Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth ac adnoddau pellach ar gyfer gwneud dogfennau ar-lein hygyrch gan ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwiriwr Hygyrchedd Microsoft

Defnyddiwch wirydd hygyrchedd mewnol Microsoft i helpu i sicrhau bod eich cynnwys yn hawdd i bobl o bob gallu ei ddarllen a llywio drwyddo.

Canolfan Hygyrchedd Office

Mae mwy o hyfforddiant, templedi a chanllawiau ar gael ar lein yng Nghanolfan Hygyrchedd Office.

Hyfforddiant fideo ar Hygyrchedd

Mae cwrs ar ffurf hyfforddiant fideo ar hygyrchedd ar gael ar-lein gan Microsoft i ategu cynnwys y canllaw hwn.

Templedi Hygyrchedd Office

Mae templedi sy'n eich helpu i wneud eich cynnwys yn hygyrch i bawb bellach ar gael ar-lein, drwy garedigrwydd Microsoft. Ceir hefyd ganllawiau ar greu eich templedi eich hun, gan ddefnyddio canllawiau ar hygyrchedd. I gael templedi hygyrch ewch i Office.com.

Rhagor o gymorth

Canllaw GOV.UK ar hygyrchedd

Mae Safonau hygyrchedd, fel y'u nodwyd yn GOV.UK, yn gymwys wrth ddylunio neu gaffael:

  • gwefannau newydd
  • gwasanaethau digidol newydd
  • cymwysiadau symudol newydd