Neidio i'r prif gynnwy

Y rheolau ynghylch dod ag anifeiliaid anwes o Wcráin i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rheolau teithio â’ch anifail anwes

Rhaid i bob anifail anwes sy’n dod i’r DU fodloni gofynion llym iawn.  Hynny i wneud yn siŵr nad oes clefyd nad yw’n bodoli yma eisoes, fel y gynddaredd, yn cael ei gario i’r wlad.

Mae cathod, cŵn a ffuredau o drydedd wlad sydd heb ei rhestru, fel Wcráin, yn rhydd i ddod i’r DU ar yr amod:

  • bod ganddyn nhw ficrosglodyn
  • bod ganddyn nhw basbort anifeiliaid anwes a thystysgrif iechyd swyddogol gan filfeddyg (AHC)
  • eu bod wedi cael triniaeth at y llyngyr
  • eu bod wedi cael eu brechu rhag y gynddaredd
  • eu bod wedi pasio’r prawf gwaed 30 niwrnod ar ôl eu brechu rhag y gynddaredd
  • eu bod wedi cwblhau’r cyfnod aros o dri mis yn y wlad maen nhw’n teithio ohoni ar ôl pasio’r prawf gwaed

Mae’n arbennig o bwysig bod eich anifail anwes yn bodloni’r holl ofynion hyn.  Os nad yw wedi gwneud, rhaid i’r perchennog neu’r noddwr gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i wneud cais am drwydded i ddod â’r anifail anwes i’r DU.  Dysgwch fwy yn Dod â'ch anifail anwes i'r DU o Wcráin (www.gov.uk) (yn Saesneg, Wcraineg a Rwsieg).  

Os oes anifail anwes yn dod i Gymru sydd heb fodloni’r holl ofynion hyn, bydd yn rhaid iddo fynd i gwarantîn am hyd at 4 mis.

A yw’n rheolau ni ar gyfer cathod, cŵn a ffuredau’n wahanol i’r rheini yn Lloegr a’r Alban?

Mae’r rhan fwyaf o’r rheolau yr un peth yn holl wledydd y DU, er bod ambell un wahanol yng Nghymru.

Pa reolau sy’n wahanol?

Os nad yw’r anifeiliaid anwes sy’n dod i Gymru yn bodloni’r gofynion, rhaid iddynt fynd i gwarantîn mewn canolfan swyddogol.

Rydyn ni’n deall bod eu hanifeiliaid anwes yn aruthrol o bwysig i bobl.  Byddwn ni felly yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y bobl sy’n chwilio am loches yng Nghymru yn cael eu hanifeiliaid yn ôl mor ddiogel a chyflym â phosibl.

Yr hyn sy’n ein poeni ni am y rheol ynghylch ynysu gartref yn Lloegr a’r Alban yw sut mae monitro a gorfodi hynny.

Dyna pam ein bod ni wedi penderfynu mynnu bod eich anifail yn mynd i gwarantîn mewn canolfan swyddogol. Dyna’r opsiwn mwya’ diogel i amddiffyn eich anifail ac iechyd y cyhoedd.

Pam gwneud y penderfyniad hwn?

Chafodd y penderfyniad ddim ei wneud ar chwarae bach.

Ond mae’n rhaid gweithredu ar sail y dystiolaeth sydd gennym.  Rhaid i ni amddiffyn a gofalu am yr anifeiliaid sy’n dod o Wcráin.  Rhaid i ni amddiffyn hefyd iechyd yr anifeiliaid a’r bobl sydd yma yng Nghymru.  I wneud hyn, rhaid i ni eu hamddiffyn rhag clefydau fel y gynddaredd.

A fyddwn ni’n adolygu’r penderfyniad hwn?

Byddwn yn asesu’r opsiynau gwahanol i wneud yn siŵr nad yw anifeiliaid yn cael eu cadw mewn canolfan gwarantîn am fwy o amser nag sydd ei angen.

A yw cŵn cymorth ac anifeiliaid anwes cymorth emosiynol wedi'u heithrio o gwarantîn swyddogol?

Mae "ci therapi" neu "ci cymorth emosiynol" yn dermau generig a ddefnyddir i ddisgrifio ci sydd o fudd i bobl mewn ffordd therapiwtig. 

Diffinnir cŵn cymorth yn gyfreithiol yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf hon yn gwahardd darparwyr gwasanaethau rhag gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd angen ci cymorth. Rhaid gwneud addasiadau rhesymol i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid anabl a'u cŵn cymorth. 

Mae cwmnïau teithio Prydeinig fel arfer yn adnabod cŵn tywys a chŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi gan sefydliadau cymeradwy. Mae hyn yn caniatáu teithio ar fwy o lwybrau a mathau o gludiant lle na chaniateir anifeiliaid eraill. 

Rhaid i gŵn cymorth fodloni'r un gofynion o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ar gyfer teithio ag anifeiliaid anwes eraill. Fodd bynnag, mae protocolau ar waith gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i flaenoriaethu eu mynediad i'r DU. Mae cŵn cymorth nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn â'r amodau ar gyfer mynediad wedi'u heithrio o'r gofyniad i gael eu gosod dan gwarantîn mewn cyfleusterau swyddogol. Yr arfer cyffredin yw caniatáu hyn o dan delerau penodol.

Mae hyn yn caniatáu i'r cŵn barhau â'u gwasanaeth. 

Ar hyn o bryd, nid oes gan anifeiliaid therapi nac anifeiliaid cymorth emosiynol gydnabyddiaeth gyfreithiol yn y DU i’r un graddau ag anifeiliaid cymorth. Nid ydynt o’r herwydd wedi'u heithrio o'r gofynion cwarantin ar gyfer anifeiliaid anwes.

A fydd fy anifail yn cael gofal da yn y ganolfan gwarantîn?

Bydd.  Mae lles eich anifail yn bwysig iawn i ni.

Pan fydd eich anifail yn y ganolfan gwarantîn, bydd yn cael gofal da. Bydd hefyd yn derbyn unrhyw driniaeth filfeddygol y bydd ei angen arno i gydymffurfio â’r rheolau iechyd i gael dod i’r wlad.

Am faint y byddwch chi a’ch anifail ar wahân?

Bydd pob anifail anwes yn cael ei archwilio i weld beth sydd angen ei wneud cyn y gall fynd yn ôl i’w berchennog. Byddwn yn ystyried:

  • pa frechlynnau a thriniaethau y mae wedi’u cael
  • canlyniadau ei brofion gwaed, a
  • faint o amser sydd ers iddo adael Wcráin

Ni fydd y cwarantîn yn para mwy na 4 mis ond bydd y cyfnod yn amrywio o anifail i anifail. Mae’n dibynnu beth bydd angen ei wneud i gydymffurfio â holl reolau’r DU i gael dod i’r wlad.

Pwy fydd yn talu am hyn?

Ni fydd yn talu am hyn.