Neidio i'r prif gynnwy

Bob dydd, mae degau o filoedd o bobl yng Nghymru yn derbyn gofal o safon gan y GIG, a hynny o fewn system sy’n gwella’n gyson.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Bob blwyddyn yn y GIG, mae:

  • 30,000 o enedigaethau
  • un filiwn o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys
  • tair miliwn o apwyntiadau cleifion allanol
  • oddeutu 18 miliwn o gysylltiadau â phractisau meddygon teulu, clinigau cymunedol a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
Mae’r adroddiad yn disgrifio rhai o’r gwelliannau, ynghyd â’r pethau arloesol sydd wedi eu cyflwyno yn y gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf Mae hefyd yn amlygu meysydd lle mae angen gwella yn y dyfodol.  

Dyma rai pethau arloesol sy’n cael eu disgrifio yn yr adroddiad: 
  • Defnyddir ffurf unigryw ar lawdriniaeth blastig i geisio gwella ansawdd bywyd cleifion lymffoedema. Cymru yw’r unig wlad yn y DU i gynnig y llawdriniaeth hon, sy’n cael ei hariannu drwy gronfa Technoleg Iechyd Llywodraeth Cymru. Mae’r driniaeth yn golygu nad oes angen i gleifion ddefnyddio dillad cywasgu bellach, ac mae hynny hefyd yn lleihau’r gost i’r GIG.  

  • Mae dros 150 o aelodau staff newydd wedi cael eu recriwtio, a chafodd gwasanaethau newydd eu creu i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ledled Cymru. Mae gwasanaeth timau ymyrryd brys bellach ar gael y tu allan i oriau gwaith arferol, ac mae timau seicosis yn darparu gofal ymyrraeth gynnar i bobl ifanc 15-24 oed sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol.  
Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall: 

“Rydyn ni wedi gweld rhai blynyddoedd o wella cyson mewn canlyniadau diabetes i blant a phobl ifanc. Mae cyfraddau’r bobl sy’n goroesi canser yn parhau i godi er gwaethaf y ffaith bod angen triniaeth ar fwy a mwy o bobl. Mae amseroedd aros am wasanaethau diagnostig yn parhau i leihau, ac rydyn ni wedi gweld gostyngiad cyson yn nifer y bobl sydd wedi profi oedi cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty – diolch i’r cysylltiadau gwell rhwng ysbytai a gofal cymdeithasol.  

“Mae ein model ymateb clinigol newydd wedi gwella amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn fawr, gan ddenu diddordeb o bob rhan o’r DU ac o rannau eraill o’r byd. 

“Mae staff brwdfrydig ac ymroddgar y GIG yn arwain gwelliannau mewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru; gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio gan filoedd o bobl bob wythnos. Mae’r Datganiad Ansawdd Blynyddol yn cymryd golwg ar rai o’r gwelliannau hynny, ond mae hefyd yn edrych ar beth sydd angen ei wneud nesaf.  

“Dw i’n awyddus i herio’r GIG i barhau i wella, gan ddarparu gofal sydd wir yn canolbwyntio ar y claf fel unigolyn, a sicrhau bod iechyd a gofal yn cael eu cynnig i’r un safonau uchel ledled Cymru.”