Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi £191,000 ychwanegol i gefnogi Mudiad Meithrin, gan gynnwys cyllid i helpu i ailddechrau grwpiau Cylch Ti a Fi i rieni a phlant bach.
Mae grwpiau i rieni a phlant bach fel Cylch Ti a Fi yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi llesiant y bobl sy'n eu defnyddio. Bydd y cyllid yn rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gefnogi cymaint o grwpiau â phosibl i gwrdd yn ddiogel wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio. Nid yw'r grwpiau wedi gallu cwrdd fel arfer o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19. Mae grwpiau Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i deuluoedd a phlant fwynhau chwarae gyda'i gilydd mewn amgylchedd Cymraeg anffurfiol, ni waeth beth fo eu gallu i siarad yr iaith. Maent yn cynnig ffordd i deuluoedd ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda'u plant, ac yn helpu i feithrin siaradwyr Cymraeg newydd. Caiff y cyllid ei ddefnyddio hefyd i gefnogi ac estyn y rhaglen Cam wrth Gam, sy'n darparu cyrsiau ym maes gofal plant i ddisgyblion blwyddyn 10–13 mewn ysgolion uwchradd. Mae Cam wrth Gam yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau rhagor o ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar drwy gyfrannu at ddatblygu staff cymwysedig i'r sector gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae'r cyllid hwn ar ben y swm o dros £3miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei roi i Mudiad Meithrin i arwain y gwaith o ehangu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, yn ogystal â chynllunio'r gweithlu sydd ei angen i'w chefnogi. Nod Mudiad Meithrin yw cefnogi teuluoedd a phlant o adeg geni hyd at oedran ysgol drwy ei grwpiau a'i fentrau. Mae grwpiau Cylch Ti a Fi yn chwarae rhan bwysig wrth gynnig cyflwyniad cynnar i'r Gymraeg, yn ogystal â chyfleoedd i wneud ffrindiau a chreu rhwydweithiau o gymorth i rieni sy'n para y tu hwnt i'r grŵp ei hun. Dywedodd Jeremy Miles:
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
|