Sut i ddiwygio ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) er mwyn cywiro camgymeriad.
Cynnwys
Bydd angen i chi gysylltu â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid i gael ffurflen ddiwygio.
Pryd y gallwch chi ddiwygio ffurflen dreth
Gallwch ddiwygio'ch ffurflen dreth hyd at 12 mis o'r dyddiad ffeilio.
Mae ffurflenni TGT yn ymwneud â chyfnod cyfrifo o 3 mis. Dylai ffurflenni treth gael eu cwblhau erbyn diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn pob cyfnod. Gelwir hwn yn ddyddiad ffeilio.
Os byddwch yn dod o hyd i gamgymeriad mewn ffurflen dreth dros 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio, cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid ar unwaith. Gallwn drafod sut i’w gywiro.
Newidiadau y gallwch chi eu gwneud
Gallwch ddiwygio eich ffurflen dreth er mwyn gwneud newidiadau fel:
- faint o ddeunydd safonol neu gyfradd is a gofnodwyd o fewn cyfnod cyfrifo (tunelli a phunnoedd)
- gwybodaeth am wastraff a rhyddhawyd o dreth (tunelli a phunnoedd)
- credyd ansolfedd cwsmeriaid rydych chi'n ei hawlio
- profion colled wrth danio sydd wedi'u cwblhau, rydych yn aros am eu canlyniadau, neu sydd wedi methu
- treth net sy’n daladwy
Ni allwch gywiro gwall trwy addasu ffurflen TGT yn y dyfodol.
Treth sydd wedi’i thandalu
Rhaid i chi dalu TGT sy’n ddyledus ar unwaith. Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen ddiwygio a anfonwyd gan eich rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid.
Hawlio ad-daliad
Os ydych yn meddwl eich bod wedi gordalu treth, gallwch hawlio ad-daliad gan ddefnyddio'r ffurflen ddiwygio a anfonwyd gan eich rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid.
Gall gymryd hyd at 30 diwrnod i brosesu eich cais. Efallai y bydd angen mwy o wybodaeth arnom.
Wedi anfon ffurflen dreth mewn camgymeriad neu ddyblygiad
Cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid os ydych wedi ffeilio:
- 'drafft' mewn camgymeriad
- ffurflen dreth ddyblyg
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi.