Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru

Dr Frank Atherton yw'r Prif Swyddog Meddygol

Mae'n gyfrifol am:

    • gweithio gydag adrannau polisi Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol ar iechyd y cyhoedd
    • arwain y cyfraniad clinigol yng Nghymru o ran gwella ansawdd gofal iechyd a chanlyniadau i gleifion
    • arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru. Mae ei brif swyddogaethau'n cynnwys rheoleiddio meddygol, addysg a hyfforddiant, safonau a pherfformiad
    • datblygiad ymchwil iechyd a gofal yng Nghymu
    • cynnal Cysylltiadau Rhyngwladol ac yn y DU gyda Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU, adrannau llywodraethol a sefydliadau

    Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys:

    • Dirprwy Brif Swyddog Meddygol yn yr Adran Iechyd a Lles yn Nova Scotia, Canada
    • Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Swydd Gaerhirfryn
    • Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU