Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu ffigurau sy'n dangos bod rhaglen Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 1,550 o swyddi yn 2017/18.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw'r ffigurau o adroddiad cynhwysfawr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i ddangos sut mae pob un o'r wyth Ardal Fenter yng Nghymru yn dod yn eu blaen.  

Yn ôl y ffigurau yn yr adroddiad blynyddol ar yr Ardaloedd Menter ar gyfer 2017/18, roedd busnesau yn yr Ardaloedd wedi elwa ar dros £5.3 miliwn o gymorth uniongyrchol, ac roedd y sector cyhoeddus wedi buddsoddi dros £52 miliwn mewn trafnidiaeth a seilwaith fel ei bod yn haws cyrraedd yr Ardaloedd.  

Cyfeirir yn yr adroddiad at Ffordd Gyswllt Llangefni, sy'n rhan o'r cynllun i ddatblygu Campws Llangefni yn Ganolfan Hyfforddiant o fri rhyngwladol ym maes Ynni a Pheirianneg, at Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae yng Nghaerdydd ac at y rhan newydd o'r A465 rhwng Bryn-mawr a Thredegar − rhai yn unig o'r cynlluniau seilwaith y buddsoddwyd ynddynt er mwyn helpu'r Ardaloedd Menter i dyfu.     

Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn dangos: 

  • bod gan bron 96% o'r adeiladau mewn Ardaloedd Menter wasanaeth Band Eang Cyflym Iawn.
  • bod gwerth £11 miliwn o gymorth ardrethi busnes wedi'i roi i fusnesau yn yr ardaloedd hyn. 
  • bod safleoedd dynodedig yng Nglannau Dyfrdwy, Glynebwy, Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Phort Talbot wedi cael Lwfansau Cyfalaf Uwch i helpu gyda gwaith sy'n mynd rhagddo i wella'r seilwaith ac i'w gwneud yn fwy deniadol i fuddsoddwyr. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

"Dw i'n falch o fedru dweud bod ein Hardaloedd Menter wedi cefnogi 1,550 o swyddi yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy'n golygu bod dros 12,250 o swyddi wedi cael eu cefnogi drwy'r rhaglen. 

"Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod yr ardaloedd hyn, gyda'i gilydd, wedi elwa ar £57.6 miliwn o fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus. Defnyddiwyd y cyllid hwnnw i wella cysylltiadau trafnidiaeth a seilwaith ac i greu'r amodau gorau posibl i fusnesau er mwyn eu helpu i ddatblygu ac i dyfu dros y tymor byr a'r tymor hir.   

"Er nad yw pob un o'r wyth Ardal Fenter wedi cyrraedd yr un man o ran eu datblygiad ac er bod heriau a chyfleoedd gwahanol yn eu hwynebu, mae'r adroddiad yn cadarnhau eu bod i gyd yn dod yn eu blaen yn dda a’u bod yn gosod y sylfeini ar gyfer y math o ffyniant cynhwysol a chynaliadwy rydyn ni'n gweithio'n galed i'w hyrwyddo drwy'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi."

Ewch i: adroddiad blynyddol ar yr Ardaloedd Menter ar gyfer 2017/18.