Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob plentyn yn cael cyfle i “Dod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi”, cyhoeddodd Kirsty Williams heddiw wrth iddi gyhoeddi manylion am y cam nesaf i ysgolion yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n fwriad i bob ysgol ddechrau’r cam nesaf ar y 29 Mehefin, gyda’r tymor yn cael ei ymestyn am wythnos hyd at 27 Gorffennaf.

Yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, sy’n dechrau ym mis Medi, y bwriad yw ymestyn hanner tymor mis hydref i bara am bythefnos.          

Ym mhob ysgol, bydd dull o weithredu fesul cam yn cael ei roi ar waith. Bydd y blynyddoedd ysgol yn cael eu rhannu yn grwpiau ac yn dechrau yn ôl ac yn cael gwersi ac egwyliau fesul grŵp. Mae disgwyl y bydd hyn yn golygu yn fras y bydd traean o ddisgyblion yn bresennol ar unrhyw un amser, ond efallai y bydd ysgolion angen amser i gyrraedd y lefel weithredu hon.

Bydd y dosbarthiadau’n llawer llai, gan ddarparu amser penodol, diogel gydag athrawon a chyd-ddisgyblion. Bydd yr amser hwn yn cynnwys profiad dosbarth ar-lein a phersonol, gan baratoi plant a staff ar gyfer profiad tebyg ym mis Medi.

Yr wythnos nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion (ac addysg bellach ac uwch). Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am reoli eu cyfleusterau a threfniadau logisteg: gan gynnwys adeiladau, adnoddau, glanhau a thrafnidiaeth.                 

Hefyd mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi papur gan ei Grŵp Cynghori Technegol COVID-19 heddiw, yn cynnwys y ddealltwriaeth ddiweddaraf o’r feirws mewn perthynas â phlant ac addysg.                               

Mae colegau addysg bellach yn sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb o’r 15fed Mehefin ymlaen. Byddant yn blaenoriaethu’r myfyrwyr hynny sydd angen asesiadau trwydded i ymarfer, a dysgwyr agored i niwed. Mae hyn yn dilyn gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth a’r undebau llafur ar y cyd.       

Bydd canllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf hefyd, gan eu cefnogi i gynyddu nifer y plant sy’n bresennol ochr yn ochr ag ysgolion.  

Dywedodd y Gweinidog Addysg:       

Mae fy nghyhoeddiad i heddiw’n rhoi tair wythnos a hanner i ysgolion i barhau i baratoi ar gyfer y cam nesaf.        

Byddwn yn defnyddio wythnosau olaf tymor yr haf i wneud yn siŵr bod disgyblion, staff a rhieni yn barod – yn feddyliol, yn emosiynol ac yn ymarferol – ar gyfer y normal newydd ym mis Medi.

Mae’r 29ain o Fehefin yn golygu y bydd mis llawn o brofi, olrhain a diogelu wedi bod a bydd yn parhau i ehangu hefyd. Hefyd gallaf gyhoeddi y bydd athrawon a chynorthwywyr addysgu yn grŵp blaenoriaeth yn ein rhaglen profion gwrthgyrff newydd.

Mae’r wyddoniaeth sy’n esblygu’n awgrymu bod tywydd cynnes a golau’r haul yn rhoi’r cyfle gorau i ni sicrhau mwy o amser mewn ysgolion. Byddai aros tan fis Medi yn golygu bron i hanner blwyddyn heb addysgu – byddai hynny’n niweidiol i les, i gynnydd dysgu ac i iechyd meddwl ein pobl ifanc ni. 

Mae hwn yn, ac wedi bod, yn gyfnod pryderus i ni i gyd. Rydw i’n gwybod y bydd llawer ohonoch chi’n teimlo’n nerfus. Dydyn ni heb frysio gyda’r gwaith a’r penderfyniad hwn.

Hefyd mae’r cyfnod o dair wythnos a hanner cyn y cam nesaf yn rhoi amser i ni gadw llygad ar ddatblygiadau mewn llefydd eraill, ac mae’n darparu cyfleoedd gwirio pellach i adolygu’r dystiolaeth ac ehangu’r profi.       

Dyma’r opsiwn ymarferol gorau sy’n cadw at fy mhum egwyddor sy’n sail i fy mhenderfyniadau.        

Trwy gydweithio, byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddod i’r ysgol, dal ati i ddysgu, a pharatoi ar gyfer yr Haf a mis Medi.