Dogfen ymgynghori: Rheoleiddio gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
Ymatebwch i newidiadau posibl i'r rheolau ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae’r ddogfen ymgynghori hon:
- yn cynnig cyflwyno Rheoliadau i ragnodi gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel gwasanaeth a reoleiddir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('Deddf 2016') ac i osod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol y gwasanaethau hyn
- yn darparu canllawiau statudol drafft ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o dan adran 29 o Ddeddf 2016
- yn ceisio barn ar gynigion i ddiwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, i fynd i'r afael â dau fater o fewn y fframwaith rheoleiddio
- yn ceisio barn ar gynigion i greu Rheoliadau o dan adran 38 o Ddeddf 2016 i ychwanegu manylion cyswllt at gofrestr darparwyr gwasanaethau
- yn cynnig mân ddiwygiadau i'r Canllawiau Statudol i Ddarparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol ynghylch bodloni’r Rheoliadau Safonau Gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, a grëwyd o dan adran 29 o Ddeddf 2016 (fersiwn 2, a gyhoeddwyd Ebrill 2019)
Cefndir
- Pasiwyd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Tachwedd 2015 ac fe gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Mae'n diwygio'r gyfundrefn rheoleiddio ac arolygu ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Nod Deddf 2016 yw darparu mwy o dryloywder a chymaroldeb ar draws gwasanaethau yng Nghymru, ailgydbwyso'r atebolrwydd o fewn y system fel bod yr asiantaethau neu'r unigolion priodol yn cael eu dal yn gyfrifol yn y gyfraith, a symud y tu hwnt i ddull sy'n seiliedig ar gydymffurfedd tuag at un sy'n adlewyrchu ansawdd y ddarpariaeth. Mae'r system newydd o reoleiddio gwasanaethau a sefydlwyd gan Ddeddf 2016 wedi bod yn gweithredu ers i ddarparwyr ailgofrestru eu gwasanaethau ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn 2017.
- Mae Deddf 2016 yn adeiladu ar lwyddiant rheoleiddio yng Nghymru ac yn adlewyrchu newidiadau yn y byd gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi ansawdd a gwella gwasanaethau wrth wraidd y drefn reoleiddio ac yn cryfhau’r amddiffyniad i'r rhai sydd ei angen.
- Mae'r penodau isod yn gofyn am eich barn ar y canlynol:
- cynigion i gyflwyno Rheoliadau i ragnodi gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel gwasanaeth rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2016 ac i osod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol y gwasanaethau hyn
- y canllawiau statudol drafft ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o dan adran 29 o Ddeddf 2016
- cynigion i ddiwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, i fynd i'r afael â dau fater o fewn y fframwaith rheoleiddio. Mae'r rhain yn ymwneud â chofrestru ac addasu cartrefi gofal pedair ystafell wely (gan osgoi'r gofynion amgylcheddol ychwanegol fel yr angen i gael cyfleusterau en-suite), ac â rheoleiddio gwasanaethau gofal canolraddol sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol
- cynigion i greu Rheoliadau o dan adran 38 o Ddeddf 2016 i ychwanegu cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar gyfer gwasanaethau ar y gofrestr darparwyr gwasanaethau
- mân ddiwygiadau i'r Canllawiau Statudol i Ddarparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol ynghylch bodloni’r Rheoliadau Safonau Gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd (fersiwn 2, a gyhoeddwyd Ebrill 2019) i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas i'r diben
Rhagair y gweinidog
Fel y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 20 Hydref 2022 yn cydnabod cyhoeddi adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, fe wnes i ymrwymiad, ynghyd â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i ddod ag ysgolion arbennig preswyl yng Nghymru o fewn cwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fel gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw drwy ragnodi gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd a chyflwyno Rheoliadau drafft a chanllawiau statudol i gwblhau'r fframwaith rheoleiddio.
Yn ogystal, rydym yn bwriadu creu a diwygio Rheoliadau i alluogi Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i gasglu a chyhoeddi manylion cyswllt gwasanaethau ar y gofrestr darparwyr gwasanaethau. Bydd hyn yn sicrhau bod gwybodaeth gyson yng nghyfeirlyfr ar-lein AGC i alluogi aelodau o’r cyhoedd i gysylltu â gwasanaethau, os oes ganddynt unrhyw ymholiadau neu bryderon.
Rydym hefyd yn cynnig diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, i ymdrin â dau fater o fewn y fframwaith rheoleiddio. Mae'r rhain yn ymwneud â darparwyr sy'n cofrestru ac yn addasu cartrefi gofal pedair ystafell wely (gan osgoi gorfod bodloni'r gofynion amgylcheddol ychwanegol, megis cael cyfleusterau en-suite), ac â rheoleiddio gwasanaethau gofal canolraddol sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol.
Yn olaf, rydym yn cynnig gwneud mân newidiadau i'r Canllawiau Statudol i Ddarparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol ynghylch bodloni’r Rheoliadau Safonau Gwasanaeth, er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas i'r diben.
Mae'r penodau yn y ddogfen hon yn nodi'r cyd-destun a'r rhesymeg dros y dull gweithredu arfaethedig, yn esbonio pam ein bod o'r farn bod angen cyflwyno neu ddiwygio deddfwriaeth yn y meysydd hyn, a beth y bwriedir i hyn ei gyflawni, cyn ceisio eich barn ar y cynigion a'u heffeithiau tebygol.
Drwy'r ymgynghoriad hwn, rydym yn edrych ymlaen at dderbyn barn a’ch sylwadau er mwyn gwella ein system o reoleiddio gofal cymdeithasol.
Julie Morgan MS
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Pennod 1
Cynnig i gyflwyno rheoliadau i ragnodi gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel gwasanaeth rheoleiddiedig o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('Deddf 2016’)
Y pethau sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn
- Mae'r bennod hon yn gofyn am eich barn ar gynigion i gyflwyno rheoliadau i ragnodi gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig fel gwasanaeth rheoleiddiedig o dan Ddeddf 2016 a gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o'r fath.
- Ym mis Mawrth 2022 cyhoeddodd yr Adroddiad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ei adroddiad: Yr ymchwiliad i ysgolion preswyl Cyfnod 1: Ysgolion cerdd, Ysgolion arbennig preswyl. Cyfnod 2: Diogelu: ysgolion dydd ac ysgolion preswyl. Edrychodd yr Ymchwiliad ar gwestiynau ynghylch cam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion arbennig preswyl yng Nghymru a Lloegr. Mae argymhellion yr Ymchwiliad yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol arbennig breswyl gael ei harolygu yn erbyn y safonau ansawdd a ddefnyddir i reoleiddio cartrefi gofal yng Nghymru.
- Mae'r dull arfaethedig yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng ysgolion arbennig preswyl a gwasanaethau cartrefi gofal. Y bwriad, felly, yw rheoleiddio ysgolion arbennig preswyl fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd yn ei hawl ei hun – gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Hyd y bo'n briodol, mae'r Rheoliadau wedi’u cadw’n gyson â'r gofynion rheoleiddio a roddir ar wasanaethau cartrefi gofal o dan Ddeddf 2016. Ond nid yw pob gofyniad sy'n cael ei roi ar ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal yn berthnasol i wasanaethau preswyl ysgolion arbennig.
- Nid yw'r term "ysgol arbennig breswyl" yn derm sydd wedi'i ddiffinio'n gyfreithiol ac felly rydym wedi ceisio diffinio'r gwasanaeth rheoleiddiedig newydd i roi mwy o eglurder a sicrwydd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar Reoliadau arfaethedig i ddod â'r gwasanaeth newydd o fewn y fframwaith rheoleiddio presennol, ac ar y Canllawiau Statudol drafft i Ddarparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig ynghylch bodloni Rheoliadau Safon Gwasanaeth.
- Bydd eich ymatebion i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio ein gwaith o ystyried y Rheoliadau a'r canllawiau statudol terfynol. Ein bwriad yw dadansoddi'r ymatebion dros yr hydref ac ystyried a oes angen unrhyw newidiadau cyn gosod y Rheoliadau terfynol tua diwedd y flwyddyn hon. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, mae disgwyl i'r Rheoliadau ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2023. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau statudol yr un pryd.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
- Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol, a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Atodlen 1 yn diffinio'r gwasanaethau sy'n dod o fewn cwmpas rheoleiddio.
- Yn Atodlen 1 y diffiniad o 'gwasanaeth cartref gofal' yw’r ‘ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen.’ Mae Deddf 2016 yn darparu nad yw ysgolion yn dod o fewn y diffiniad hwn oni bai eu bod yn darparu llety ynghyd â nyrsio neu ofal am fwy na 295 diwrnod y flwyddyn. Caiff ysgolion sy'n dod o fewn y diffiniad hwn eu rheoleiddio a'u harchwilio gan AGC fel gwasanaeth cartref gofal i blant ac maent yn ddarostyngedig i'r gofynion yn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, a’r canllawiau statudol sy’n cyd-fynd â hwy. Mae'r trothwy o 295 diwrnod wedi’i gario drosodd o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Yr effaith yw gwahaniaethu rhwng ysgolion sy’n lletya disgyblion yn ystod y tymor yn unig, nad ydynt yn cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd gan AGC, ac ysgolion sy’n lletya disgyblion am gyfnodau hirach sy'n cael eu rheoleiddio fel gwasanaethau cartrefi gofal.
- Mae AGC yn dibynnu ar bwerau yn Neddf Plant 1989 ("Deddf 1989") o ran ei gwaith o oruchwylio ysgolion arbennig preswyl presennol sy'n dod o dan y trothwy 295 diwrnod neu lai ac felly maent y tu allan i gwmpas rheoleiddio fel gwasanaeth cartref gofal o dan Ddeddf 2016. O dan Ddeddf 1989 gall AGC gynnal gweithgarwch arolygu ond heb bwerau gorfodi uniongyrchol ac ni all ei gwneud yn ofynnol i'r ysgolion gofrestru. Mae AGC yn arolygu'r ysgolion hyn yn erbyn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl a gyhoeddwyd yn 2002 o dan adran 23(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Nid oes modd gorfodi'r safonau hyn ac maent yn canolbwyntio ar gyrraedd safon ofynnol nad yw’n gyson â'r cyfeiriad polisi ehangach ar reoleiddio ac arolygu a sefydlwyd o dan Ddeddf 2016.
Pam rydym yn cynnig newid
- Fel y cydnabyddir yn adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, mae gwendidau o ran plant sy'n cael eu lletya mewn ysgolion arbennig preswyl gan y gallai eu hanghenion dysgu ychwanegol eu gwneud yn fwy agored i gam-drin neu gamfanteisio. Efallai y bydd ar rai o'r plant hyn hefyd angen gofal personol, gan eu gwneud yn fwy agored i niwed.
- Bydd dod â gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o fewn cwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd yn sefydlu dull mwy cyson o gofrestru, rheoleiddio, arolygu, a gorfodi gwasanaethau sy'n gofalu am blant sy'n agored i niwed. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod gan AGC y pwerau angenrheidiol i fandadu gwelliannau a nodir yn ystod arolygiadau ac i gymryd camau gorfodi pe bai gwasanaethau'n parhau i syrthio’n brin o’r gofynion rheoliadol disgwyliedig.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Rydym yn bwriadu dod â gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o fewn cwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd, ac ymestyn y fframwaith rheoleiddio presennol i osod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau o'r fath. Bydd y dull gweithredu yn creu Rheoliadau annibynnol newydd ac yn diwygio'r Rheoliadau presennol.
Y rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig) (Cymru) 2023 drafft
- Mae’r rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig) (Cymru) 2023 drafft yn diffinio'r gwasanaeth preswyl ysgol arbennig newydd a ragnodir o dan adran 2 o Ddeddf 2016 fel ‘[y] ddarpariaeth o lety ynghyd â gofal neu nyrsio mewn ysgol arbennig yng Nghymru ar gyfer disgyblion yr ysgol’.
- Bydd y diffiniad arfaethedig yn cwmpasu’r ysgolion arbennig preswyl presennol sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, yn ogystal â newydd-ddyfodiaid annibynnol newydd posibl i'r farchnad. Ei nod yw rhoi eglurder a sicrhau nad yw gwasanaethau fel ysgolion preswyl, gwasanaethau cartrefi gofal ac ysgolion arbennig nad ydynt yn darparu llety yn cael eu cynnwys yn anfwriadol o fewn y diffiniad.
- Mae'r diffiniad yn cynnwys darpariaeth drosiannol o ran cyfeiriadau at "anghenion addysgol arbennig" ac "anghenion dysgu ychwanegol”. Mae disgwyl i'r rheoliad ddod i rym ar adeg pan fydd gan rai disgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.
Rheoliadau gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig (darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol) (Cymru) 2023
- Mae’r rheoliadau gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig (darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol) (Cymru) 2023 drafft wedi'u haddasu o reoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, ("rheoliadau 2017") sy'n gosod gofynion ar wasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau rheoleiddiedig eraill. Mae'r rheoliadau drafft:
- yn gosod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig ac yn rhagnodi troseddau sy'n ymwneud â methiant darparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion o dan adrannau 27 a 45 o Ddeddf 2016
- yn gosod gofynion ar unigolion cyfrifol ac yn rhagnodi troseddau sy'n ymwneud â methiant unigolyn cyfrifol i gydymffurfio â gofynion o dan adrannau 28 a 46 o Ddeddf 2016
- yn ymdrin â dynodi unigolion cyfrifol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau, darparwyr gwasanaethau sydd wedi’u datod a darparwyr gwasanaethau sydd wedi marw o dan adrannau 21, 30 a 31 o Ddeddf 2016
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau
- Mae rhannau 2 i 12 o'r rheoliadau drafft yn nodi'r gofynion manwl ar ddarparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig mewn perthynas â safon y gofal a’r cymorth sydd i'w darparu i unigolion. Mae hyn yn defnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 27 o Ddeddf 2016. Mae "darparwr gwasanaeth" yn berson sydd wedi’i gofrestru ag AGC i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig.
- Mae rhan 2 yn ymdrin â’r gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth. Mae'n cynnwys gofynion sy'n ymwneud â’r datganiad o ddiben, trefniadau ar gyfer monitro a gwella, gofynion o ran yr unigolyn cyfrifol ac mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth, a gofynion i ddarparu'r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau. Mae hefyd yn rhoi 'dyletswydd gonestrwydd' ar ddarparwyr gwasanaethau i weithredu mewn ffordd agored a thryloyw.
- Mae rhan 3 yn ymdrin â’r camau sydd i'w cymryd cyn i ddarparwr gwasanaeth gytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Y bwriad yma yw sicrhau bod y gwasanaeth yn addas ac yn gallu diwallu anghenion yr unigolyn ac y bydd yn gallu cefnogi'r unigolyn i sicrhau ei ganlyniadau personol. Wrth fynd ati i bennu addasrwydd y gwasanaeth rhaid ystyried cynllun gofal a chymorth yr unigolyn o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Mae rhan 4 yn ymdrin â’r camau i'w cymryd unwaith y bydd y darparwr gwasanaeth wedi cytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Mae hyn yn cynnwys gofyniad am 'gynllun personol' sy'n nodi sut y bydd anghenion yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd. Y bwriad yma yw sicrhau bod yna gynllun cywir a chyfredol sy'n cael ei adolygu yn rheolaidd er mwyn addasu i unrhyw newid mewn amgylchiadau ar gyfer yr unigolyn. Mae gofyn hefyd i'r darparwr gwasanaeth gynnal ei asesiad ei hun ynglŷn â'r ffordd orau y gall y gwasanaeth ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a sut y gall gefnogi'r unigolyn i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt, gan ystyried barn, dymuniadau a theimladau'r unigolyn. Nid bwriad yr asesiad yw dyblygu unrhyw asesiad a allai fod wedi'i gynnal eisoes gan yr awdurdod lleol, ond dylai gael ei lywio gan unrhyw gynlluniau a ddatblygwyd o ganlyniad i asesiadau o'r fath. Y bwriad yma yw, er y gallai anghenion gofal a chymorth yr unigolyn fod wedi cael eu hasesu eisoes (gan yr awdurdod lleol), bod rhaid i'r darparwr fodloni ei hun y gall ei wasanaeth roi gofal a chymorth i’r unigolyn ac ystyried sut y bydd hyn yn cael ei wneud o ddydd i ddydd.
- Mae rhan 5 yn ymdrin â gwybodaeth y mae'n rhaid ei darparu am y gwasanaeth ar ffurf canllaw ysgrifenedig. Y bwriad yma yw rhoi eglurder ynghylch ddiwylliant ac ethos y gwasanaeth preswyl ysgol arbennig ac ystod o faterion eraill. Mae'r Rheoliadau drafft yn nodi rhai o'r gofynion sy'n ymwneud â'r canllaw, er enghraifft, rhaid iddo fod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol gan roi sylw i'r gwasanaeth rheoleiddiedig a'r unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer. Yn ogystal, mae gofyniad bod rhaid i'r canllaw gynnwys gwybodaeth am sut i godi pryder neu gyflwyno cwyn, yn ogystal â gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eiriolaeth. Mae’r canllawiau statudol drafft yn nodi meysydd pellach a ddylai fod yn rhan o'r canllaw. Mae gofyniad hefyd yn y Rheoliadau drafft i unigolion gael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth sydd yn y canllaw.
- Mae rhan 6 yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud â safon y gofal a'r cymorth a ddarperir. Mae'n cynnwys gofynion trosfwaol a fydd yn sail i ansawdd y gwasanaeth. Mae hefyd yn cynnwys gofynion yn ymwneud â materion fel mynediad at wasanaethau iechyd, parhad gofal, darparu gwybodaeth, diwallu anghenion iaith a chyfathrebu'r unigolyn a sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd. Yn ogystal, ceir gofyniad bod rhaid i'r darparwr gwasanaeth roi trefniadau a chymorth ar waith i unigolion allu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill, a chael "gweithiwr cyswllt" dynodedig”. Efallai y byddwch am ystyried hyn yn eich ymateb.
- Mae rhan 7 yn cynnwys gofynion sydd â'r bwriad o sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag cam-drin, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Mae'r rhan hon yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud â defnyddio rheolaeth ac ataliaeth. Y bwriad yma yw ei gwneud yn glir mai’r dewis olaf un yw defnyddio camau gweithredu o’r fath.
- Mae rhan 8 yn nodi'r gofynion o ran staffio. Mae'n cynnwys gofynion penodol am addasrwydd unigolion sy'n gweithio yn y gwasanaeth, gan gynnwys gwirfoddolwyr a staff asiantaeth. Mae'r gofynion penodol o ran gwybodaeth a dogfennau wedi'u nodi yn Atodlen 1. Mae hefyd yn cynnwys gofynion o ran cefnogi a datblygu staff, cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr, gwybodaeth i staff a gweithdrefnau disgyblu.
- Y bwriad yw sefydlu trefniadau pontio i sicrhau bod gan reolwyr a staff darparwyr y gwasanaethau presennol ddigon o amser a chefnogaeth i allu cofrestru’n mewn modd amserol.
- Mae rhan 9 yn ymdrin â gofynion ynghylch adeiladau, cyfleusterau a chyfarpar. Mae hyn yn cynnwys y safleoedd a ddefnyddir i weithredu’r gwasanaeth a’r safleoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir gan ddarparwyr gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion.
- Mae rhan 10 yn ymwneud â gofynion ychwanegol lle mae'r safle’n cynnwys adeilad newydd, estyniad, neu adeilad sydd â chofrestriad blaenorol ond nad yw wedi'i feddiannu ar adeg cais y darparwr gwasanaeth i gofrestru o dan y Rheoliadau newydd. Er mai'r bwriad yw i Reoliadau fod ar lefel briodol o uchel er mwyn sicrhau bod gan ddarparwyr gwasanaethau yr hyblygrwydd i helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau personol mewn amrywiaeth o ffyrdd, mae rhai gofynion yn fwy rhagnodol er mwyn sicrhau bod safon briodol yn cael ei chynnal. Ceir sawl gofyniad yn y rhan hon sy'n ymwneud â darparu cyfleusterau en-suite mewn ystafelloedd, maint ystafelloedd, lle cymunedol, lle awyr agored a lifft i deithwyr.
- Nid yw rhan 10 yn berthnasol i safleoedd presennol ysgolion arbennig preswyl sy'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn cael eu harolygu gan AGC, a fydd yn cofrestru eu gwasanaethau fel gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
- Mae rhan 11 yn nodi gofynion o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau.
- Mae rhan 12 yn cynnwys gofynion amrywiol ar ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys gofynion o ran cadw cofnodion a gwneud hysbysiadau i'r rheoleiddiwr gwasanaeth a chyrff eraill. Mae Atodlen 2 yn nodi'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw ac mae Atodlen 3 yn nodi'r hysbysiadau penodol i'w gwneud. Mae'r rhan hon hefyd yn cynnwys gofynion ar y darparwr gwasanaeth i gael polisi cwynion a pholisi chwythu'r chwiban.
Dyletswyddau ar unigolion cyfrifol
- Yn ôl Deddf 2016, mae darparwyr gwasanaethau yn dynodi unigolyn cyfrifol fel rhan o'u cofrestriad. Mae adran 21 o Ddeddf 2016 yn nodi pwy sy'n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac yn ei gwneud yn ofynnol ei fod yn berson addas a phriodol. Awdurdodau lleol sy'n darparu'r ysgolion arbennig preswyl presennol yng Nghymru. Os darperir y gwasanaeth gan awdurdod lleol, yr unigolyn cyfrifol fydd un o swyddogion yr awdurdod lleol a ddynodir gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod. Mae AGC wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr i’w helpu i ddynodi unigolion cyfrifol.
- Mae rhannau 13 i 17 yn pennu'r gofynion a roddir ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â man y dynodir yr unigolyn mewn cysylltiad ag ef, yn unol ag adran 28 o Ddeddf 2016. Yr unigolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am oruchwylio rheolaeth, ansawdd, diogelwch a llywodraethiant y gwasanaeth.
- Y bwriad yn y rheoliadau drafft hyn yw sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn cadw'r cyfrifoldeb cyffredinol am gyflawni'r gofynion hyn, ond gwahaniaethir rhwng tasgau y gellir eu dirprwyo a'r rhai na ellir eu dirprwyo. Er enghraifft, caiff unigolion cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer cael barn yr unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth ond rhaid iddynt ymweld eu hunain â phob man y dynodir yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad ag ef. Fodd bynnag, mae'r unigolion cyfrifol yn cadw atebolrwydd a chyfrifoldeb cyffredinol am y dyletswyddau a nodir yn y Rheoliadau hyn.
- Mae rhan 13 yn cynnwys gofynion mewn perthynas â dyletswydd gyffredinol yr unigolyn cyfrifol i oruchwylio'r gwaith o reoli'r gwasanaeth ac yn nodi dyletswyddau penodol yn ymwneud â phenodi person addas i reoli'r gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru, i roi trefniadau ar waith ar gyfer rheoli'r gwasanaeth pan fo'r rheolwr yn absennol, ac ymweld â'r mannau lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu. Fel y nodwyd uchod, maent yn cadw’r atebolrwydd a’r cyfrifoldeb cyffredinol am y gwasanaeth.
- Mae rhan 14 yn cynnwys y gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Drwy osod y gofynion hyn ar yr unigolyn cyfrifol, mae'r Rheoliadau drafft yn y rhan hon yn sicrhau bod person ar lefel briodol uwch yn y sefydliad yn atebol am ansawdd a chydymffurfedd y gwasanaeth. Mae gofyn i'r unigolion cyfrifol roi adroddiadau i'r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd adnoddau ac ar faterion eraill. Mae'n ofynnol hefyd iddynt wneud trefniadau ar gyfer ymgysylltu ag unigolion ac eraill fel y gall eu barn am ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir gael ei ystyried gan y darparwr gwasanaeth.
- Mae rhan 15 yn nodi'r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol i sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â gofynion eraill, gan gynnwys hysbysu am ddigwyddiadau a chwynion a chadw cofnodion. Rhaid i'r unigolyn cyfrifol hefyd roi trefniadau ar waith i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'r darparwr gwasanaeth yn cael eu diweddaru.
- Mae rhan 16 yn nodi'r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol o ran monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, gan gynnwys rhoi adroddiad i'r darparwr gwasanaeth. Bydd yr adroddiad hwn yn rhan o ddatganiad blynyddol y darparwr o dan adran 10 o Ddeddf 2016.
- Mae rhan 17 yn nodi gofynion eraill ar yr unigolyn cyfrifol, gan gynnwys gofynion o ran cymorth i staff sy'n codi pryderon, dyletswydd gonestrwydd a gwneud hysbysiadau penodol i'r rheoleiddiwr gwasanaeth, a gynhwysir yn Atodlen 4.
Rhan 18 – troseddau
- Gwneir y rheoliadau drafft yn y rhan hon o dan y pwerau yn adran 45 a 46 o Ddeddf 2016. Maent yn darparu bod methiant, gan y darparwr gwasanaeth a’r unigolyn cyfrifol yn ôl eu trefn, i gydymffurfio â gofynion penodedig yn y Rheoliadau yn drosedd. Mae amod pellach sy'n berthnasol yn achos methiant i gydymffurfio â gofynion penodol. Yn yr achosion hyn, mae'r rheoliad yn darparu bod nad yw hon yn drosedd oni bai bod methiant i gydymffurfio yn arwain at unigolion yn cael eu gwneud yn agored i niwed y gellid bod wedi'i osgoi, neu risg sylweddol o niwed o'r fath, neu’n ddioddef colli arian neu eiddo o ganlyniad i ddwyn, camddefnyddio neu gamymddygiad.
- Mae'n werth tynnu sylw at y ffaith, er efallai na fydd methiant i gydymffurfio â gofyniad penodol yn y Rheoliadau yn drosedd, y gallai methiant darparwr gwasanaeth i gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi’u cynnwys mewn Rheoliadau o fewn Rhannau 2 i 12 fod yn sail i ganslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth o dan adran 15 o Ddeddf 2016; ac y gallai methiant unigolyn cyfrifol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o'r gofynion a geir mewn Rheoliadau o fewn Rhannau 13 i 17 fod yn sail i ganslo dynodiad yr unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o Ddeddf 2016.
Rhan 19 - darparwyr gwasanaethau sydd wedi’u datod ac yn y blaen neu sydd wedi marw
- Mae'r rheoliadau drafft yn y rhan hon yn nodi gofynion penodol sy'n berthnasol pan fo'r darparwr gwasanaeth yn ansolfent neu pan fydd darparwr gwasanaeth sy'n unigolyn wedi marw. Yn yr amgylchiadau hyn mae'r Rheoliadau yn gosod dyletswyddau hysbysu penodol ar y person penodedig (yn achos ansolfedd) neu'r cynrychiolwyr personol (yn achos marwolaeth darparwr gwasanaeth sy'n unigolyn). Er bod ysgolion arbennig preswyl presennol sy'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, y bwriad yw sicrhau bod y Rheoliadau’n gadarn ar gyfer y dyfodol, pe bai newydd-ddyfodiaid i'r farchnad.
Rhan 20 - dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru
- Mae'r rheoliadau drafft yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru (yn hytrach na'r darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er gwaethaf methiant i fodloni gofynion cymhwystra adran 21(2) o ran yr unigolyn. Gwneir y rheoliad drafft hwn o dan adran 21(5) o Ddeddf 2016. Y dull gweithredu o dan Ddeddf 2016 yw y dylai'r cyfrifoldeb dros ddynodi unigolyn cyfrifol fod yn gadarn gyda'r darparwr gwasanaeth. Os oes person cymwys - yn ogystal ag addas a phriodol - sy'n bodloni’r gofynion a nodir yn Neddf 2016 mae disgwyl i'r darparwr gwasanaeth ddynodi'r person hwnnw yn unigolyn cyfrifol oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Mae'r amgylchiadau hyn wedi'u nodi yn y Rheoliadau drafft.
Rheoliadau drafft gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig (diwygiadau amrywiol) (Cymru) 2023
- Rydym yn cynnig diwygio'r Rheoliadau presennol sy'n ymwneud â chofrestru gwasanaethau, datganiadau blynyddol, a hysbysiadau cosb sy'n berthnasol i’r holl wasanaethau rheoleiddiedig presennol, i ymestyn y gofynion presennol (i'r graddau y mae hyn yn briodol) er mwyn cynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.
Rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (cofrestru) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd
- Mae rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (cofrestru) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, yn nodi'r gofynion ar gyfer gwneud cais i gofrestru, a gwneud cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth o dan adrannau 6 ac 11 o Ddeddf 2016. Mae'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth sydd i'w darparu gan yr ymgeisydd i gofrestru fel darparwr gwasanaeth, gwybodaeth sy'n ofynnol gan ddarparwr gwasanaeth i amrywio'r cofrestriad, ffurf y cais a'r terfyn amser ar gyfer gwneud cais i amrywio pan nad oes unigolyn cyfrifol dynodedig.
- Rydym yn cynnig diwygio'r rheoliadau hyn i gynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Bydd trefniadau pontio yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod gan ddarparwyr gwasanaethau presennol yr amser a'r gefnogaeth i gofrestru o fewn yr amserlen ofynnol.
Rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (datganiadau blynyddol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd
- Mae rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (datganiadau blynyddol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, yn nodi'r gofynion gwybodaeth ychwanegol sydd i'w cynnwys yn natganiad blynyddol darparwr o dan adran 10 o Ddeddf 2016. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am staffio, hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, darparu gwasanaethau a gwybodaeth ychwanegol lle mae'r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety. Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol y bydd y datganiad yn cael ei gyflwyno ar-lein gan ddefnyddio'r ffurflen a ddarperir ar wefan Llywodraeth Cymru (AGC), ac yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno'r datganiad o fewn 56 diwrnod ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi. Rydym yn cynnig diwygio'r Rheoliadau i gynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.
Rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (hysbysiadau cosb) (Cymru) 2019
- Mae rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (hysbysiadau cosb) (Cymru) 2019 yn nodi manylion system yr hysbysiadau cosb o dan adran 52 o Ddeddf 2016 a'r troseddau y caniateir rhyddhau atebolrwydd amdanynt drwy i’r darparwr gwasanaeth neu'r unigolyn cyfrifol (fel y bo'n berthnasol) dalu swm sy'n daladwy o dan hysbysiad cosb. Rydym yn cynnig diwygio'r Rheoliadau hyn i gynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.
- Mae'r cynnig i ddiwygio'r gyfres o Reoliadau uchod i gynnwys y gwasanaeth preswyl ysgol arbennig newydd yn hyrwyddo dull cyson o reoleiddio'r holl wasanaethau rheoleiddiedig.
Canllawiau statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ynghylch bodloni rheoliadau safonau gwasanaeth
- Mae'r canllawiau statudol drafft, a ddatblygwyd o dan adran 29 o Ddeddf 2016, yn nodi sut y gall darparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â'r gofynion a osodir gan Rannau 2 i 17 o Reoliadau Drafft Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2023. Mae'n darparu canllawiau pellach, y mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw iddynt, ar sut i fodloni elfennau unigol pob rheoliad lle y gall fod angen eglurhad a diffiniad pellach. Mae'r canllawiau statudol yn seiliedig ar y canllawiau statudol presennol ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig ond maent wedi'u teilwra i adlewyrchu natur gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Ni ddylid ystyried bod y canllawiau am elfennau unigol pob rheoliad yn cynnwys pob sefyllfa oherwydd efallai y bydd modd i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ddangos eu bod yn bodloni pob elfen o'r rheoliad mewn ffyrdd eraill. Ni fwriedir i'r canllawiau fod yn annibynnol ac felly mae'n rhaid eu darllen ochr yn ochr â Rhannau 2 i 17 o'r Rheoliadau drafft uchod.
Y canlyniadau rydym yn eu disgwyl
- Rydym yn disgwyl y bydd dod â gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig o fewn cwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 fel gwasanaeth rheoleiddiedig yn ei hawl ei hun yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.
Pennod 2
Newidiadau arfaethedig i reoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd ("y rheoliadau darparwyr gwasanaethau”)
Y pethau sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn
- Mae'r bennod hon yn gofyn am eich barn ar gynigion i ddiwygio'r rheoliadau darparwyr gwasanaethau i fynd i'r afael â dau fater:
- cofrestru cartrefi gofal pedair ystafell wely (gyda'r fantais o osgoi'r gofynion yn Rhan 13, megis cael cyfleusterau en-suite) sy'n cael eu haddasu’n ddiweddarach i ychwanegu ystafelloedd gwely ychwanegol
- ymddangosiad gwasanaethau gofal canolraddol sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol sy'n dod o fewn y diffiniad o wasanaeth cartref gofal
Y sefyllfa ar hyn o bryd
- Mae’r rheoliadau darparwyr gwasanaethau yn gosod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau teulu preswyl am ansawdd y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu. Rydym wedi nodi dau fater mewn perthynas â gweithrediad y fframwaith rheoleiddio, a ddisgrifir isod:
Cofrestru gwasanaethau cartref gofal pedair ystafell wely
- Mae rhan 12 o’r rheoliadau darparwyr gwasanaethau yn gosod gofynion cyffredinol am safonau ffisegol ystafelloedd a chyfleusterau ar gyfer pob gwasanaeth sy'n seiliedig ar lety. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn hygyrch, eu bod o faint digonol a'u bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol.
- Mae rhan 13 o’r rheoliadau darparwyr gwasanaethau yn nodi gofynion ychwanegol ynghylch safonau ffisegol ystafelloedd a chyfleusterau ar gyfer gwasanaethau llety newydd neu estynedig. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gael ystafelloedd ymolchi en-suite, lle awyr agored hygyrch, maint gofynnol i ystafelloedd gwely, a lle cymunedol, ar gyfer tri chategori o safle newydd. Crynhoir y categorïau hyn fel a ganlyn:
- Categori A: Mae'r safle a ddefnyddir ar gyfer darparu'r gwasanaeth yn cynnwys adeilad newydd neu adeilad presennol sydd wedi'i addasu at ddiben darparu'r gwasanaeth.
- Categori B: Mae'r safle’n cynnwys adeilad neu adeiladau y ychwanegir estyniad ato neu atynt.
- Categori C: Mae’r categori hwn yn cwmpasu safleoedd gwag nad oedd yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('Deddf 2016'), ond a oedd wedi cael eu defnyddio yn flaenorol at y diben hwnnw rywbryd yn y gorffennol, gan ddarparwr arall.
- Diben rhan 13 o’r rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig yw sicrhau gwelliant yn yr ystad adeiledig dros amser ond heb ansefydlogi'r farchnad.
- Nid oes rhaid i gartrefi gofal sydd â lle i bedwar neu lai o bobl fodloni'r gofynion ychwanegol hyn. Y rhesymeg yw bod gwasanaethau llai (cartrefi gofal i blant fel arfer) yn debycach i gartrefi teuluol sydd ag amgylchedd byw cartrefol ac na fyddai ganddynt y cyfleusterau ychwanegol sydd gan wasanaethau mwy.
Pam rydym yn cynnig newid
- Ers i Ddeddf 2016 ddod i rym, mae 22 o ddarparwyr wedi cofrestru cartrefi gofal fel gwasanaethau pedair ystafell wely ac wedi addasu’r cartrefi ychydig fisoedd yn ddiweddarach i greu pumed ystafell wely. Mae hyn weithiau'n golygu troi storfa neu le cymunedol yn ystafell wely.
- Mae ansicrwydd cyfreithiol ynghylch a fyddai darparwr sy'n gwneud cais i amrywio ei gofrestriad i gynnwys lleoedd ychwanegol (ac felly ystafelloedd gwely ychwanegol) yn dod o dan Ran 13 o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau. Mae hyn oherwydd bod y darparwr eisoes wedi'i gofrestru, ac nad yw’r safle bellach yn perthyn i’r categori llety newydd.
- Rydym am fynd i’r afael â'r bwlch hwn i sicrhau bod unrhyw ystafelloedd ychwanegol sy'n cael eu hychwanegu ar ôl cofrestru'r gwasanaeth yn bodloni'r gofynion a nodir yn Rhan 13 o'r Rheoliadau. Mae hyn yn debyg i'r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer estyniadau i adeilad cartref gofal.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Rydym yn bwriadu creu rheoliadau i ddiwygio'r rheoliadau darparwyr gwasanaethau i bennu y bydd gofynion rhan 13 yn berthnasol pan fydd ystafelloedd ychwanegol wedi’u haddasu yn cael eu hychwanegu ar ôl y cofrestriad cychwynnol.
- Nid ydym eto wedi sefydlu amserlen ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn. Bydd hynt datblygiad y gwaith hwn yn cael ei gyfleu i'r sector yn dilyn yr ymgynghoriad.
Y ganlyniad rydym yn ei ddisgwyl
- Bydd diwygio’r rheoliadau darparwyr gwasanaethau yn sicrhau bod gan y gwasanaeth estynedig le a chyfleusterau addas i ddiwallu anghenion yr holl unigolion sy'n byw yn y gwasanaeth, yn unol â'r bwriad polisi gwreiddiol.
- Bydd hefyd yn rhoi eglurder a sicrwydd cyfreithiol, gan leihau'r risg o her os bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn gwrthod cais i amrywio cofrestriad darparwr pan na chydymffurfiwyd â gofynion Rhan 13.
Eithriad ar gyfer gwasanaethau gofal canolraddol sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol
Y sefyllfa ar hyn o bryd
- Rydym yn ymwybodol bod awdurdodau lleol yn darparu gofal canolraddol (sy'n cynnwys llety tymor byr) i bobl naill ai wedi iddynt ddod allan o’r ysbyty neu cyn iddynt fynd i’r ysbyty.
- Gellir disgrifio gofal canolraddol fel gofal a chymorth tymor byr, a ddarperir yn rhad ac am ddim am chwe wythnos, gyda'r nod o helpu pobl:
- i osgoi cael eu derbyn yn ddiangen i'r ysbyty
- i fod mor annibynnol â phosib ar ôl arhosiad mewn ysbyty neu salwch
- i barhau i fyw gartref os yw unigolyn, oherwydd salwch neu anabledd, yn cael trafferth cynyddol gyda bywyd bob dydd
- i osgoi symud i gartref preswyl nes bod gwir angen iddynt wneud hynny
- Pan ddarperir y gofal canolraddol mewn cartref gofal cofrestredig, mae hyn yn unol â'r fframwaith rheoleiddio cyfredol. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod rhai gwasanaethau gofal canolraddol yn cael eu darparu mewn tai gofal ychwanegol, yn debyg i drefniant byw â chymorth. Mae'r term tai 'gofal ychwanegol' yn disgrifio datblygiadau sy'n cynnwys cartrefi hunangynhwysol gyda nodweddion dylunio a gwasanaethau cymorth ar gael i helpu pobl i fyw'n annibynnol.
- Fel rhan o'r trefniadau hyn, darperir elfen gofal a chymorth y gwasanaeth gan wasanaeth cymorth cartref cofrestredig yr awdurdod lleol. Mae'r safle a ddefnyddir i ddarparu ar gyfer yr unigolyn naill ai'n eiddo i gymdeithas dai ac yn cael ei gosod ar les i'r awdurdod lleol, neu'n eiddo i'r awdurdod lleol ei hun. Yna mae'r awdurdod lleol yn dyrannu lleoliadau o fewn y llety i ddefnyddwyr gwasanaeth unigol heb ymrwymo i gytundebau tenantiaeth unigol.
- Nid yw'r awdurdod lleol am lunio cytundebau tenantiaeth gydag unigolion. Byddai hyn yn gymhleth oherwydd natur tymor byr y gwasanaeth ac oherwydd bod gan y person ei gartref ei hun yn rhywle arall. Gall ymrwymo i gytundeb tenantiaeth newydd arwain at ganlyniadau negyddol, megis colli budd-dal tai, i rai unigolion.
- Gan fod y llety a’r gofal yn cael eu darparu gan yr awdurdod lleol o dan y trefniadau hyn, maent ar hyn o bryd yn dod o fewn y diffiniad o "wasanaeth cartref gofal" o dan Ddeddf 2016. Yn ôl Atodlen 1 o Ddeddf 2016: Gwasanaeth cartrefi gofal yw’r ‘ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen’.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Mae adran 2(3) o Ddeddf 2016 yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru, drwy Reoliadau, ragnodi’r pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1, i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon. Rydym am ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 2(3) i sicrhau nad yw gwasanaethau gofal canolraddol awdurdodau lleol yn cael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal er gwaethaf Atodlen 1 o Ddeddf 2016.
- I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rydym yn cynnig:
- bod rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol
- bod rhaid i’r llety fod yn eiddo i’r awdurdod lleol neu’n cael ei osod ganddo ar les
- caiff elfen cymorth cartref y gwasanaeth ei ddarparu gan wasanaeth cymorth cartref cofrestredig yr awdurdod lleol
- Er mai tua 6-8 wythnos yw'r amserlen arferol i berson ddefnyddio'r gwasanaethau hyn, mae heriau’n codi weithiau wrth ddod o hyd i becyn cymorth cartref i'r unigolyn pan fydd yn gadael y gwasanaeth. Mae hyn yn gallu achosi i bobl aros yn y gwasanaethau yn hirach nag sydd angen. Felly rydym yn bwriadu cyfyngu'r gwasanaeth i bedwar mis i bob unigolyn gan y bydd hyn yn adlewyrchu natur dros dro y gwasanaeth, ond bydd ar y llaw arall yn ddigon er mwyn ystyried unrhyw oedi.
Pam rydym yn cynnig newid
- Er ei bod yn briodol parhau i reoleiddio elfen gofal a chymorth y gwasanaethau hyn fel gwasanaeth cymorth cartref, nid ydym o’r farn ei bod yn gymesur nac yn angenrheidiol eu rheoleiddio fel gwasanaeth cartref gofal.
Y ganlyniadau rydym yn eu disgwyl
- Bydd creu'r eithriad hwn yn sicrhau y gall y gwasanaethau hyn barhau i weithredu fel gwasanaethau cymorth cartref, rhywbeth yr ydym yn ystyried ei fod yn briodol ar gyfer lefel y gofal a'r cymorth sy'n cael eu darparu.
Pennod 3
Rheoliadau drafft i'w gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol ar y gofrestr darparwyr gwasanaethau
Y pethau sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn
- Mae'r bennod hon yn ceisio eich barn ar Reoliadau’r Gofrestr Darparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 ("y Rheoliadau drafft”). Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofyniad gorfodol i gyhoeddi cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar gyfer pob gwasanaeth ar y gofrestr darparwyr gwasanaethau.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
- Mae adran 38 o Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau. Mae'r gofrestr darparwyr gwasanaethau'n bwydo cyfeiriadur ar-lein cyhoeddus Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy'n darparu gwybodaeth allweddol am wasanaethau rheoleiddiedig yng Nghymru i'r cyhoedd.
- Mae adran 38 (2) o Ddeddf 2016 yn nodi bod rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth ddangos yr wybodaeth ganlynol:
- y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae'r darparwr gwasanaeth wedi'u cofrestru i'w darparu
- y mannau y mae'r darparwr wedi'u cofrestru i ddarparu'r gwasanaethau hynny, ohonynt neu mewn perthynas â hwy
- enw'r unigolyn cyfrifol a gofrestrwyd mewn cysylltiad â phob man o'r fath
- y dyddiad y daeth cofrestriad y darparwr i rym mewn perthynas â phob gwasanaeth a lle rheoleiddiedig o'r fath
- manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth
- crynodeb o unrhyw adroddiad arolygu sy'n ymwneud â'r darparwr gwasanaeth sydd wedi’i gyhoeddi o dan adran 36(3)(a)
Pam rydym yn cynnig newid
- Rydym wedi nodi bwlch yn yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y gofrestr ac yn y cyfeiriadur cyhoeddus gan nad yw'n cynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gyfer pob gwasanaeth. Ar hyn o bryd, mae rhif ffôn y gwasanaeth yn cael ei gyhoeddi yng nghyfeiriadur cyhoeddus AGC yn unig gyda chaniatâd y darparwr. Mae lleiafrif o ddarparwyr (14%) wedi gwrthod caniatâd i gyhoeddi eu rhif ffôn, gan arwain at fylchau yn yr wybodaeth a gynhwysir yn y cyfeiriadur.
- Yn ogystal â rhif ffôn, rydym yn awyddus i ychwanegu cyfeiriad e-bost y gwasanaeth at y gofrestr darparwyr gwasanaethau i roi dewis i'r cyhoedd ynglŷn â sut i gysylltu â gwasanaethau. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws cysylltu â gwasanaethau (er enghraifft, i bobl ag amhariad ar eu clyw sy’n golygu nad ydynt yn gallu defnyddio ffôn). Er bod AGC eisoes yn gofyn am gyfeiriadau e-bost y gwasanaeth gan ddarparwyr, mae’n gorfod gofyn am eu caniatâd i gyhoeddi neu rannu'r wybodaeth hon.
- Er mwyn eglurder a chysondeb, ein bwriad yw ei gwneud yn ofyniad gorfodol i ddarparwyr gwasanaethau ddarparu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gyfer pob gwasanaeth i AGC, i’w cyhoeddi yn ei chofrestr darparwyr gwasanaethau.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Rydym yn ymgynghori ar ddrafft o reoliadau cofrestr darparwyr gwasanaethau (gwybodaeth ragnodedig a diwygiadau amrywiol) (Cymru) 2023. Mae'r offeryn statudol drafft hwn yn defnyddio'r pwerau i wneud rheoliadau o dan Adran 38 o Ddeddf 2016 i osod rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar gyfer y gwasanaeth ar y gofrestr darparwyr gwasanaethau.
- Er mwyn sefydlu'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r manylion cyswllt, mae'r rheoliadau drafft hefyd yn diwygio rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (cofrestru) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd ("y rheoliadau cofrestru”). Mae hyn yn galluogi AGC i gasglu manylion cyswllt gwasanaethau gan ymgeiswyr adeg y cofrestriad.
- Ar hyn o bryd, mae'r rheoliadau cofrestru yn gofyn am rif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion, gwasanaethau eiriolaeth a gwasanaethau cymorth cartref. Ond ar hyn o bryd nid oes angen cyfeiriad e-bost ar gyfer gwasanaethau sy'n seiliedig ar lety. Mae'r rheoliadau drafft yn cau'r bwlch hwn drwy ddiwygio'r rheoliadau cofrestru i'w gwneud yn ofynnol darparu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.
- Mae rheoliadau gwasanaethau rheoleiddiedig (datganiadau blynyddol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd ("y rheoliadau datganiadau blynyddol") yn gyfrwng i AGC gasglu gwybodaeth gan ddarparwyr sydd eisoes wedi cofrestru eu gwasanaethau. Mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol am y gwasanaeth o fewn 56 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae'r ffurflen flynyddol yn ymwneud â hi. Mae'r rheoliadau drafft yn diwygio'r rheoliadau datganiadau blynyddol i gynnwys y cyfeiriad e-bost a'r rhif ffôn ar gyfer pob gwasanaeth.
- Mae rhan 1 o atodlen 3 i’r rheoliadau darparwyr gwasanaethau yn nodi'r hysbysiadau y mae'n rhaid eu gwneud i'r rheoleiddiwr gwasanaeth ar gyfer digwyddiadau penodedig, megis newidiadau i'r ffordd y darperir y gwasanaeth. Mae'r rheoliadau drafft yn diwygio'r rhan hon i osod dyletswydd ar y darparwr gwasanaeth i hysbysu AGC os bydd rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost y gwasanaeth yn newid. Rydym yn bwriadu cymhwyso'r gofyniad hwn ar draws yr holl wasanaethau a reoleiddir, ac felly bydd y Rheoliadau drafft yn cael eu diweddaru yn dilyn yr ymgynghoriad i'w gwneud yn glir bod y gofyniad hysbysu yn berthnasol hefyd i wasanaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau lleoli oedolion a gwasanaethau eirioli.
- Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, mae disgwyl i'r rheoliadau ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
Y canlyniadau rydym yn eu disgwyl
- Bydd mynnu rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gyfer pob gwasanaeth yn creu cysondeb yn yr wybodaeth a ddarperir ar y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau. Bydd hyn yn sicrhau bod y cyhoedd ac aelodau o'r teulu yn gallu cysylltu â gwasanaethau os oes ganddynt unrhyw ymholiadau neu bryderon. Bydd hefyd yn cynyddu atebolrwydd a gwelededd darparwyr gwasanaethau.
- Cynhelir asesiad effaith preifatrwydd llawn fel rhan o'r rheoliadau hyn. Rydym yn ymwybodol bod cyfeiriadau e-bost rhai o’r gwasanaethau a ddarparwyd i AGC yn cynnwys enwau aelodau o staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth ar hyn o bryd. Byddwn yn sicrhau bod gan ddarparwyr ddigon o amser i newid eu cyfeiriadau e-bost (er enghraifft, drwy greu blwch post generig ar gyfer y gwasanaeth) os ydynt yn dymuno, cyn i'r rheoliadau ddod i rym.
Pennod 4
Diwygiadau arfaethedig i'r canllawiau statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ar fodloni’r rheoliadau safonau gwasanaeth (fersiwn 2, Ebrill 2019)
Y pethau sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn
- Mae'r bennod hon yn gofyn am eich barn am ddiweddariadau i'r canllawiau statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ynghylch bodloni’r rheoliadau safonau gwasanaeth.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
- Cafodd y canllawiau statudol ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd eu cyhoeddi i ddechrau ym mis Ebrill 2017 yn dilyn cam 2 gweithredu Deddf 2016. Fe'u cyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 29 o Ddeddf 2016. Cyhoeddwyd dogfennau canllawiau statudol ar wahân ar gyfer y gwasanaethau rheoleiddiedig eraill (eiriolaeth, mabwysiadu, maethu a gwasanaethau lleoli oedolion) ym mis Ebrill 2019 yn dilyn cam 3 y gweithredu. Manteisiwyd bryd hynny ar y cyfle i wneud mân ddiwygiadau i'r canllawiau statudol ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau preswyl, gan greu fersiwn 2 o'r canllawiau.
- Mae'r canllawiau statudol yn nodi sut y gall darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â'r gofynion a osodir gan Rannau 3 i 19 o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau. Mae’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol mewn perthynas ag ansawdd y gofal sydd i’w ddarparu. Mae'r canllawiau statudol yn rhoi canllawiau pellach - y mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw iddynt – ar sut i fodloni elfennau unigol pob rheoliad lle y gall fod angen eglurhad a diffiniad pellach.
Pam rydym yn cynnig newid
- Mae chwe blynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r canllawiau statudol ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau preswyl i deuluoedd, a phedair blynedd ers cyhoeddi'r Canllawiau Statudol ar gyfer y gwasanaethau sy'n weddill. Gan fod y drefn rheoleiddio ac arolygu a sefydlwyd gan Ddeddf 2016 wedi cael amser i wreiddio, rydym o'r farn bod hwn yn amser priodol i adolygu’r canllawiau statudol i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas i'r diben.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Mae'r canllawiau statudol ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd wedi'u diwygio i adlewyrchu diweddariadau o ran terminoleg a deddfwriaeth. Yn benodol, rydym wedi adlewyrchu ethos y model cymdeithasol o anabledd trwy ddiweddaru'r iaith, megis dileu cyfeiriadau at fregusrwydd neu eiddilwch lle rydym o'r farn bod hyn yn ddiangen neu'n annefnyddiol. Mewn perthynas â'r gofyniad i gynnal asesiad darparwr (rheoliad 18), mae'r canllawiau wedi'u diweddaru i nodi bod yr asesiad yn cael ei gydgynhyrchu â’r unigolyn, yn hytrach na'i gwblhau gan ymgynghori â'r unigolyn. Rydym hefyd wedi ychwanegu cyfeiriad penodol at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ochr yn ochr â'r cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn perthynas â’r angen i ddarparwyr roi sylw i hawliau a hawlogaethau pobl.
- Rydym wedi cryfhau'r canllawiau yn unol â rheoliad 21 - safonau gofal a chymorth i dynnu sylw at bwysigrwydd annibyniaeth, dewis a rheolaeth.
- Mae'r canllawiau wedi’u diwygio er mwyn pwysleisio mor bwysig yw hi bod darparwyr yn creu diwylliant cadarnhaol o fewn y gwasanaeth. Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion yn unol â rheoliad 6 - gofynion o ran darparu'r gwasanaeth, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ethos, gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau arweinwyr ac aelodau staff wrth sicrhau bod y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn byw bywydau hyderus, cynhwysol a grymusol.
- Rydym wedi adolygu a chryfhau'r canllawiau sy'n ymwneud â Rhan 8 (diogelu). Rydym wedi egluro y gall risgiau godi o fewn y gwasanaeth ei hun neu yn rhywle arall ac rydym wedi ychwanegu cyfeiriad penodol at Weithdrefnau Diogelu Cymru. Rydym wedi ychwanegu manylion pellach yn ymwneud ag addasrwydd staff (rheoliad 35). Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn adran dolenni perthnasol y canllawiau, er gwybodaeth. Yn ogystal, rydym wedi egluro sut mae'r canllawiau'n ymwneud â gwirfoddolwyr drwy fod yn fwy eglur ynghylch pa adrannau sy'n ymwneud â staff yn unig a pha rai sy’n berthnasol i staff a gwirfoddolwyr.
- Rydym wedi ymateb i argymhelliad gan yn Adroddiad Ymchwiliad y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Lysieuaeth a Figaniaeth, Respect for religious and philosophical beliefs while eating in care, i gryfhau’r rheoliadau gofal a’r canllawiau cysylltiedig drwy gydnabod bod credoau athronyddol cyn bwysiced â chredoau crefyddol neu gefndir diwylliannol unigolyn. O'r herwydd, rydym wedi cryfhau'r canllawiau yn unol a rheoliad 18 (asesiad darparwr) i ddatgan, wrth nodi dewisiadau personol yr unigolyn, bod y darparwr yn ystyried unrhyw gredoau crefyddol neu athronyddol neu gefndir diwylliannol.
- Rydym hefyd wedi ystyried a allai fod angen newidiadau yng nghyd-destun adfer yn dilyn y pandemig COVID-19. Yn dilyn adborth gan deuluoedd pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal am bolisïau ymweld yn cael eu newid heb i breswylwyr neu deuluoedd gael gwybod, rydym wedi cynnwys paragraff yn unol â rheoliad 12 – gofynion i ddarparu'r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau, sef datgan, pan wneir newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar unigolion a/neu eu cynrychiolwyr, bod y rhain yn cael eu cyfleu i unigolion ac unrhyw gynrychiolydd yn amserol.
- Er bod yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y canllawiau statudol ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, gall y newidiadau arfaethedig fod yn berthnasol hefyd i'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd ar gyfer y gwasanaethau rheoleiddiedig eraill (gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau eiriolaeth a gwasanaethau lleoli oedolion) pan fyddant yn cael eu hadolygu a'u diweddaru.
Y canlyniadau rydym yn eu disgwyl
- Bydd diweddaru'r canllawiau statudol yn sicrhau eu bod yn parhau'n gyfredol, yn berthnasol ac yn addas i'r diben. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau wedi'u diweddaru ochr yn ochr â'r gyfres o Reoliadau a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn ar 31 Rhagfyr 2023.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn hanner nos ar 6 Awst 2023, gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb, a’i hanfon trwy e-bost i’r cyfeiriad: TimCartrefiGofal@llyw.cymru (gan roi’r cyfeirnod WG47196 yn llinell destun eich e-bost)
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i’r cyfeiriad isod
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm polisi cartref gofal:
Drwy’r post:
Y Gangen Polisi Cartrefi Gofal
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: TimCartrefiGofal@llyw.cymru
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich Hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan y Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017
Canllawiau Statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ynghylch bodloni’r rheoliadau safonau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd