Neidio i'r prif gynnwy
Dr Rebecca Driver

Mae Rebecca yn economegydd sydd â dros 25 mlynedd o brofiad.

Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi gweithio ar ystod eang o faterion polisi cyhoeddus, gan gynnwys cynllunio, trafnidiaeth a chynaliadwyedd, ac mae hi wedi cyhoeddi’n helaeth.

Ar hyn o bryd, Rebecca yw cyfarwyddwr yr ymgynghoriaeth ymchwil Analytically Driven Ltd. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Ymchwil a Phrif Economegydd yn y Gymdeithas Yswirwyr Prydeinig, a Chynghorydd Ymchwil i Aelodau Allanol Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o Fwrdd ORIC (y Consortiwm Yswiriant Risg Weithredol), yn ogystal ag aelod o amryw fyrddau cynghori a grwpiau llywio sy’n gwasanaethu’r byd academaidd, y llywodraeth a diwydiant.