Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn cwmpasu pob presgripsiwn a weinyddwyd gan fferyllwyr cymunedol (gan gynnwys fferyllfeydd mewn archfarchnadoedd) yn ystod 2017.

Siart yn dangos bu cynnydd yn nifer yr eitemau o bresgripsiynau a weinyddwyd yn y gymuned o 43.7 miliwn yn 2000 i 80.4 miliwn yn 2017.

Prif bwyntiau

  • Bu cynnydd yn nifer yr eitemau o bresgripsiynau a weinyddwyd yn y gymuned o 80.3 miliwn yn 2016 i 80.4 miliwn yn 2017 (cynnydd o 0.2%), cyfwerth â 25.8 o eitemau fesul pen.
  • Cost net cynhwysion pob presgripsiwn a weinyddwyd yn y gymuned yn 2017 oedd £578.1 miliwn, yn debyg iawn i’r gost yn 2016.
  • Dosbarthodd Cymru'r nifer uchaf o eitemau ar bresgripsiwn i bob person o’r boblogaeth - 25.8 o'i gymharu â 22.3 yng Ngogledd Iwerddon, 20.0 yn Lloegr ac 19.2 yn yr Alban.
  • Meddyginiaethau ar gyfer trin y system gardiofasgwlaidd yw’r grŵp mwyaf o ran eitemau presgripsiwn (23.5 miliwn), ond meddyginiaethau ar gyfer trin y system nerfol ganolog yw’r grŵp mwyaf o ran y gost (£123.9 miliwn).
  • Ar draws holl benodau British National Formulary (BNF), Omeprazole oedd y cemegol ragnodir yn fwyaf aml gyda 2.6 miliwn eitemau wedi’u dosbarthu yn 2017.

Nodyn

Yn ychwanegol i’r ystadegau blynyddol yma, cyhoeddir data misol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Mae diweddariadau i'r adroddiad hwn wedi'u gohirio. Rydym wrthi’n adolygu ein hadroddiadau presgripsiynau (‘Presgripsiynau gan Feddygon Teulu’ a ‘Dosbarthu presgripsiynau yn y gymuned’) i wella cydlyniad ac yn datblygu ffyrdd gwell ar gyfer defnyddwyr i archwilio’r data. Bydd dyddiad newydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Adroddiadau

Dosbarthu presgripsiynau yn y gymuned, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 964 KB

PDF
Saesneg yn unig
964 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Nodiadau esboniadol ar gyfer y dadansoddiad o gostau presgripsiynau , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 206 KB

PDF
Saesneg yn unig
206 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.