Dr Lynn Sloman Comisiynydd
Mae Dr Lynn Sloman yn aelod o Gomisiwn Trafnidiaeth De-orllewin Cymru.
Lynn yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Trafnidiaeth er Bywyd o Safon, sef ymgynghorieth arbenigol ym maes yr amgylchedd a thrafnidiaeth gynaliadwy. Mae ei gwaith yn Trafnidiaeth er Bywyd o Safon yn canolbwyntio ar ddylunio a gwerthuso rhaglenni buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy.
Mae Lynn yn Aelod o Fwrdd Awdurdod Trafnidiaeth Llundain ac yn un o Ymddiriedolwyr y Sefydliad Trafnidiaeth Integredig. Bu gynt yn Is-gadeirydd y Comisiwn Trafnidiaeth Integredig, yn Aelod o Fwrdd Cycling England, ac yn Gadeirydd yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well.
Mae gan Lynn DPhil yng Ngwyddorau’r Ddaear o Brifysgol Rhydychen, ac mae wedi gweithio fel daearegydd fforio ac fel ymchwilydd i faterion gwyddonol ac amgylcheddol yn Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin. Mae’n byw ger Machynlleth yn y canolbarth am ran o’r amser.