Mae Space Cymru yn hysbysebu eiddo sector cyhoeddus sydd ar gael i'w osod neu ei brynu.
Fel rhan o’r protocol trosglwyddo tir, bydd eiddo sector cyhoeddus sydd ar gael i’w osod neu ei brynu ar gael dim ond i sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i ddechrau.
Ar ôl 40 o ddiwrnodau, gall asedau eiddo gael eu hysbysebu ar borth Space Cymru, sy’n hygyrch i’r cyhoedd.