Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Gorffennaf, yn dilyn marwolaeth George Floyd a mis o weithredu gan fudiad Mae Bywydau Du o Bwys, gofynnwyd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, am archwiliad brys o gerfluniau, adeiladau ac enwau strydoedd i fynd i'r afael â chysylltiadau Cymru â chaethwasiaeth a'r fasnach mewn caethweision.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r archwiliad, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 26 Tachwedd 2020), yn dangos bod y fasnach mewn caethweision yn rhan annatod o economi a chymdeithas Cymru, ac yn cael ei hadlewyrchu mewn llawer o’n cerfluniau, adeiladau ac enwau strydoedd.

Nododd yr archwiliad 209 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd, a leolir ym mhob rhan o Gymru, sy'n coffáu pobl a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â chaethwasiaeth a'r fasnach mewn caethweision, neu a oedd yn gwrthwynebu diddymu caethwasiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • 13 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd yn coffáu pobl a gymerodd ran yn y fasnach mewn caethweision o Affrica
  • 56 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd yn coffáu pobl a oedd yn berchen ar blanhigfeydd neu fwyngloddiau a oedd yn defnyddio caethweision – neu a oedd yn elwa’n uniongyrchol arnynt
  • 120 o henebion, adeiladau, neu enwau strydoedd yn coffáu pobl a oedd yn gwrthwynebu diddymu’r fasnach mewn caethweision neu gaethwasiaeth
  • 20 o henebion, adeiladau, neu enwau strydoedd yn coffáu pobl a gyhuddwyd o droseddau yn erbyn pobl Dduon, yn enwedig yn Affrica trefedigaethol

Canfu'r archwiliad, dan arweiniad Gaynor Legall, fod henebion sy’n coffáu pobl sy'n gysylltiedig â'r fasnach gaethwasiaeth yn aml yn cael eu dangos heb unrhyw ddehongliad cysylltiedig i fynd i'r afael â materion dadleuol. Heb hyn, cyflwynir y ffigurau fel modelau rôl yn unig yn hytrach na chynrychiolwyr agweddau heriol ar y gorffennol.

Canfu'r ymchwil hefyd mai ychydig iawn o bobl o dreftadaeth Ddu neu Asiaidd sy'n cael eu coffáu ledled Cymru, sy'n dangos bod angen ystyried sut y dylem ddathlu'r cyfraniadau y mae pob rhan o'n cymuned wedi'u gwneud i'n gwlad.

Roedd yr archwiliad hefyd yn datgelu agweddau cadarnhaol ar hanes Cymru, gan dynnu sylw at enghreifftiau o goffáu ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth ledled Cymru; o gerflun Henry Richard yn Nhregaron, i enwau strydoedd ar ôl Samuel Romilly a neuaddau preswyl Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Er i ladd trasig George Floyd ddigwydd bron i 4,000 milltir i ffwrdd, sbardunodd weithredu byd-eang a oedd yn taflu goleuni ar anghydraddoldeb hiliol yn ein cymdeithas heddiw.

“Mae'r anghydraddoldeb hwnnw'n bodoli yng nghymdeithas Cymru hefyd a rhaid inni weithio tuag at Gymru sy'n fwy cyfartal. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae arnom angen dealltwriaeth glir o etifeddiaeth y fasnach gaethwasiaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae'r archwiliad hwn yn darparu tystiolaeth bwysig sy'n ein helpu i sefydlu darlun gonest o'n hanes. 

“Nid yw hyn yn ymwneud ag ailysgrifennu ein gorffennol nac enwi pobl a chodi cywilydd. Mae'n ymwneud â dysgu o ddigwyddiadau'r gorffennol. Mae'n gyfle inni sefydlu perthynas aeddfed â'n hanes a dod o hyd i dreftadaeth y gall pob un ohonom ei rhannu.

“Dyma gam cyntaf mewn darn llawer mwy o waith a fydd yn ystyried sut symudwn ni ymlaen gyda'r wybodaeth hon, wrth inni geisio anrhydeddu a dathlu ein cymunedau amrywiol.”

Dywedodd Gaynor Legall, arweinydd y grŵp gorchwyl a gorffen a arweiniodd yr archwiliad

“Rwy’n hynod falch o’r darn o waith hwn, am ei fod yn rhoi disgrifiad trylwyr a ffeithiol iawn o ran Cymru yn y Fasnach mewn Caethweision, ac yn ehangu ein gwybodaeth am hanes Cymru. Gobeithio y bydd yn arwain at blant yn dysgu'r hanes cyflawn gyda’i holl ffaeleddau.”