Dr Nerys Llewelyn Jones Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru
![Dr Nerys Llewelyn Jones](/sites/default/files/styles/photo_small/public/key-people/dr-nerys-llewelyn-jones-600x400.jpg?itok=Nl2J0gyV)
Adolygu pryderon ynghylch sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yng Nghymru.
Mae Nerys yn gyfreithwraig uchel ei pharch yn ei meysydd arbenigol, sef y gyfraith amgylcheddol a gwledig ac yn sylfaenydd cwmni gwasanaethau proffesiynol arbenigol.
Roedd ei doethuriaeth mewn Datblygu Cynaliadwy a gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi ar lefelau llywodraethu rhyngwladol a rhanbarthol.
Mae'n siarad yn gyson am gyfraith a pholisi amaethyddol ac amgylcheddol yn y DU ac Ewrop.
Mae'n wybodus am strwythur datganoledig cyfreithiol a gweinyddol y DU ac mae'n rhugl yn y Gymraeg.
Mae Nerys yn Gyfryngwr Achrededig ADR ac yn cael ei chydnabod am ei gallu i ddatrys problemau.
Os hoffech gysylltu ag Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru. E-bostiwch IEPAW@llyw.cymru
Os oes gennych bryderon ynghylch gweithrediad deddfau amgylcheddol yng Nghymru, darllenwch ragor o wybodaeth ar sut i godi eich pryder.
Rôl |
Corff |
Tymor |
---|---|---|
Is-gadeirydd |
Ffermwyr Dyfodol Cymru |
Tachwedd 2020 – 2022 |
Is-gadeirydd |
Agricultural Law Association (ALA) |
Mehefin 2019 – 2025 |
Cynrychiolydd i’r CEDR |
Yn aelod o fwrdd rheoli CEDR ar ran ALA |
Presennol |
Aelod o Banel y Perchenogion Tir |
Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru |
Presennol |
Aelod o Fwrdd Strategaeth Cyswllt Ffermio |
Cyswllt Ffermio/Menter a Busnes |
Ailbenodwyd yn 2020 – Penodiad 5 mlynedd |
Penderfynydd a Chyfryngydd Arbenigol ar y Panel |
ALADR |
Penodiad 5 mlynedd |
Rheolwr Gyfarwyddwr |
Maes Consulting Ltd |
Presennol – Ymgynghoriaeth Fusnes, Hyfforddwr a Mentor i Uwch Swyddogion, Cyfryngu |
Partner Rheoli |
Agri Advisor Legal LLP |
Presennol |
Cyfarwyddwr |
Rural Advisor Ltd |
Presennol |
Cyfarwyddwr |
Trade Advisor Ltd |
Gorffennol |
Cyfarwyddwr |
Agri Advisor Ltd ac Agri Advisor Holdings Ltd |
Gorffennol |
Partner |
Messrs T A Jones |
Presennol – busnes ffermio. Mae’r busnes hefyd yn aelod o’r NFU |