Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynlluniau i greu Senedd fwy effeithiol a chynrychiadol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Ein bwriad yw cryfhau democratiaeth drwy greu Senedd Cymru fwy effeithiol a chynrychiadol.

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn nodi ein cynlluniau i greu Senedd Cymru sy’n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well. Mae’r Ddeddf, a gafodd ei phasio yn gyfraith yn swyddogol ar 24 Mehefin 2024, yn adlewyrchu sut y mae rôl a chyfrifoldebau’r Senedd wedi newid ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru agor ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1999.

Bellach, gall y Senedd wneud deddfau a gosod trethi Cymreig – dyma benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru.

Ond er i'r Senedd ennill cyfrifoldebau, mae ei maint wedi parhau yr un fath, gan ei gwneud y ddeddfwrfa leiaf yn y DU ag iddi 60 o aelodau o'i gymharu â 129 yn Senedd yr Alban, a 90 yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.

Newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Ar 8 Mai 2024, pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid y canlynol:

  • cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau.
  • newid y system etholiadol yn un sydd wedi’i seilio’n llwyr ar yr egwyddor o gynrychiolaeth gyfrannol, gan gynnwys enwau’r holl ymgeiswyr ar y papur pleidleisio. O etholiad y Senedd yn 2026 ymlaen, bydd fformiwla D’Hondt yn cael ei defnyddio (y fformiwla hon sydd wedi bod yn cael ei defnyddio i bennu’r Aelodau ar restr ranbarthol y Senedd Diwygio'r Senedd: geirfa).
  • creu 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd, a fydd yn cael eu creu drwy baru’r 32 o etholaethau ar gyfer Senedd y DU, mewn da bryd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026. Bydd adolygiad ffiniau llawn yn cael ei gynnal ar ôl etholiad y Senedd yn 2026.
  • ethol chwe Aelod o’r Senedd ym mhob un o’r 16 o etholaethau, o restrau caeedig.
  • cynyddu’r terfyn ar nifer y Gweinidogion Cymru y gellir eu penodi o 12 i 17 (ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol), a chyflwyno’r gallu i gynyddu’r nifer ymhellach i 18 neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
  • rhoi’r hyblygrwydd i Aelodau o’r Senedd ethol ail Ddirprwy Lywydd.
  • ei gwneud yn gyfraith bod pob ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd yn preswylio yng Nghymru.
  • cynnal etholiadau’r Senedd bob pedair blynedd o 2026 ymlaen.

Mae’r Ddeddf yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd (Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru). Cafodd yr argymhellion hyn eu cefnogi gan fwyafrif o’r Aelodau o’r Senedd ym mis Mehefin 2022.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) ar 11 Mawrth 2024.

Nod y Bil oedd gwneud y Senedd yn fwy effeithiol drwy gynrychioli cyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran rhywedd yn well.

Roedd yn cynnig rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar bleidiau gwleidyddol sy'n cyflwyno mwy nag un ymgeisydd er mwyn sicrhau:

  • mai menywod oedd o leiaf hanner eu hymgeiswyr etholiadol ar gyfer pob etholaeth, ac
  • mai menyw oedd ar frig o leiaf hanner eu rhestrau ymgeiswyr etholaethol.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Senedd gytbwys o ran rhywedd a denu mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn parhau, ond rydym wedi penderfynu mai'r ffordd orau y gallwn gyflawni newid ymarferol ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 yw drwy fynd i'r afael â'r mater hwn mewn ffordd wahanol.

Canllawiau ar Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol

  • Rydym yn llunio canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol er mwyn ceisio gwella amrywiaeth yn ein gwleidyddiaeth, gan gynnwys ceisio sicrhau bod mwy o fenywod mewn swyddi cyhoeddus. 
  • Nod y canllawiau yw annog pleidiau gwleidyddol i ystyried yr hyn y gallant ei wneud i gyflawni newid gwirioneddol ac ymarferol yn ystod y cyfnod cyn etholiad y Senedd yn 2026.
  • Ar 12 Tachwedd, gwnaethom lansio ymgynghoriad ynghylch Canllawiau Drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig.

Mae'r canllawiau drafft wedi'u rhannu yn dair rhan a'r nod yw annog pleidiau gwleidyddol cofrestredig i wneud y canlynol: 

  • Datblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu'n rheolaidd strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig (Rhan 1)
  • Mynd ati'n wirfoddol i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd (Rhan 2)
  • Ystyried camau y gallant eu cymryd mewn perthynas â chwotâu gwirfoddol i fenywod (Rhan 3).

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Ionawr 2025. Mae'r dogfennau ymgynghori hefyd ar gael mewn arddull Hawdd eu Deall ac Iaith Arwyddion Prydain.

Bydd sylwadau ac adborth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn llywio'r canllawiau terfynol, y bwriedir eu cyhoeddi yn y gwanwyn yn 2025.

Y camau nesaf

  • Mae gwaith ar y gweill yn awr i sicrhau y bydd y newidiadau a ddaw yn sgil Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar waith ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026.
  • Mae ymgynghoriad ar Ganllawiau drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol ar y gweill a bydd yn dod i ben ar 7 Ionawr 2025. Bydd y canllawiau, y bwriedir eu cyhoeddi yn y gwanwyn yn 2025, yn annog pleidiau gwleidyddol i ystyried y camau y gallant eu cymryd i wella amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau Cymreig.

Llinell amser

Gwybodaeth bellach