Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi yn swyddogol fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £14 miliwn i ehangu ac ad-drefnu rhannau o adran achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Bydd y cyllid yn gwella ansawdd profiadau cleifion a staff ac yn sicrhau bod y cyfleusterau cywir ar gael i roi gofal diogel ac amserol yn gyson i'r rhai sydd angen defnyddio'r gwasanaeth.
Bydd y prif fan aros yn cael ei ehangu yn sylweddol a bydd y man aros presennol yn cael ei ad-drefnu yn fan asesu cyflym, lle gellir cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau ar gleifion yn gyflym a'u monitro am gyfnodau byr.
Mae adran achosion brys Ysbyty'r Faenor wedi wynebu galw digynsail ers ei hagor ym mis Tachwedd 2020, gydag effaith y coronafeirws yn cyfrannu at y sefyllfa hon.
Ar gyfartaledd, mae tua 263 o gleifion yn mynd i'r adran yn ddyddiol. Roedd y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer 100 i 170 o gleifion y dydd. Mae hyn wedi arwain at orlenwi ac amodau anghyfforddus i gleifion a'u perthnasau, yn ogystal ag amodau gweithio anodd i staff.
Bydd dyluniad newydd yr adran achosion brys yn dyblu maint y man aros presennol, yn cynyddu capasiti brysbennu, yn cynnig mwy o welededd yn yr ystafell aros i hwyluso monitro cleifion, ac yn sicrhau mwy o le ar gyfer trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a chynnal asesiadau a thriniaethau clinigol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
Mae'r adran achosion brys yn Ysbyty'r Faenor o dan bwysau eithafol.
Bydd y buddsoddiad sylweddol yma yn gwneud yr adran yn le mwy cyfforddus ac yn gwella diogelwch a phreifatrwydd i gleifion. Bydd hefyd yn sicrhau amgylchedd gweithio gwell i staff.
Rydyn ni'n dal i weithio gyda'r bwrdd iechyd i'w helpu i gymryd camau a gwneud gwelliannau o ran gofal brys ac argyfwng. Mae hyn yn cynnwys cynnig opsiynau diogel eraill yn lle adrannau achosion brys a derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau mai dim ond pobl sydd wir angen bod yn yr ysbyty sydd yno ac yn cael y canlyniadau gorau posib.
Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cadarnhad o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Ers iddi gael ei dylunio gyntaf, mae'r galw ar yr adran wedi newid yn sylweddol ac mae llawer mwy o bobl yn mynd i'r adran na wnaethom ni rag-weld yn y lle cyntaf.
Ar ôl ystyried yr angen ychwanegol yma, rydyn ni wedi rhoi cynlluniau ar waith i ehangu maint y man aros a'r gofod asesu i ateb anghenion cynyddol ein poblogaeth.
Ein gobaith yw y bydd yr estyniad newydd yn gwella profiadau ein cleifion yn fawr pan fyddan nhw angen mynd i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu hamynedd wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau.