O fewn y pum mlynedd nesaf bydd un o bob tri pherson o oedran gweithio dros eu hanner cant.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth o’r ffaith hon ac i annog mwy o gyflogwyr i gydnabod pwysigrwydd ailhyfforddi, cadw a recriwtio gweithwyr hŷn.
Mae’r ymgyrch ‘Nid oes gan unrhyw un Ddyddiad ar ei Orau Cyn’ yn pwysleisio pwysigrwydd gweithwyr hŷn i fusnesau. Dyma’r fenter ddiweddaraf o dan ymgyrch Oes o Fuddsoddi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Gymru y sgiliau sydd eu hangen i gystadlu yn y farchnad fyd-eang, nawr ac yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi uno â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, Busnes yn y Gymuned Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i lansio’r ymgyrch farchnata, sy’n ceisio herio stereoteipiau, dangos gwerth gweithlu o bob oedran ac annog cyflogwyr i barhau i fuddsoddi mewn sgiliau gydol oes waith eu cydweithwyr.
Mae nifer o weithwyr o drawstoriad o fusnesau yng Nghymru sy’n esiampl i eraill ac wedi dangos ymrwymiad i fuddsoddi mewn gweithlu pob oedran yn cefnogi’r ymgyrch ‘Nid oes gan unrhyw un Ddyddiad ar ei Orau Cyn’ a bydd eu straeon yn rhan amlwg o ddeunyddiau hyrwyddo’r ymgyrch.
Gan ddefnyddio cymysgedd o hysbysebion radio a digidol a chanllawiau cyngor a phecynnau cymorth y gellir eu lawrlwytho, nod yr ymgyrch yw dangos i gyflogwyr beth yw manteision pendant creu gweithlu medrus, effeithiol, sy’n cynnwys pob oedran.
Harding Evans yw un o’r cwmnïau sy’n cefnogi’r ymgyrch. Dywedodd Cyfarwyddwr y Practis, Joy Phillips, fod y busnes wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn recriwtio, cadw ac ailhyfforddi gweithwyr hŷn.
“Mae pobl ifanc a hŷn yn awyddus i ddatblygu ac os na fyddwch chi’n rhoi cyfle iddyn nhw fe fyddwch chi’n eu colli. Rydym yn credu bod cael gweithlu pob oedran nid yn unig o fudd i’r unigolion ac yn mynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau yn y dyfodol ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth i’r busnes yn y tymor hir drwy sicrhau perchnogion yn y dyfodol.”
Wrth sôn am lansio’r ymgyrch a pham ei bod hi’n bwysicach nag erioed i gwmnïau gydnabod pa mor werthfawr yw eu gweithwyr hŷn, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
“Mae gweithwyr hŷn yn hanfodol ar gyfer ffyniant ein heconomi a’n busnesau yn y dyfodol. Nid yw cadw pobl, datblygu eu sgiliau gydol eu hoes waith a recriwtio gweithwyr hŷn erioed wedi bod mor allweddol i oroesiad a thwf busnesau.
“Mae gweithlu Cymru yn heneiddio ac ni fydd digon o bobl ifanc ar gael i lenwi’r swyddi gwag i gyd. Nod yr ymgyrch hon yw annog pob cyflogwr – ond busnesau bach a chanolig yn enwedig, y mae colli sgiliau a chostau recriwtio’n gallu effeithio’n waeth arnyn nhw – i gyflogi gweithwyr hŷn er mwyn goroesi a thyfu.
“Gobeithio y bydd yn cadarnhau pwysigrwydd y mater i fusnesau o bob maint yng Nghymru ac yn rhoi cyngor ymarferol iddyn nhw ar sut y gallan nhw reoli a chadw sgiliau a phrofiad eu gweithwyr hŷn, ac apelio at farchnad y gweithwyr hŷn.”
Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan BITC Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Matt Appleby, Cyfarwyddwr BITC Cymru, sy’n egluro pam roedden nhw’n awyddus i gymryd rhan.
“Mae’r ymgyrch hon yn cyflwyno neges bwysig iawn i fusnesau Cymru. Gyda newidiadau pensiwn, mae pobl yn aros yn fwy heini ac yn byw’n hirach, ac mae llawer o gwmnïau’n cael trafferth i recriwtio’r doniau maen nhw eu hangen, ac felly mae angen i fusnesau wneud y gorau o botensial eu gweithwyr hŷn a pharhau i ysbrydoli, cyflogi a datblygu pobl gydol eu hoes weithio.”
Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, eu bod wedi bod yn awyddus i lansio’r ymgyrch yn ystod Wythnos Sgiliau Gwaith:
“Mae pobl yn rhoi’r gorau i weithio cyn eu bod yn barod yn aml, gan fynd â’u sgiliau a’u profiad gyda nhw. Mae angen i gyflogwyr ledled Cymru gymryd camau i geisio cadw eu staff am gyfnod hirach, drwy gynnig patrymau gwaith hyblyg neu eu hailhyfforddi mewn swyddi gwahanol.”
Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fod recriwtio gweithwyr hŷn newydd hefyd yn fater allweddol yn ogystal ag ailhyfforddi a chadw gweithwyr.
“Mae’n bwysig bod pobl hŷn yn cael cyfle i aros mewn gwaith neu ailafael mewn gwaith gan eu bod yn gallu gwneud cyfraniad allweddol yn y gweithle. Bydd yr ymgyrch hon yn helpu cyflogwyr i feddwl yn fwy gofalus am werth cyflogi pobl hŷn a defnyddio eu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol y mae parhau mewn gwaith yn gallu ei chael ar iechyd a lles pobl hŷn.”
Mae ymgyrch Oes o Fuddsoddi Llywodraeth Cymru’n hyrwyddo’r angen i ddatblygu sgiliau ehangach i helpu busnesau ac unigolion i ffynnu a llwyddo. Anogir cyflogwyr i fuddsoddi mwy yn sgiliau eu gweithlu ac unigolion o bob oed i ddatblygu’r sgiliau maen nhw eu hangen ar gyfer oes waith lwyddiannus.
I gyflogwyr sydd am gael mwy o wybodaeth am sut y gallant fuddsoddi yn sgiliau eu gweithwyr hŷn, mae gan Borth Sgiliau i Fusnes Llywodraeth Cymru (dolen allonol) gyngor a chanllawiau amrywiol.