Os ydych chi'n berchen ar goetir yng Nghymru neu'n ei reoli, gallai eich safle ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Cynnwys
Beth yw Coedwig Genedlaethol Cymru
Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn rhwydwaith o goetiroedd sy'n ymestyn ar draws Cymru. Bydd yn caniatáu i bawb yng Nghymru gael mynediad i'n coetiroedd a'n coed a chysylltu â nhw. Bydd yn:
- creu ardaloedd newydd o goetir
- adfer a chynnal ein coetiroedd presennol
- amddiffyn natur a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth
- cefnogi ein hiechyd a’n llesiant
- darparu lleoedd ar gyfer hamdden a natur
- helpu i ddal a storio carbon
- darparu pren - adnodd cynaliadwy ar gyfer adeiladu
Mae creu Coedwig Genedlaethol yng Nghymru yn ymrwymiad hirdymor, sy'n ymestyn dros ddegawdau lawer.
Beth yw'r manteision o fod yn rhan o Goedwig Genedlaethol
Os bydd eich safle'n dod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol, byddwch yn cael cefnogaeth Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol penodol. Gallant ddarparu gwybodaeth am grantiau y gallech wneud cais amdanynt. Gallant hefyd eich helpu i gynyddu bioamrywiaeth a choridorau natur ar eich safle.
Fel rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol, bydd gennych fynediad at ystod o adnoddau a buddion. Mae'r rhain yn cynnwys:
- gweminarau ar-lein
- cyfleoedd i rannu, dysgu a chydweithio â rheolwyr safleoedd eraill
- digwyddiadau wyneb yn wyneb
- arwyddion a byrddau gwybodaeth
- ffotograffiaeth a deunydd fideo proffesiynol
- gwaith hyrwyddo am ddim drwy Croeso Cymru
Sut galla' i wneud cais
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru. Maent yn gallu:
- siarad â chi am y Goedwig Genedlaethol
- esbonio beth mae bod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol yn ei olygu
- eich cefnogi i gwneud cais am statws Coedwig Genedlaethol Cymru