Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch tomenni glo

Mae tomenni glo yn waddol o orffennol glofaol Cymru. Mae sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel wastad wedi bod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Yn 2020, gwnaethom sefydlu rhaglen diogelwch tomenni glo, gan weithio gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r Awdurdod Glo.

Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael ag amrediad eang o waith, gan gynnwys casglu gwybodaeth am leoliadau tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i gynllunio amserlen archwilio reolaidd a gwneud gwaith cynnal a chadw – gwaith rheolaidd i sicrhau bod tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel. Rydym hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio technoleg newydd i fonitro tomenni.  
 
Credwn ei bod yn bwysig bod pobl yn gwybod ble mae tomenni glo nas defnyddir, ac rydym wedi cyhoeddi mapiau’n dangos eu lleoliadau ledled Cymru.  
 

Y diffiniad o domen lo nas defnyddir

Deunydd gwastraff sy'n deillio o gloddio glo yw tomen lo. Gelwir y tomenni glo rydym yn ymdrin â nhw'n domenni glo nas defnyddir, gan nad ydynt bellach yn gysylltiedig ag unrhyw waith cloddio na phwll glo.  Mae llawer o'r tomenni glo nas defnyddir hyn wedi bodoli ers degawdau, a rhai am gyfnod hirach na hynny.  

Beth mae Categori C neu Gategori D yn ei olygu ac a yw'r tomenni hyn yn ddiogel?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw cymunedau'n ddiogel. 

Mae Categori C neu Gategori D yn golygu bod angen archwilio'r tomenni nas defnyddir hyn yn amlach, fel y gallwn nodi a gwneud unrhyw waith cynnal pan fydd angen. Nid yw'n golygu eu bod yn anniogel, ond gallant fod yn fwy ac maent yn fwy tebygol o fod yn agos at gymunedau/seilwaith. 

Rydym wedi gofyn i'r Awdurdod Glo archwilio tomenni glo Categori C unwaith y flwyddyn a thomenni glo Categori D ddwywaith y flwyddyn. 

Mae hefyd Categorïau A, B ac R ar gyfer tomenni glo. Nid oes angen archwiliadau rheolaidd ar domenni glo Categori A a Chategori B.

Disgrifiadau llawn o'r categorïau

Categori D

Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf dwywaith y flwyddyn

Categori C 

Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn

Categori B 

Tomen nad yw’n debygol o effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd

Categori A

Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd

Categori R

Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd. Mae’n bosibl ei fod wedi cael ei symud neu fod rhywbeth wedi’i adeiladu drosti
 

Nifer y tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru

Mae dros 2,573 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth am nifer a chategorïau tomenni glo nas defnyddir

Beth i’w wneud os oes gennych bryderon ynghylch tomen lo

Os oes gennych unrhyw bryderon yr hoffech roi gwybod amdanynt, cysylltwch â ni


Beth sy'n digwydd os bydd tomen yn llithro

Mae'n debygol mai'r awdurdod lleol a fydd y corff cyhoeddus arweiniol wrth ymateb i unrhyw lithriad tomen lo.

Byddem yn gofyn i'r Awdurdod Glo gefnogi'r awdurdod lleol ac, ar rai achlysuron, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn darparu cymorth.
 
Mae'r tomenni glo segur wedi bod yno ers llawer o ddegawdau, ac mae'r rhaglen archwilio reolaidd wedi cael ei chynllunio i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cael eu nodi'n gynnar.  

Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â ni.

Cyhoeddiad data

Rydym bellach wedi cyhoeddi mapiau sy’n cynnwys lleoliadau’r holl domenni glo nas defnyddir ledled Cymru.

Mae'r ffiniau tomenni glo segur a nodir ar y map yn seiliedig ar amrediad o wybodaeth o wahanol ffynonellau, gan gynnwys mapiau hanesyddol ac arolygon o'r awyr.  Mae'n set ddata 'fyw' a gall gael ei diwygio wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.

Pam rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth hon

Pwrpas cyhoeddi'r data yw darparu gwybodaeth am leoliadau tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru.

Chwyddo mewn i fapiau

Gellir gweld ffiniau’r tomenni ar raddfa o hyd at 1:25,000. Ystyrir mai dyma’r raddfa orau i ddangos lleoliadau’r tomenni yng nghyd-destun eu hardal leol o fewn cyfyngiadau hawlfraint presennol.

Mae ffiniau’r mapiau’n seiliedig ar amrediad o wybodaeth o fapiau hanesyddol ac arolygon o’r awyr. Mae’n set ddata ‘fyw’ ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei diwygio wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.

Os ydych yn cael trafferth cael y map i weithio

Disgwylir i'n mapiau gwe digidol ar-lein o'r tomenni glo nas defnyddir fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Os nad yw'r map yn gweithio, efallai y byddwch am wirio eich cysylltiad rhyngrwyd a/neu ddefnyddio porwr rhyngrwyd gwahanol. Os yw'r problemau'n parhau, gallai fod oherwydd toriad annisgwyl yn y gwasanaeth neu fod llawer o bobl yn defnyddio'r wefan ar yr un pryd, felly gallech roi cynnig arall arni yn nes ymlaen.  Os yw'r problemau'n parhau, cysylltwch â ni.

Rhesymau pam efallai na fydd tomen nas defnyddir yn y data a gyhoeddwyd

Os ydych yn gwybod am domen segur ond nad yw yn y data a gyhoeddwyd, gallai hyn fod oherwydd nad yw'r domen yn domen lo.  

Os oes gennych bryderon, cysylltwch â ni.

Archwiliadau a chynnal a chadw

Rydym wedi comisiynu'r Awdurdod Glo i archwilio'r pob tomen lo Categori C a Chategori D bob blwyddyn. Mae tomenni glo Categori C bellach yn cael eu harchwilio unwaith y flwyddyn ac mae tomenni glo Categori D yn cael eu harchwilio ddwywaith y flwyddyn.

Mae’n annhebygol y bydd tomenni glo Categori B yn cael effaith ar ddiogelwch y cyhoedd, ond mae archwiliadau ar y tomenni hyn yn mynd rhagddynt.

Mae llawer o awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn archwilio eu tomenni glo yn ogystal â'r Awdurdod Glo.  

Mae nifer o’r tomenni glo nas defnyddir yng Nghategorïau C a D wedi’u cynnwys yn ein treialon technoleg, sy'n galluogi monitro tomen lo yn parhaus.

Beth i'w wneud os ydych wedi cael llythyr yn dweud bod rhywun yn dod i archwilio tomen lo nas defnyddir

Efallai y bydd yr Awdurdod Glo neu'r awdurdod lleol yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu bod angen iddynt archwilio tomen lo os yw eich tir neu eiddo arni.  Os ydych yn derbyn un o'r llythyrau hyn, gofynnwn ichi ganiatáu mynediad i'ch tir er mwyn gallu cynnal archwiliad.

Mae'n bwysig bod y cyrff hyn yn gallu archwilio tomenni'n rheolaidd a byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn ein helpu i sicrhau bod tomenni'n ddiogel.

Pan fydd angen archwilio tomen nas defnyddir

Bydd yr Awdurdod Glo neu'ch awdurdod lleol yn cysylltu â chi yn ysgrifenedig os oes angen archwiliad.

Arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw?

Rydym wedi sicrhau bod £44.4 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i wneud gwaith rheolaidd ar domenni sydd o dan berchnogaeth gyhoeddus a phreifat rhwng 2022 a 2025.

Iechyd

Os oes gennych gwestiynau amdano iechyd chi neu eich teulu

Mae'r tomenni glo segur yng Nghymru wedi bod yno ers llawer o ddegawdau, ac mae'r rhaglen archwilio reolaidd wedi'i chynllunio i sicrhau bod unrhyw newidiadau o ran strwythur neu gyfansoddiad y tir yn cael eu nodi'n gynnar.  Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â ni.

Os ydych yn pryderu am llygredd a domenni glo nas defnyddir

Mae'r perygl o lygryddion o domenni glo nas defnyddir eu hunain yn isel ar y cyfan. Fodd bynnag, mae hyn yn fater cymhleth a byddai angen ystyried tomenni glo fesul achos. 

Os oes gennych unrhyw bryderon sy'n gysylltiedig ag iechyd sydd yn cysylltiedig efo tomen lo penodol, cysylltwch â ni.

Eiddo

Os oes gennych gwestiynu am brisiau tai a chyfraddau yswiriant

Mae tomenni glo wedi bod yn bresennol ers llawer o ddegawdau – rhai ers canrifoedd.  Nid yw cyhoeddi eu lleoliad yn newid hyn.  Y prif newid yw bod rhaglen bwrpasol bellach ar waith i fonitro a chynnal a chadw'r tomenni glo hyn.  

Mae tomenni glo yng Nghategorïau C a D bellach yn cael eu harchwilio'n rheolaidd – rydym wedi gofyn i'r Awdurdod Glo archwilio tomenni categori C unwaith y flwyddyn a thomenni Categori D ddwywaith y flwyddyn.  Dechreuodd y rownd bresennol o arolygiadau'r gaeaf ar 9 Hydref.  Rydym hefyd wedi sicrhau bod £44.4 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i wneud gwaith arferol ar domenni sydd o dan berchnogaeth gyhoeddus a phreifat. Mae sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel wastad wedi bod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru – ac mae'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth.

Rydym yn cydnabod y gallai rhyddhau data mewn perthynas â lleoliadau tomenni glo nas defnyddir godi pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar brisiau tai ac yswiriant.  Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiannau yswiriant a morgais i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.

Deddfwriaeth yn y dyfodol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer trefn reoleiddio newydd ym mis Mai 2022 mewn Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru). Roedd y cynigion yn adeiladu ar argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ym mis Tachwedd 2022.

Yn amodol ar gytundeb Gweinidogion, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cyfundrefn reoleiddiol hirdymor, gynaliadwy ac addas i'r diben ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir, dan arweiniad corff cyhoeddus newydd a fydd yn canolbwyntio'n llwyr ar y gwaith hwn yn Hydref 2024. 

I dderbyn diweddariadau rheolaidd ar y rhaglen Diogelwch Tomenni Glo, gan gynnwys ar gynnydd y Bil, cysylltwch â ni