Daeth yr ymgynghoriad i ben 24 Ebrill 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 146 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich adborth ar reoliadau drafft sy'n sicrhau fod pob ysgol a gynhelir yng Nghymru yn darparu bwyd a diod sy'n cyd-fynd â safonau statudol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gall y bwyd a’r diod a ddarperir mewn ysgolion wneud cyfraniad positif tuag at ddeiet plant a phobl ifanc gan eu helpu i ddatblygu arferion bwyta da. Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella’r bwyd a’r diod sy’n cael ei ddarparu mewn ysgolion drwy’r agenda Blas am Oes a mentrau eraill perthnasol.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar reoliadau arfaethedig o ran y brecwast y cinio a’r diodydd a’r bwydydd eraill sy’n cael eu darparu ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru yn ystod y diwrnod ysgol. Mae’r safonau yn y rheoliadau drafft yn seiliedig ar y safonau sy’n cael eu hargymell gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.