Bydd addasiad o gomedi glasurol ddychanol Evelyn Waugh Decline and Fall - yn cael ei ffilmio yn Ne Cymru diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Sgrîn Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae’r prif waith ffilmio wedi dechrau gyda chast o enwogion sy’n cynnwys Jack Whitehall (Bad Education, Fresh Meat), David Suchet (Poirot Agatha Christie), Eva Longoria (Desperate Housewives) a Douglas Hodge (Penny Dreadful). Mae’r darlun sydd wedi’i atodi yn dangos Whitehall yn ei wisg ar ei ddiwrnod cyntaf o ffilmio yn Coleg yr Iwerydd, Castell Sain Dunwyd, Sain Dunwyd , Llanilltud Fawr.
Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi help ariannol i Tiger Aspect Drama a Cave Bear Productions, sef cynhyrchwyr y gyfres, ac fe ragwelir y byddan nhw’n gwario tua £1.8 miliwn yma yng Nghymru.
Mae dylanwad Cymreig cryf ar Decline and Fall gan fod y mwyafrif o’r stori wedi’i gosod mewn ysgol breifat ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.
Mae Tiger Aspect Productions, un o gwmnïau Endemol Shine, yn un o gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol y byd. Rhagwelir y bydd yna lawer o ddiddordeb o bob cwr o’r byd yn y cynhyrchiad hwn.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi:
“Pleser yw cael cyhoeddi’r cyllid hwn. Bydd yn helpu i sicrhau bod y gyfres ddrama proffil uchel hon y mae llawer o aros wedi bod amdani yn cael ei ffilmio yng Nghymru. Mae hon yn un o gyfres o gynyrchiadau teledu proffil uchel sydd wedi cael eu ffilmio yng Nghymru. Bydd hyn yn ychwanegu at yr enw da sydd gan Gymru fel lleoliad poblogaidd.
“Bydd yn rhoi hwb sylweddol i’r diwydiant ac yn creu swyddi a chyfleoedd i uwch sgilio i griwiau teledu Cymreig ac ar yr un pryd, yn creu amrywiaeth ehangach o fuddiannau economaidd i lawer o fusnesau bach sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau hefyd.”
Mae Sgrîn Cymru’n gweithio gyda Tiger Aspect ac yn eu cynghori ar leoliadau yn Ne Cymru a’r ardal gyfagos. Mae nhw hefyd yn eu helpu i ddod o hyd i griw llawrydd a hyfforddeion lleol i weithio ar y cynhyrchiad.
Meddai cynhyrchydd gweithredol Tiger Aspect Drama, Frith Tiplady:
“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn ac yn ddiolchgar bod y cymorth gan Gronfa Sgrin Cymru Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi i ffilmio Decline and Fall yng Nghymru. Byddwn yn ffilmio rhai lleoliadau gwych yng Nghymru ac yn gweithio gyda chriw lleol o safon uchel iawn.”
Bydd y cynhyrchiad, sydd wedi cael ei addasu ar gyfer y teledu am y tro cyntaf gan James Wood (Rev), yn cael ei gyfarwyddo gan Guillem Morales (Julia’s Eyes) a bydd yn cael ei gynhyrchu gan Ben Cavey o Cave Bear Productions a Will Gould o Tiger Aspect.
Mae’r cynhyrchiad yn dathlu 50 mlynedd ers marwolaeth Waugh a bydd y gyfres ddrama oriau brig 3 pennod 60 munud o hyd hon yn cael ei darlledu yn ddiweddarach eleni.