Defnyddiwch y gwasanaeth yma i weld pa help y gallwch ei gael os yw’r coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnoch. Gallwch ei ddefnyddio ar eich cyfer chi’ch hun neu ar ran rhywun arall.
Gallwch gael gwybodaeth ynghylch:
- beth i'w wneud os nad ydych yn teimlo'n ddiogel lle'r ydych yn byw, neu os ydych yn poeni am rywun arall
- mynd i'r gwaith
- talu biliau neu fod yn ddi-waith
- cael gafael ar fwyd neu foddion
- cael rhywle i fyw
- iechyd a lles meddyliol, gan gynnwys gwybodaeth i blant