Canllawiau drafft ar reoli gwersylloedd diawdurdod - Pennod 2: deall gwersylloedd diawdurdod a rhwymedïau posibl
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pam mae gwersylloedd diawdurdod yn digwydd?
Mae pwrpas gwersylloedd diawdurdod yn amrywio a gallant ddigwydd am nifer o resymau. Un o'r rhesymau allweddol dros wersylloedd diawdurdod yw diffyg safleoedd awdurdodau lleol a mannau aros tramwy a thros dro/a negodwyd, a chau llawer o fannau aros traddodiadol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parchu ac yn cefnogi ffordd o fyw nomadaidd Sipsiwn a Theithwyr, ac mae'n cydnabod y gall gwersylloedd diawdurdod ddigwydd oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol a phriodol o safleoedd dros dro. Deellir bod rhaid ystyried mynd i’r afael â mater gwersylloedd diawdurdod yng nghyd-destun ehangach diffyg darpariaeth safleoedd.
Bydd darparu mwy o safleoedd awdurdodau lleol ynghyd â rheoli safleoedd yn effeithiol yn helpu i ddileu’r angen am wersylloedd diawdurdod. Mae’n hanfodol bod gan awdurdodau lleol brotocolau i ddelio’n briodol a chymesur â gwersylloedd diawdurdod. Wrth i safleoedd tramwy a mannau aros dros dro/a negodwyd gael eu datblygu, bydd angen rhoi protocolau rheoli gwersylloedd diawdurdod ar waith lai a llai, gan leihau’r goblygiadau gweinyddol ac ariannol sy’n gysylltiedig ag awdurdodau lleol yn gorfod ymateb.
Lle ceir gwersylloedd diawdurdod, dylai awdurdodau lleol, cyn belled ag y bo’n ymarferol, sicrhau eu bod yn ddiogel i’r unigolion dan sylw ac nad ydynt yn cael effaith andwyol ar y tir.
Mae’n debygol y bydd pob gwersyll diawdurdod yn wahanol i’r un nesaf. Gallant amrywio o ran:
- Maint: fel arfer, bydd gwersylloedd yn cynnwys ychydig o garafanau yn unig ond gallant gynyddu’n sylweddol ar adeg angladdau neu briodasau mawr neu ffeiriau diwylliannol traddodiadol.
- Lleoliad: ardaloedd glaswelltir cudd, neu dir gwarchodedig, neu ardaloedd gweladwy iawn, e.e. ar ochr y ffordd. Ceir mwy a mwy o wersylloedd mewn parciau diwydiannol neu fusnes.
- Yr effaith ar y gymuned sefydlog: yn yr un modd â’r boblogaeth sefydlog, efallai y bydd rhai gwersylloedd yn achosi niwsans i’r gymuned leol tra bydd eraill yn dawel.
- Yr effaith ar y tir: gall rhai gwersylloedd adael ardal heb ei difetha ac yn daclus tra gall eraill achosi difrod i'r tir a gadael gwastraff ar eu hôl.
Gall Sipsiwn a Theithwyr fod ar wersylloedd diawdurdod am amrywiaeth o resymau, er enghraifft:
- Nid oes gan y meddianwyr lain awdurdod lleol i osod eu carafán arno. Efallai fod cyplau sydd newydd briodi wedi gadael lleiniau eu rhieni ond nad oes ganddynt eu lleiniau cyfreithlon eu hunain.
- Mynd i ddigwyddiad teuluol yn yr ardal leol, fel priodas neu angladd.
- Efallai fod ymdrechion i addasu i fyw mewn ‘brics a morter’ wedi methu.
- Aros dros nos wrth deithio i leoliad arall, er enghraifft, i safle parhaol neu borthladd.
- Rhesymau iechyd, er enghraifft os oes angen gofal meddygol brys ar aelod o’r grŵp, ymweliad â meddyg teulu am feddyginiaeth, neu os yw menyw feichiog yn dynesu at ei dyddiad esgor.
- Dod o hyd i waith.
- Galluogi plant a phobl ifanc i fynychu'r ysgol neu addysg drydyddol.
- Darparu seibiant o'r teithio i aelod oedrannus neu sâl o’r grŵp.
Bydd gwersylloedd hirdymor yn aml yn digwydd am resymau addysg neu ofal iechyd, neu yn syml am nad oes llain arall ar gael.
Gall gwersylloedd byrdymor ddigwydd am amrywiaeth eang o amgylchiadau, a gallant bara am gyfnod penodol yn unig, fel am gyfnod dathliadau priodas neu gyfnod o driniaeth yn yr ysbyty.
Mae gwersylloedd diawdurdod byrdymor a hirdymor yn debygol o gael effaith ar yr ardal leol o ran darparu gwasanaethau a mynediad at y tir a feddiannir.
Dylai awdurdodau lleol gydnabod y gall fod yn fwy cymesur a chost-effeithiol darparu llain i’r rhai sydd ar wersyll diawdurdod, hyd yn oed os mai llain dros dro yw hwnnw mewn man aros dros dro/a negodwyd, yn hytrach na chymryd unrhyw gamau gorfodi yn eu herbyn. Gallai datblygu a darparu lleiniau a safleoedd awdurdodau lleol helpu cydlyniant cymunedol, cyfyngu ar y posibilrwydd o unrhyw ddifrod i dir cyhoeddus, a lleihau'r costau clirio. Byddai safleoedd o’r fath hefyd yn darparu refeniw i awdurdodau lleol gan y byddai meddianwyr yn talu ffi llain a’r Dreth Gyngor.
Man aros dros dro/a negodwyd yw safle sydd â chaniatâd cynllunio priodol lle mae gan Sipsiwn a Theithwyr wedi cael caniatâd i aros gan y tirfeddiannwr, sef awdurdod lleol fel arfer. Gellir darparu mannau aros dros dro/a negodwyd i adleoli gwersylloedd sydd wedi’u lleoli’n amhriodol, wrth i safleoedd eraill gael eu datblygu. Bwriedir i’r rhain fod yn fesur cwbl dros dro lle nad oes gan awdurdodau lleol ddarpariaeth barhaol neu dramwy addas ar gael yn eu hardal. Nid datrysiad hirdymor mohonynt a rhaid i awdurdodau lleol barhau i gyflawni eu dyletswyddau i ddarparu llety priodol i Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Nid yw’r gofynion sy’n ymwneud â safleoedd yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol i fannau aros dros dro/a negodwyd gan nad yw’r rhain yn safleoedd awdurdod lleol nac yn safleoedd tramwy. Fodd bynnag, dylai mannau aros dros dro/a negodwyd bob amser ddarparu amwynderau sylfaenol i feddianwyr, gan gynnwys gwaredu gwastraff, cyflenwad dŵr a glanweithdra. Dylai’r teuluoedd sy’n defnyddio mannau aros dros dro/a negodwyd hefyd gael asesiad lles gan yr awdurdod lleol cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol tuag at yr unigolion hynny.
O ran cyhoeddi’r canllawiau hyn, mae angen 277 o leiniau i ddiwallu’r angen a nodwyd yng nghylch diweddaraf 2 (2016-2022) yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, sy’n cynrychioli prinder sylweddol o lety priodol ar gyfer y cymunedau hyn.
Dulliau o ddatrys gwersylloedd diawdurdod
Os ceir gwersyll diawdurdod ac nad oes unrhyw leiniau awdurdod lleol eraill yn yr ardal, mae gan awdurdodau lleol 3 phrif lwybr i ymateb i hyn. Dylid ystyried pob opsiwn yn ofalus:
- Llwybr 1: negodi gyda’r Sipsiwn neu Deithwyr sy'n meddiannu, a chytuno i’r gwersyll diawdurdod am gyfnod cyfyngedig iawn.
- Llwybr 2: dod o hyd i safle arall neu gytuno ar fan aros dros dro/a negodwyd yn rhywle arall, hyd yn oed os yw'n un dros dro yn unig, nes y gellir dod o hyd i safle parhaol neu hirdymor addas neu bod y meddianwyr yn symud ymlaen yn wirfoddol.
- Llwybr 3: os nad yw Llwybrau 1 a 2 yn datrys y sefyllfa neu os ydynt yn amhriodol am unrhyw reswm, ceisio meddiant o'r safle a feddiannir (achosion troi allan).
Mae penderfynu pa lwybr i’w ddilyn yn golygu dod o hyd i gydbwysedd teg rhwng hawliau Sipsiwn a Theithwyr a hawliau tirfeddianwyr a’r cyhoedd. Dylid delio â phob gwersyll fesul achos.
Dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad lles ar bawb sydd ar y gwersyll er mwyn deall eu hanghenion a sicrhau bod yr anghenion hynny’n cael sylw fel sy’n ofynnol o dan ddyletswyddau statudol yr awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol hefyd gysylltu â gwasanaethau eraill a allai fod â chyfrifoldebau tuag at y meddianwyr. Dylid gwneud yr archwiliadau hyn cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn 24 awr ar ôl i’r awdurdod lleol ddod yn ymwybodol o’r gwersyll, (cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol). Mae ffurflen asesu lles ar gael yn Atodiad 3.
Gall asesiadau lles hefyd helpu awdurdodau lleol i ddeall anghenion llety teuluoedd ac a oes angen llain arnynt ar safle tramwy neu fan aros dros dro/a negodwyd.
Yn aml, trigolion lleol a busnesau sy’n poeni am yr effaith bosibl arnynt fydd yn dod o hyd i wersylloedd yn gyntaf. Gall pryderon amrywio o’r posibilrwydd o niwsans cyhoeddus, tipio anghyfreithlon, ehangu gwersylloedd a deiliadaeth barhaol. Efallai y bydd gan y cyhoedd ddisgwyliadau y gellir clirio gwersylloedd cyn gynted â phosibl ar ôl i’r awdurdod lleol gael gwybod. Fodd bynnag, o ran os a phryd i gymryd unrhyw gamau troi allan yn erbyn y gwersyll, bydd hynny'n dibynnu ar yr amgylchiadau ym mhob achos.
Dim ond ar ôl ystyried holl amgylchiadau’r achos y dylid penderfynu a ddylid cymryd camau troi allan, gan gynnwys a oes gan y meddianwyr anghenion lles penodol ac i ba raddau y mae’r gwersyll yn achosi niwsans cyhoeddus.
Bydd troi meddianwyr allan o wersyll diawdurdod yn aml yn arwain at gostau sylweddol i’r awdurdod lleol a’r heddlu ac yn cymryd amser i’w datrys. Gallai hefyd fethu â darparu ateb hirdymor: lle oedd y meddianwyr wedi sefydlu gwersyll diawdurdod yn ardal gyffredinol yr awdurdod lleol oherwydd diffyg lleiniau eraill; yn absenoldeb unrhyw ddewisiadau dros dro, gallant symud i wersylla diawdurdod arall yn yr un ardal.
Gall dod o hyd i fannau aros dros dro/a negodwyd ddarparu ddatrysiad pragmatig a chost-effeithiol ac mae’n galluogi’r awdurdod lleol i adleoli gwersyll o leoliad amhriodol gan gydnabod yr angen i ddarparu cymorth i’r meddianwyr.
Pan ystyrir bod Sipsiwn a Theithwyr yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, efallai y bydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn dymuno ystyried a fyddai’n briodol negodi a derbyn gwersyll diawdurdod nes bydd canlyniad unrhyw gais digartrefedd yn hysbys, oni bai fod y gwersyll yn fygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd neu gydlyniant cymunedol.