Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Rhagfyr 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 334 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am eich barn am ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â'r dreth gyngor i adlewyrchu premiymau'r dreth gyngor sy'n cael eu cyflwyno ar dai gwag tymor hir ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2017.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi premiwm y dreth gyngor ar dai gwag tymor hir ac ail gartrefi yn eu hardaloedd o 1 Ebrill 2017.
Rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau technegol i'r ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â'r dreth gyngor i alluogi awdurdodau lleol i weinyddu premiymau'r dreth gyngor.