Neidio i'r prif gynnwy

Rhagarweiniad

Mae cymorth ychwanegol i’r gweithlu meddygol yn cael ei gynllunio ar gyfer y posibilrwydd o COVID-19 yn lledaenu’n helaeth. Mae hyn yn cynnwys gofyn i weithwyr proffesiynol sydd wedi gadael y GIG (dros dro neu’n barhaol) ystyried dychwelyd i helpu mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Os bydd argyfwng, gall y Cyngor Meddygol Cyffredinol gofrestru rhai grwpiau dros dro. Os bydd hyn yn digwydd, ni fydd yn rhaid i feddygon ddilyn y broses gofrestru eu hunain, oherwydd bydd yn cael ei wneud yn awtomatig iddynt. Y grŵp cyntaf i gael ei gofrestru fyddai meddygon profiadol a chwbl gymwys gydag enw da, sydd wedi ildio eu cofrestriad neu eu trwydded i fod yn feddyg yn ddiweddar.

Mae hon yn sefyllfa syn parhau ac yn datblygu. Bydd nifer o benderfyniadau yn cael eu gwneud yn syth. Mae'r ddogfen hon yn rhoi peth canllawiau i chi ond ni all gynnwys popeth. Bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yma, anfonwch nhw i’n blwch post: HSSWorkforceOD@gov.wales.

A fyddaf yn cael fy nhalu? Os felly, faint a pha mor rheolaidd?

Byddwch yn cael eich talu am unrhyw waith rydych chi’n ei wneud, mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r cyfrifoldebau rydych chi’n eu hysgwyddo. Bydd yr union swm yn cyd-fynd â’r hyn sy’n cael ei gynnig i feddygon/gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar y raddfa roeddech chi arni pan adawoch chi’r GIG.

Beth yw’r goblygiadau o ran fy mhensiwn a fy nhreth?

Beth os ydw i mewn sefyllfa ôl-bensiwn?

Ni fydd hyn yn cael effaith os ydych chi mewn sefyllfa ôl-bensiwn.

Beth fydd y trefniadau talu pensiwn ar gyfer staff sy’n dychwelyd i’r GIG i helpu yn yr ymateb i COVID-19?

  • Mae’r llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth frys mewn ymateb i COVID-19, sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig am drefniadau pensiwn i staff ychwanegol y GIG. 
  • Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer atal y rheol 16 awr, sydd ar hyn o bryd yn rhwystro staff sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl ymddeol ar Gynllun Pensiwn 1995 y GIG rhag gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos yn y pedair wythnos gyntaf ar ôl ymddeol.
  • Mae hefyd yn darparu ar gyfer atal gostyngiadau ar gyfer deiliaid statws dosbarth arbennig yng Nghynllun 1995, a’r gofyniad bod staff yn Adran 2008 a Chynllun Pensiwn 2015 y GIG yn lleihau eu cyflog pensiynadwy 10% os byddant yn dewis ‘tynnu i lawr’ cyfran o’u budd-daliadau a pharhau i weithio.
  • Gyda’i gilydd, bydd y mesurau hyn yn caniatáu i staff medrus a phrofiadol sydd wedi ymddeol o’r GIG yn ddiweddar ddychwelyd i’r gwaith, ac yn caniatáu i staff sydd wedi ymddeol ac wedi dychwelyd i’r gwaith yn barod gynyddu eu hymrwymiadau os bydd angen, heb golli eu budd-daliadau pensiwn.
  • Mae’r mesurau hyn yn bwysig ar gyfer caniatáu i unigolion ddychwelyd i’r gwaith yn ystod cyfnod hollbwysig i’r GIG a’u bod yn glir o ran eu trefniadau pensiwn. 

Pryd fydd y mesurau hyn yn dod i rym?

  • Bydd y ddeddfwriaeth yn rhoi pŵer i’r Llywodraeth ddod â’r mesurau hyn i rym ar unwaith os oes angen. 

Beth fydd yn digwydd pan na fydd angen y mesurau hyn mwyach?

  • Bydd cyfnod rhybudd o 6 mis yn cael ei roi i staff a chyflogwyr cyn i’r mesurau hyn ddod i ben. Bryd hynny, bydd adrannau perthnasol o reoliadau’r cynllun yn dod i rym eto. Felly bydd gan staff a chyflogwyr 6 mis o rybudd i addasu eu patrymau gweithio eto.

Mae treth pensiwn yn effeithio’n sylweddol ar glinigwyr sy’n cael cyflogau mawr ac yn rhwystr i ddarparu capasiti ychwanegol ymysg staff presennol y GIG. Beth ydych chi’n ei wneud am hynny?

  • Roedd y maniffesto’n addo mynd i’r afael â’r broblem tapr ym mhensiynau meddygon, sy’n golygu bod llawer wrthod shifftiau ychwanegol rhag ofn cael biliau treth uchel. Bydd y Canghellor yn gwneud hyn drwy ddatrysiad treth, fel a ganlyn:
    • Bydd trothwyon y tapr lwfans blynyddol yn cynyddu £90,000 o 6 Ebrill 2020. Bydd trothwy’r cyflog trethadwy yn codi o £110,000 i £200,000, a’r trothwy incwm addasedig yn codi o £150,000 i £240,000.
    • Ond i wneud yn siŵr bod y sawl sy’n cael y cyflogau uchaf yn talu cyfran deg o dreth pensiwn, bydd y lefel isaf y gellir tapro’r lwfans blynyddol i lawr iddi yn lleihau i £4,000 o £10,000. Dim ond y rheini â chyfanswm incwm o dros £300,000 (yn cynnwys croniadau pensiwn) y bydd hyn yn effeithio arnynt.

Oes modd i mi helpu heb fod mewn rôl sy’n trin cleifion yn uniongyrchol?

Oes. Bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer rolau nad ydynt yn trin cleifion, fel gweithio gyda NHS 111.

Ble fyddaf yn cael fy lleoli/yw hi’n bosib y byddaf yn cael fy anfon i ran arall o’r wlad?

Lle bo’n bosib, byddwch yn cael eich anfon i fwrdd iechyd / ymddiriedolaeth lle rydych chi wedi gweithio o’r blaen neu y mae gennych gysylltiad â’r lle. Efallai y bydd achosion prin lle byddwn yn gofyn a fyddech yn ystyried symud i ardal arall o ganlyniad i brinder difrifol yn y gweithlu, ond byddwn yn trafod hyn gyda chi ymlaen llaw.

A fydd pobl yn cael eu cyflogi gan un bwrdd iechyd / ymddiriedolaeth neu a fyddant yn symud o gwmpas?

I ddechrau, byddwn yn disgwyl i staff weithio mewn un sefydliad ond efallai y bydd gofyn iddynt weithio ar sail rota mewn sefydliadau gwahanol yn seiliedig ar angen clinigol, ond bydd hyn yn amodol ar ddewisiadau’r unigolyn bob amser. Ni ddylai hi fod yn broblem bod bydwragedd yn gweithio ar draws gwahanol ardaloedd, oherwydd maen nhw wedi arfer gweithio felly.

A fydd gen i sicrwydd yswiriant ac indemniad?

COVID:19 NHS Wales Indemnity

Due to the ever-increasing pressure on our NHS in Wales during this time, clarity has been sought regarding the application of the Wales state backed clinical negligence schemes – the scheme for General Medical Practice Indemnity (GMPI) (that deals with primary care claims) and the Clincial Negligence Scheme (CNS) (that deals with secondary care claims) during the deployment of GPs, and clinical staff to other departments, roles and clinical duties as a result of COVID-19.

The Welsh Ministers indemnify both NHS Trusts and Local Health Boards (including those employed and engaged by a Trust or LHB) as members of its scheme for clinical negligence through the NHS (Clinical Negligence Scheme) (Wales) Regulations 2019. GPs holding a GMS contract and those employed or engaged by those GPs are also covered by the GMPI scheme. Any returning GP that wishes to undertake locum work will need to register on the All Wales Locum Register (AWLR) in order to fall within the scope of the GMPI. A GP who does not register on the AWLR but wishes to undertake locum work will need to make their own arrangements for indemnity cover.

The Schemes cover any liability in tort owed by a member to a third party in respect of or consequent upon personal injury or loss arising out of or in connection with any breach of a duty of care owed by the member to any person in connection with the diagnosis of any illness, or the care or treatment of any patient, in consequence of any act or omission to act on the part of a person employed or engaged by a member, or a GMS contractor and those employed or engaged by that contractor, in connection with any relevant function of that member.

Under section 11 of the Coronavirus Act 2020, the Welsh Government will provide indemnity for clinical negligence liabilities associated with COVID 19 which are not already covered by alternative indemnity arrangements such as those provided by the GMPI and CNS, insurance companies or medical defence organisations. 

We wish to resassure all NHS employees and GMS contract holders (and honourary contract holders) that the necessary levels of protection and indemnity will continue to be in place through this time. Returning GPs and volunteers who have been sourced by NHS Wales to assist with the delivery of clinical services will also be covered by these schemes. Indemnity arrangements should not be  a barrier to changed working arrangements during the pandemic.

A fydd meddygon sy’n dychwelyd yn cael gwarchodaeth indemniad clinigol?

Bydd unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n gweithio mewn bwrdd iechyd / ymddiriedolaeth neu bractis meddyg teulu wedi’i ddiogelu.

Os ydynt yn cael eu cyflogi gan fwrdd iechyd / ymddiriedolaeth y GIG i ddarparu gwasanaethau’r GIG, bydd y Cynllun Esgeuluster Clinigol yn eu gwarchod.

Os ydynt yn cael eu cyflogi gan bractis meddyg teulu i ddarparu gwasanaethau’r GIG (hy practis meddyg teulu lle mae ei brif fusnes yw darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol i’r GIG), bydd Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Practis Cyffredinol yn eu gwarchod.

Where do I go for more advice and support about indemnity?

We recognise that returning doctors may also want to access medico-legal advice and support, and it is the Government’s intention to ensure this is not a barrier to their return. The Medical and Dental Defence Union of Scotland (MDDUS), the Medical Defence Union (MDU), and the Medical Protection Society (MPS) have confirmed that they will provide medico-legal advice and support at no cost to their retired members who return to work on the COVID-19 response.

For retired MPS and MDDUS members this is automatic. MDU is asking retired members to complete a short form. More information for returning members is available at

A fydd yn rhaid i mi dalu i gael fy nghynnwys ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol unwaith eto?

Na fydd, ni fydd yn rhaid i chi dalu i gael eich cynnwys dros dro ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

A fydd disgwyl i mi ailgyflawni proses werthuso neu ailddilysu?

Na fydd, ni fydd rhaid gwneud hynny.

A fydda i’n cael proses gynefino?

Mae swyddogion wrthi’n penderfynu ar y cynlluniau terfynol o ran os / sut bydd trefniadau Llwybr Carlam yn berthnasol yng Nghymru.  Bydd diweddariad ar hyn yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Mae fy archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi dod i ben – oes ots?

Bydd angen archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd hon yn broses gyflym o bell mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Gartref.

Mae gen i gydafiachedd (co-morbidity) neu rwy’n ofalwr sylfaenol, oes modd i mi weithio?

Ac ystyried y risg uwch o COVID-19 yn y rheini â chydafiachedd ac ymysg y boblogaeth hŷn, byddwn yn cynghori na ddylai’r grŵp hwn ddychwelyd i waith clinigol sy’n trin cleifion. Ond efallai y byddai gennych chi ddiddordeb mewn rôl sydd ddim yn trin cleifion yn uniongyrchol.

Rwyf wedi derbyn cofrestriad dros dro. Beth nesaf? Sut byddaf yn cael gwybod lle ydw i’n gweithio?

Gyda’ch caniatâd, bydd eich manylion cyswllt yn cael eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol er mwyn eich cysylltu â bwrdd iechyd lleol / ymddiriedolaeth.

A fyddaf yn cael fy anfon i nifer o wahanol glinigau/ysbytai, neu’n aros mewn un rôl?

Yn ddelfrydol, byddwch yn cael un rôl, ond nid oes modd sicrhau hynny.

A fydd angen i mi ddysgu sgiliau newydd?

Mae prosesau cynefino carlam yn cael eu datblygu’n lleol. Bydd hyn yn cynnwys gloywi hen sgiliau, fel cyhoeddi tystysgrif marwolaeth a rhagnodi, a sgiliau newydd fel hyfforddiant cyfarpar diogelu personol.

Beth os ydw i’n mynd yn sâl wrth weithio?

Os byddwch yn mynd yn sâl wrth weithio, dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell a rhoi’r gorau i weithio ar unwaith. Os ydych yn meddwl eich bod yn sâl o ganlyniad i COVID-19 o bosib, dylech ddilyn y canllawiau cenedlaethol sydd ar waith ar y pryd (hunanynysu yn ôl pob tebyg).

Beth os byddaf yn newid fy meddwl a ddim yn dymuno gweithio mwyach – wrth bwy dylwn i ddweud?

Os byddwch yn newid eich meddwl ac nad ydych chi am weithio mwyach, rhowch wybod i’ch rheolwr llinell. Byddwn yn disgwyl eich bod yn ymddwyn yn broffesiynol – er enghraifft peidio â gadael yng nghanol shifft. Mae’n debygol mai dim ond am ychydig wythnosau y bydd angen meddygon ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.

A fydd gofyn i mi weithio mewn maes gwaith anghyfarwydd o bosib?

Cyn belled ag y bo modd, rydym yn ceisio cyfateb meddygon i feysydd arbenigol penodol. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen i chi weithio mewn maes arbenigol gwahanol yn unol â gofynion y gwasanaeth. Os oes rhaid gwneud hynny, byddwch yn cael cymorth digonol i gyflawni’r rolau hynny. Bydd byrddau iechyd / ymddiriedolaethau yn trafod â thimau staffio meddygol i wneud trefniadau lleol. Dylid dilyn Ymarfer Meddygol Da y Cyngor Meddygol Cyffredinol a byddai disgwyl i chi gydnabod a gweithio o fewn cyfyngiadau eich gallu.

Rwyf yn gweithio mewn rôl addysg neu ymchwil, beth yw'r camau nesaf i mi?

Os oes gennych gontract ar y cyd rhwng rôl glinigol a rôl addysg/ymchwil, bydd eich bwrdd iechyd / ymddiriedolaeth yn cysylltu â chi i drafod a ydych yn fodlon rhoi’r gorau i’r gweithgareddau hyn yn y tymor byr (oni bai eich bod yn gweithio ar addysg neu ymchwil mewn cysylltiad â COVID-19) i ddarparu mwy o gymorth clinigol yn y gweithle. Mae’n bosib y bydd y rheini ag arbenigedd dysgu yn gallu helpu i ddarparu rhaglenni cynefino i bobl eraill, gan gynnwys meddygon sy’n dychwelyd – er enghraifft, ar ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, rheoli ocsigen uchel ei lif neu gleifion sy’n cael cymorth anadlu (os ydynt wedi cael hyfforddiant priodol i wneud hynny).

Rwyf yn gweithio mewn rôl glinigol ran-amser, beth yw'r camau nesaf i mi?

Trafodwch â’ch cyflogwr o dan ba amgylchiadau y dylech ohirio eich ymrwymiadau allanol dros dro er mwyn darparu rhagor o gymorth clinigol yn eich bwrdd iechyd / ymddiriedolaeth. Ym mhob achos, dylid rheoli’n ofalus y cydbwysedd rhwng cefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG yn uniongyrchol a chyflawni gwaith ‘busnes fel arfer’ y cyrff cenedlaethol.

Pa fath o waith fyddai disgwyl i mi ei wneud o bosib? A fydd gen i ddewis?

Mae llawer o rolau posib y bydd disgwyl i chi eu cyflawni o bosib, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cyfrannu at adran glinigol gwasanaeth NHS111, cyhoeddi tystysgrifau marwolaeth, ôl-lanw ar ran clinigwyr sy’n delio â chleifion anadlol acíwt, helpu mewn clinigau i gleifion allanol (dros y ffôn o bosib), gweld cleifion yn yr Adran Achosion Brys gyda chyflyrau acíwt heb fod yn anadlol, darparu triniaeth ddewisol ar safleoedd ‘oer’, hyfforddi clinigwyr eraill.

Am ba mor hir fydd fy angen i?

Mae’n debygol y bydd eich angen am gyfnod byr, ond ar hyn o bryd nid oes modd rhag-weld am ba hyd yn union. Cewch roi’r gorau i weithio ar unrhyw adeg. Mae’n debygol y bydd contractau’n cael eu llunio am gyfnod o 6 mis, gyda’r posibilrwydd o estyniad.

A fydd gen i gontract?

Bydd. Bydd gennych gontract sy’n adlewyrchu’r holl amddiffyniadau oriau gwaith, trefniadau cyflog, hawl i wyliau blynyddol, a phrosesau cynefino ysbytai sy’n cael eu darparu i feddygon FY1 newydd.

Pa ddogfennaeth fydd angen ei gwirio cyn i mi ddechrau gweithio? Oes modd gwneud hyn o bell?

Bydd rhaid cadarnhau pwy ydych chi ond bydd hyn yn broses gyflym gyda’ch adran AD leol.

A fydd gen i rota/a fydd angen i mi weithio nifer penodol o oriau?

Mae’n bosib y byddwch ar rota ond caiff hyn ei drafod â’r adran leol byddwch ynddi. Ni fydd yr oriau gwaith yn mynd yn groes i’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd.

A fyddwch yn fy mhrofi am goronafeirws?

Os byddwch yn datblygu symptomau, dilynir y canllawiau profi cenedlaethol.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n trin cleifion a fod gen i goronafeirws?

Cyn gynted ag y bydd achos o goronafeirws yn cael ei gadarnhau ymysg y staff, bydd yr aelod hwnnw’n cael ei dynnu o’r gwaith a dilynir trefniadau olrhain cyswllt.

A fyddaf yn cael cyfarpar diogelu personol?

Byddwch, os bydd angen.

Oes angen i mi wisgo masg wyneb?

Does dim angen i chi wisgo masg wyneb os ydych yn iach.

Mae masgiau wyneb ddim ond yn ddefnyddiol os ydynt wedi eu ffitio'n iawn i'r sawl sy'n eu gwisgo ac wedi cael "fit-test".  Pe bai gofyn i chi ofalu am gleifion gydag achosion tybiedig neu wedi eu cadarnhau o COVID-19, byddwch yn cael hyfforddiant yn y mesurau osgoi haint priodol - gan gynnwys y defnydd cywir o PPE. Gweler cyngor Llywodraeth y DU.

Dydw i ddim wedi cael prawf i weld a yw’r masgiau cywir (FFP3) yn ffitio? A fydd gofyn i mi fynd i ystafell gyda chlaf sy’n cael ei amau/wedi cadarnhau bod covid-19 ganddo?

Rhaid i glinigwyr sy’n paratoi i asesu claf y mae amheuaeth fod ganddo COVID-19 wisgo cyfarpar diogelu personol, sy’n cynnwys y canlynol o leiaf:

  • peiriant anadlu FFP3 wedi’i ffitio’n gywir
  • gŵn
  • menig
  • gwarchodaeth llygaid

Rhaid i feddygon sy’n gweld cleifion ag achos o COVID-19 wedi’i gadarnhau wisgo cyfarpar diogelu personol llawn, gan gynnwys:

  • Peiriant anadlu FFP3
  • gwarchodaeth llygaid un-tro, a fisor yn ddelfrydol
  • gŵn un-tro â llewys hir
  • menig

Ar gyfer cleifion â symptomau ond nad yw wedi’i gadarnhau, dylai meddygon wisgo:

  • masg llawfeddygol ag ymwrthedd i hylif
  • menig
  • ffedog
  • gwarchodaeth llygaid os oes risg o hylif yn tasgu i’r llygaid

Rwyf yn feichiog neu’n wrthimiwnedd. Pa hawliau sydd gen i er mwyn diogelu fy hun rhag haint yn y gwaith?

Gall menywod beichiog fod yn arbennig o agored i niwed, ac mae gan gyflogwyr ddyletswydd ychwanegol i'w hamddiffyn. Dylai cyflogwyr asesu'r risg yn rheolaidd a thrafod opsiynau gyda chyflogeion sy'n feichiog. Gallai fod yn briodol eu symud i leoliad gwahanol, trefnu eu bod yn gweithio o adref, neu hyd yn oed eu tynnu o'r gweithle dros dro. Os mai dyma'r achos byddant yn derbyn cyflog llawn. Dylai unrhyw gamau gael eu cymryd drwy gydsyniad, ac yn ddelfrydol gyda chefnogaeth gan Iechyd galwedigaethol.   Mae mwy o gyngor ar gael gan y Colegau Brenhinol.

Mae’n bosib iawn bod risg uwch i bobl wrthimiwnedd, yn dibynnu ar y rheswm dros y gwrthimiwnedd, math o gyffur, y dos ac ati. Bydd asesiad risg yn cael ei gynnal yn lleol ac fe’ch cynghorir i osgoi dod i gysylltiad â COVID-19, a allai olygu eich bod yn cael eich symud i rôl nad yw yn y rheng flaen.

Oes cyngor penodol ar gyfer clefydau cronig risg uchel eraill?

Mae risg uwch o gymhlethdodau a chyfradd marwolaethau uwch i bobl â chlefydau cronig ar y galon neu’r ysgyfaint. Ni fyddwn yn cynghori’r grŵp hwn i ddychwelyd i rolau sy’n trin cleifion yn uniongyrchol.

Rwyf yn poeni y bydd yn rhaid i mi weithio mewn amodau anniogel o bosib. Sut gallaf ddiogelu fy hun?

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cydnabod y gallai meddygon fod yn bryderus ynglŷn â’r diffyg ystyriaeth o gyd-destun pe byddai pryderon yn cael eu codi am eu camau gweithredu mewn amgylchiadau heriol iawn. Pan fydd pryder yn cael ei godi mewn cysylltiad â gweithiwr proffesiynol cofrestredig, byddwn yn ei ystyried yn ôl ffeithiau penodol yr achos bob amser, gan ystyried y ffactorau sy’n berthnasol i’r amgylchedd y mae’r gweithiwr proffesiynol yn gweithio ynddo. Byddai’r Cyngor Meddygol Cyffredinol hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol am adnoddau, canllawiau neu brotocolau sydd ar waith ar y pryd.

Sut gallaf wrthod os bydd gofyn i mi weithio y tu hwnt i fy ngallu clinigol?

Os bydd yr epidemig yn gwaethygu, mae’n debygol y bydd rhaid i feddygon weithio y tu allan i’w maes ymarfer arferol. Wrth benderfynu ar y camau gorau a mwyaf diogel dan yr amgylchiadau, dylai meddygon ystyried ffactorau gan gynnwys eu gwybodaeth a’u sgiliau; diogelwch ac anghenion yr holl gleifion mae ganddynt gyfrifoldeb tuag atynt; lleihau’r risg o drosglwyddo; a diogelu eu hiechyd eu hunain.

Mae sefydliadau amddiffyn yn cynghori y dylai unrhyw feddyg sy’n cael dyletswyddau clinigol y tu hwnt i’w gallu clinigol esbonio eu pryderon yn glir i rywun sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu’r gwasanaeth, er mwyn penderfynu ar y ffordd fwyaf diogel o fwrw ymlaen. Os ydynt wedi gwneud hynny ac yn dal yn teimlo’n anesmwyth, gall eu sefydliadau amddiffyn meddygol eu cynghori ymhellach. Dylid dilyn Ymarfer Meddygol Da y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Sut byddwn yn delio â cheisiadau cleifion am feddyginiaeth ychwanegol?

Er nad oes prinder hysbys o feddyginiaethau ar hyn o bryd o ganlyniad i COVID-19, mae’n bosib y bydd meddygon yn cael ceisiadau gan gleifion am feddyginiaeth ychwanegol er mwyn pentyrru. Rydym yn cynghori meddygon i wrthsefyll pwysau i roi presgripsiynau gormodol, ac i lynu wrth y polisïau presennol ar bresgripsiynau amlroddadwy oni bai eu bod yn cael cyngor swyddogol sy’n dweud fel arall.

Os byddaf yn dewis gweld cleifion o bell, a fydd hynny’n effeithio ar fy indemniad?

Wrth wneud penderfyniad i weld a chynghori cleifion o bell, dylai meddygon gydbwyso’r risgiau a’r buddion, a bod yn fodlon y gallant gynnal asesiad clinigol digonol o’r claf o bell. Mae sefydliadau amddiffyn yn cynghori meddygon i gofnodi rhesymeg unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud a’r wybodaeth maen nhw’n ei rhoi i gleifion, rhag ofn y bydd angen iddynt esbonio eu dull gweithredu yn nes ymlaen.

Rwyf ar fin graddio o ysgol feddygol ac rwyf yn awyddus iawn i helpu. Oes modd i mi ddechrau gweithio cyn mis Awst?

Mae AaGIC wrthi’n trafod â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac ysgolion meddygol i weld sut gall myfyrwyr meddygol helpu’n ddiogel os bydd angen.

Pwy sy’n gwirio bod person wedi cofrestru, a sut gall pobl gael gwybod?

Bydd angen i sefydliadau wneud hyn drwy daro golwg ar wefan y rheoleiddiwr. Mae’r rhan fwyaf o reoleiddwyr yn ei defnyddio ond rydym ni’n gwirio’r HCPC.

Sut caiff Telerau ac Amodau eu cytuno? Gyda byrddau iechyd / ymddiriedolaethau unigol?

Bydd sefydliadau unigol yn penderfynu ar y telerau ac amodau. Yr argymhelliad yw bod y telerau ac amodau yr un fath â’r rheini a oedd ar waith pan adawodd yr unigolyn y sefydliad.

A fydd costau teithio’n cael eu talu?

Nid ydym yn disgwyl talu am deithio i’r gwaith o adref.

Beth yw’r trefniadau o ran rheolaeth linell?

Byddai rheolaeth linell yn dilyn yr un llinellau atebolrwydd a goruchwyliaeth ag arfer.

Sut bydd unrhyw broblemau’n cael eu huwchgyfeirio?

Yn y lle cyntaf, dylai unigolion gysylltu â’u rheolwr llinell, eu hadran AD leol / Prif Swyddog Nyrsio / Cyfarwyddwr Meddygol.  Byddwn yn disgwyl i reolau / polisïau llywodraethu arferol fod yn berthnasol hefyd.

Beth yw rôl asiantaethau?

Byddai’n well gennym gyflogi staff yn uniongyrchol neu ddefnyddio banciau staff, gan mai dyma’r ffordd fwyaf costeffeithiol o gyflogi pobl. Dylid defnyddio asiantaethau fel dewis olaf yn unig.

Sut i gymryd rhan

Bydd eich rheoleiddiwr yn cysylltu â chi cyn hir gyda mwy o wybodaeth os:

  • ydych wedi gadel eich proffesiwn yn y 3 blynedd diwethaf
  • oedd gyda chi'r sgiliau a'r profiad diweddaraf pan wnaethoch chi adael

Cofrestru i ailymuno â'r GIG.

Rhannu’r dudalen hon