Pryd a sut i ddefnyddio'r dolenni mewnol ('node'), dolenni mewnol ('terms') a dolenni allanol ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w defnyddio
Cyn ei ddefnyddio, dylech sicrhau bod yr elfen hon yn briodol ar gyfer y math o gynnwys LLYW.CYMRU rydych yn ystyried ei ddefnyddio arno.
Dylech ddefnyddio dolenni perthnasol ar y bar ochr i wneud y canlynol:
- creu dolenni at gynnwys LLYW.CYMRU neu'r tu allan i LLYW.CYMRU sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys
Sut i'w defnyddio
Ymgorffori dolenni perthnasol ar y bar ochr
Pan fyddwch yn ymgorffori dolenni ar y bar ochr yn eich cynnwys, dylech:
- beidio, yn fwriadol, ag ailadrodd yr holl ddolenni perthnasol o fewn brawddegau (dolenni mewnol)
- ddim ond cynnwys hyd at tua 5 dolen fel arfer
- ddim ond creu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr
- ddim ond creu dolenni i wefannau eraill lle y bo'n briodol
Ysgrifennu testun dolenni bar ochr
Pan fyddwch yn ysgrifennu testun dolenni bariau ochr:
- ar gyfer dolenni sy'n mynd at wybodaeth, dylai enwi'r wybodaeth honno
- ar gyfer dolenni sy'n mynd at dudalennau lle gall defnyddiwr ddechrau ar dasg, dechreuwch gyda berf
- ar gyfer dolenni sy'n llywio i wefannau eraill, gwnewch yn glir bod defnyddwyr yn gadael LLYW.CYMRU drwy ychwanegu 'ar wefan [enw cwmni]' mewn testun nad yw'n ddolen o dan y ddolen ei hun
Ar y dudalen sy'n cyflwyno dolenni i LLYW.CYMRU Gall defnyddwyr Drupal ddim ond olygu testun sy'n ymddangos ar gyfer dolenni allanol. Dilynwch y canllawiau ar y math o gynnwys i osod y meysydd dolenni cysylltiedig