flwyddyn yn ôl, wedi llwyddo i gymeradwyo dros £41m o gymorth i 96 o gwmnïau ledled Cymru. 

"Yr her i ni nawr yw parhau i sefydlu, esblygu ac ehangu'r Contract Economaidd a'i ddefnyddio fel erfyn i'n helpu i ddatblygu gwlad o waith teg a chanddi economi carbon isel. Rydyn ni'n cymryd camau breision yn hyn o beth ac mae'r Contract Economaidd yn rhan annatod o lythyrau cylch gwaith Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Trafnidiaeth Cymru a'r Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth newydd, gwerth £50 miliwn, sy'n cael ei darparu ar y cyd â Banc Datblygu Cymru. 

"Rydyn ni'n defnyddio'r Contract Economaidd hefyd i wella amodau gwaith yn yr Economi Sylfaenol mewn meysydd fel Twristiaeth, gyda chwmnïau fel Zip World yn cefnogi egwyddorion y Contract trwy ei gyfraniad cryf at yr economi a'r gweithlu lleol a'i ymrwymiad i gyfleoedd hyfforddi da a chyflog teg. 

"Bydd y Contract Economaidd yn esblygu wrth i flaenoriaethau busnesau a'r Llywodraeth esblygu i'n helpu i adeiladu'r math o economi ffyniannus, teg a chryf y mae Cymru'n ei haeddu ac sydd ei hangen arni. Bu'n flwyddyn gyntaf lwyddiannus yn ôl pob llinyn mesur ac rwy'n disgwyl ymlaen at weld y llwyddiant, twf economaidd a'r esblygiad hwnnw'n parhau dros y flwyddyn i ddod a thu hwnt."