Neidio i'r prif gynnwy

Haint feirysol sy'n effeithio ar wartheg yw dolur rhydd feirysol buchol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

BVD yw un o'r clefydau gwartheg pwysicaf o ran cost economaidd, cynhyrchiant a lles. Mae'r rhan fwyaf o fuchesi yng Nghymru yn rhydd ohono. 

Achosion BVD: 

  • diffyg imiwnedd
  • erthyliad
  • anffrwythlondeb
  • methu â ffynnu 
  • marwolaeth, yn enwedig mewn lloi

Mae rheoli BVD yn canolbwyntio ar adnabod anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaus (PI) a'u tynnu o'r fuches. Mae’r anifeiliaid hyn yn bwrw llawer iawn o'r feirws drwy gydol eu bywydau, a nhw yw prif ffynhonnell yr haint. 

Byddai dileu BVD o'r buchesi sy'n weddill yn werth miliynau o bunnoedd i'r sector gwartheg yng Nghymru.

Arwyddion clinigol

Mae BVD yn achosi pob math o glefydau mewn gwartheg. Gall y pwysicaf ohonyn nhw ymyrryd ag atgenhedlu, effeithio ar y llo heb ei eni ac arwain at glefyd mwcws. 

Gall y feirws BVD hefyd achosi enteritis yn ystod haint acíwt neu dros dro. Mae hwn fel arfer yn ysgafn ond mae'n gallu bod yn ddigon difrifol i achosi marwolaeth, hyd yn oed mewn gwartheg llawn dwf. 

Mae haint feirws BVD dros dro yn gallu atal ymwrthedd i glefydau yn sylweddol. Gall hyn gyfrannu at achosion o niwmonia neu ysgothi mewn lloi, a chlefydau eraill.

Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wartheg sydd wedi'u heintio'n barhaus, neu anifeiliaid PI. Mae'r rhain yn cael eu geni gyda'r clefyd, ar ôl dod i gysylltiad â'r feirws yn y groth yn ystod 120 diwrnod cyntaf y beichiogrwydd. Bydd ganddyn nhw BVD drwy gydol eu hoes ac maen nhw'n bwrw’r feirws yn helaeth, gan heintio gwartheg glân yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. 

Mae'r rhan fwyaf yn marw fel lloi, ond mae rhai yn byw yn hirach. Mae eu hadnabod a'u tynnu o'r fuches genedlaethol yn hanfodol i unrhyw ymgais i ddileu'r haint.

Mae mwy o wybodaeth yn y daflen gan Sefydliad Ymchwil Moredun. Gallwch chi hefyd wylio'r fideo hwn gan Sefydliad Moredun (ar YouTube) ar sut i frwydro yn erbyn BVD a'i atal yn eich buches.

Amddiffyn eich buches rhag BVD

Mae BVD yn cael ei ledaenu'n hawdd ac yn gyflym gan anifeiliaid PI (gwartheg sydd wedi'u heintio'n barhaus). Ffocws cynllun dileu BVD Cymru yw dod o hyd i'r holl wartheg hyn a'u hatal rhag heintio gwartheg eraill. Gwyddom o raglenni cenedlaethol eraill os bydd yr anifeiliaid PI yn cael eu tynnu, mae modd dileu BVD.   

Gall yr haint ledaenu drwy lwybrau eraill, ond mae'r rhain yn llawer llai pwysig nag anifeiliaid PI o ran cadw'r clefyd i ledaenu. Y ffyrdd eraill mae BVD yn lledaenu yw:

  • gwartheg sydd wedi'u heintio dros dro, sy'n cynhyrchu llai o'r feirws nag anifeiliaid PI a dim ond am 2-3 wythnos, ac
  • arwynebau halogedig; gallwch chi gludo'r feirws ar ddwylo budr, dillad, cerbydau ac offer.

Er mwyn amddiffyn eich buches rhag haint BVD, dylech chi fynd ati yn gyntaf i atal cyswllt ag anifeiliaid PI ac anifeiliaid sydd wedi'u heintio dros dro. Gall y risg ddod:

  • o'ch buches chi
  • o fuchesi cyfagos dros y ffens
  • o wartheg yn yr un cylch sioe
  • o'r lloc nesaf yn y farchnad 
  • o'r tu mewn i'r un cerbyd

Yn ail, dylech chi leihau'r risg o ddod â feirysau ar y fferm drwy arwynebau halogedig. Mae hylendid da yn berthnasol i bob ymwelydd â'r fferm, yn ogystal â'r ceidwad ac unrhyw staff ar y fferm.

Mesurau diogelu i'w hystyried

Statws BVD y fuches

Rhaid i fuchesi ddiweddaru statws BVD y fuches bob blwyddyn a dylen nhw ymchwilio i unrhyw arwyddion o haint. Bydd eich milfeddyg yn gallu’ch cynghori chi.

Bod yn ofalus wrth ddewis gwartheg newydd

Os nad ydych chi'n siŵr, gwiriwch statws yr anifail cyn ei brynu. Rhaid i bob ceidwad gwartheg yng Nghymru ddatgelu statws BVD y fuches a statws BVD unigol gwartheg cyn eu gwerthu.

“Gwartheg Caerdroea”

Dylech chi fod yn ofalus iawn os ydych chi'n dod â gwartheg neu dreisiedi cyflo i mewn i'ch buches. Efallai na fydd gan y llo heb ei eni yr un statws BVD â'i fam ac nid oes modd ei brofi tan iddo gael ei eni. 

Os oedd gwartheg benyw heb eu diogelu wedi dod i gysylltiad â BVD yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, bydd y llo yn anifail PI. Os ydych chi wedi prynu buwch neu dreisiad cyflo, cadwch hi ar wahân i loia a phrofwch y llo am y feirws BVD cyn gynted â phosibl. 

Mae tagio meinwe yn golygu bod modd gwneud prawf am y feirws BVD ar yr oedran cynharaf posibl. Peidiwch â gadael i'r llo gael cyswllt â gwartheg eraill nes ei fod wedi cael canlyniad prawf BVD negatif.

Marchnadoedd

Dylai pob marchnad da byw yng Nghymru allu dweud wrthych chi beth yw statws BVD yr anifail rydych chi'n bwriadu ei brynu. 

Rhaid i geidwaid a marchnadoedd da byw ddweud wrth ddarpar brynwyr beth yw statws BVD yr anifail a statws BVD y fuches mae'r anifail yn dod ohoni cyn ei werthu. 

Cofiwch y gall rhai clefydau, gan gynnwys BVD, ledaenu'n hawdd rhwng llociau mewn marchnad. Ystyriwch gadw gwartheg sydd newydd eu prynu ar wahân i weddill y fuches am yr ychydig wythnosau cyntaf.

Brechu

Gall brechiad BVD leihau'r risg o haint yn mynd i mewn i'r fuches. Bydd eich milfeddyg yn gallu’ch cynghori chi.

Ffensio

Gall ffensys dwbl atal cyswllt â gwartheg cyfagos.

Sioeau

Gall gwartheg sioe ddal BVD gan eraill yn y digwyddiad. Mae rhai anifeiliaid PI yn edrych yn iach a gall gwartheg yn yr un dosbarth â'ch anifail chi fod yn cario'r haint. Ystyriwch frechu’ch anifeiliaid cyn y tymor sioeau; bydd eich milfeddyg yn gallu’ch cynghori chi.

Cludiant

Gellir mynd ag anifeiliaid PI yn syth i'w lladd. Pan fydd cludwr yn cludo anifeiliaid o wahanol ddaliadau i'w lladd, ni ddylid dadlwytho'r anifeiliaid PI yn unrhyw un o'r daliadau ar y ffordd cyn cyrraedd y lladd-dy (symudiad uniongyrchol). 

Yn ddelfrydol, dylid sicrhau mai unrhyw anifeiliaid y gwyddys eu bod yn BVD Positif (anifeiliaid PI neu anifeiliaid PI dan amheuaeth) yw'r anifeiliaid olaf i gael eu casglu. Os bydd argyfwng yn codi a bod yn rhaid dadlwytho anifeiliaid BVD Positif, rhaid sicrhau nad ydyn nhw’n dod i gysylltiad ag unrhyw wartheg heblaw'r rhai sydd hefyd yn teithio i'r lladd-dy. 

Os oes rhaid eu dadlwytho, fe'ch cynghorir i lanhau a diheintio unrhyw ardal lle mae anifeiliaid BVD Positif wedi bod cyn i wartheg eraill ddefnyddio'r un ardal neu offer

Deddfwriaeth

Y brif ddeddfwriaeth BVD yw Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024Mae hwn yn nodi prif ofynion y cynllun dileu BVD yng Nghymru.