Dr Georgina Santos Comisiynydd
Darllenydd, Prifysgol Caerdydd.
Mae Georgina Santos yn economegydd sydd â diddordeb mewn economeg amgylcheddol a thrafnidiaeth a pholisi cyhoeddus. Mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar drethi amgylcheddol ar gyfer trafnidiaeth awyr a ffyrdd ac ar oedi mewn meysydd awyr a thagfeydd traffig ar ffyrdd, ac yn fwy diweddar, ar symudedd a rennir a Symudedd fel Gwasanaeth. Mae gan Georgina radd gyntaf mewn Economeg o Universidad Nallafnol del Sur (yr Ariannin), MSc mewn Economeg Amgylcheddol ac Adnoddau o Goleg Prifysgol Llundain a Doethuriaeth mewn Economeg o Brifysgol Caergrawnt. Ar ôl cwblhau ei Doethuriaeth, cafodd Georgina Gymrodoriaeth Ôl-Ddoethurol yr Academi Brydeinig yn y Gyfadran Economeg ym Mhrifysgol Caergrawnt, ar y cyd â Chymrodoriaeth Ymchwil Iau yng Ngholeg Wolfson. Wedi hyn cafodd Ddarlithyddiaeth Adrannol yn yr Uned Astudiaethau Trafnidiaeth, yn Ysgol Daearyddiaeth a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Rhydychen. Roedd Georgina hefyd yn un o'r chwe chymrawd cyntaf yn Ysgol Smith ar gyfer Menter a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn iddi symud i Brifysgol Caerdydd. Mae gwaith ymchwil Georgina wedi'i ariannu gan y Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang, y Comisiwn Ewropeaidd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yr Academi Brydeinig, Shell, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ac Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Rhanbarthau'r DU fel yr oedd ar y pryd.