Dr Simon Stewart Aelod
Mae Dr Simon Stewart yn weithiwr ieuenctid, darlithydd ac arweinydd ieuenctid profiadol ac ar hyn o bryd mae’n Ddeon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Mae gan Simon brofiad helaeth o weithio gyda gwahanol grwpiau o bobl ifanc ledled Cymru o ganlyniad i’w swydd bresennol a swyddi cynt yn y sectorau gwirfoddol a statudol. Mae Simon wedi bod yn arbenigwr allanol ar gyfer rhaglen Ieuenctid ar Waith y Cyngor Prydeinig ac mae ganddo brofiad helaeth o waith ieuenctid rhyngwladol a dysgu rhyngddiwylliannol ar ôl gweithio ar amrywiaeth o brosiectau yn Ewrop ac yn ehangach yn Ghana ac i'r Cyngor Prydeinig yn Israel. Teitl ei ddoethuriaeth a gwblhawyd yn ddiweddar oedd 'Applying a Voice Centered Relational Methodology to International Youth Work and Intercultural Learning in Wales’.
Ymunodd Simon â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2008, gan arwain ar y rhaglenni BA ac MA Gwaith Ieuenctid a datblygu rhaglen BA rhan-amser a gyflwynwyd ar benwythnosau ar gyfer y maes ymarfer cyn symud i'w rôl bresennol fel Deon y Gyfadran. Mae’n entrepreneur o’i hanfod, gan sefydlu a chyfarwyddo menter gymdeithasol ym maes addysg anffurfiol a thechnoleg. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn arweinyddiaeth sefydliadau a defnyddio technoleg fel ateb i heriau ymarfer presennol.
Ochr yn ochr â'r Athro Mandy Robbins, mae Simon wedi bod yn olygydd gwestai ar y Youth Voice Journal. Cyhoeddwyd ei erthygl ddiweddaraf 'A listening guide to Youth work' yn rhifyn mis Gorffennaf 2022.