Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y ddogfen Diwygio ein Hundeb ei chyhoeddi gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2019, pan oedd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Rydym wedi diweddaru’r ddogfen bwysig hon, sy’n cyflwyno cyfres o awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir gwneud y DU yn gryfach a gwneud iddi weithio er budd pawb sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn cynnwys ailosod y berthynas rhwng y pedair llywodraeth etholedig yn y DU – Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi diweddaru Diwygio ein Hundeb nawr oherwydd bod cryn dipyn wedi newid ers 2019, gan gynnwys:

  • Mae’r DU wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
  • Mae Llywodraeth y DU yn ceisio troi’r cloc yn ôl ar ddatganoli, gan ganoli yn Llundain bwerau a chyllid a ddylai fod ar gael i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Mae canlyniadau etholiad Senedd yr Alban yn 2021 yn golygu bod mwyafrif o blaid cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.
  • Mae’r sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wedi’i hansefydlogi gan y Cytundeb Ymadael ôl-Brexit.
  • Yng Nghymru, mae canlyniad etholiad y Senedd yn 2021 yn dangos bod pobl yn cefnogi mwy – nid llai – o ddatganoli o fewn y Deyrnas Unedig. Ni fu undeb y Deyrnas Unedig erioed mor fregus.

Ym mis Mai, dywedodd David Lidington, cynGanghellor Dugiaeth Caerhirfryn, fod y Deyrnas Unedig mewn mwy o berygl nag y bu ar unrhyw adeg yn ystod ei fywyd ef.

Rydym ni’n credu y gellir cryfhau’r Undeb. Rydym yn credu mai trwy ddatganoli cryf – fel bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru – y caiff anghenion Cymru yn y dyfodol eu diwallu orau. Dylai hefyd fod yn bartner cydradd mewn Teyrnas Unedig gryf sydd wedi’i hadfywio.

Nodir ugain ffordd y gall y DU weithio er budd pob gwlad yn Diwygio ein Hundeb. Pethau sydd eisoes ar waith yw’r hyn a nodir ond mae rhai eraill yn syniadau newydd:

Yr egwyddorion sylfaenol

  1. Undeb gwirfoddol o bedair gwlad – Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – sy’n dod ynghyd i rannu adnoddau a risgiau yw’r Deyrnas Unedig.
  2. Mae datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn nodwedd barhaol o’r Deyrnas Unedig ac, heb gydsyniad pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni ellir dad-wneud hyn.
  3. Mae’n hynod anodd egluro – a chyfiawnhau – y gwahaniaethau rhwng setliadau datganoli Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dylai pwerau gael eu dal ar y lefel fwyaf lleol posibl.

Pwerau deddfu

  1. Dylai pob senedd yn y DU – boed yn Senedd Cymru, Senedd yr Alban, Stormont yng Ngogledd Iwerddon neu Dŷ’r Cyffredin – allu pennu ei maint ei hunan a’r ffordd y caiff ei haelodau eu hethol.
  2. Ni ddylai Senedd y DU fel arfer deddfu mewn perthynas â materion y gwneir penderfyniadau amdanynt mewn rhan arall o’r DU heb gydsyniad datganedig. Rhaid i’r trefniadau hyn gael eu nodi’n briodol.
  3. Dylid dod o hyd i ffynhonnell gyllid newydd, wedi’i chanoli, i dalu am gostau rhedeg Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, yn debyg i’r ffordd y caiff Senedd y DU ei chyllido.
  4. Dylai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon barhau i gael eu cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin. Ond dylid diwygio Tŷ’r Arglwyddi i adlewyrchu natur y Deyrnas Unedig a dylai gael y dasg o ddiogelu’r cyfansoddiad a datganoli.

Y berthynas rhwng y llywodraethau

  1. Dylai’r berthynas rhwng pedair llywodraeth y DU – Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon – fod yn deg, gyda phob un yn bartner cydradd ac yn parchu ei gilydd.
  2. Dylai Gweinidogion ym mhob rhan o’r DU ymgymryd â’u cyfrifoldebau, a chael eu dwyn i gyfrif amdanynt, yn eu gwledydd eu hunain, heb iddynt gael eu herio gan Weinidogion llywodraeth arall. Ni ddylai Llywodraeth y DU gyllido cyfrifoldebau llywodraeth arall heb gydsyniad y llywodraeth honno.
  3. Dylai fod gan y llywodraethau gyfleoedd rheolaidd, wedi’u trefnu’n ofalus, i weithio gyda’i gilydd ar faterion a rennir er budd holl bobl y DU.
  4. Dylai Gweinidogion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael llais yn ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at gysylltiadau rhyngwladol a masnach oherwydd gall y penderfyniadau hyn gael effaith ar benderfyniadau a wneir ym mhob rhan o’r DU.
  5. Pan fydd cyrff ar gyfer y DU gyfan yn cael eu creu neu eu diwygio, rhaid iddynt weithio er budd y DU gyfan – nid un rhan ohoni yn unig.
  6. Dylai un gwasanaeth sifil barhau i gefnogi llywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU – a dylai gydweithio’n agos â gwasanaeth sifil Gogledd Iwerddon – ar yr amod y caiff gwerthoedd y gwasanaeth hwnnw, sef annibyniaeth a didueddrwydd, eu gwarantu.

Cyllid

  1. Dylai lefelau cyllid fod yn seiliedig ar angen. O ganlyniad, bydd lefel deg o gyllid ar gael ar draws y DU gyfan i bawb. Ni ddylai Llywodraeth y DU allu rhyddhau cyllid drwy unrhyw drefniadau ar wahân i’r rhai hyn heb gydsyniad.
  2. Dylai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael eu cyllido drwy gyfuniad o grant sy’n seiliedig ar anghenion gan Lywodraeth y DU a chyllid a godir drwy drethi datganoledig a lleol a thrwy fenthyciadau.
  3. Dylai corff cyhoeddus annibynnol newydd, sy’n atebol i bob un o’r pedair llywodraeth yn y DU, oruchwylio’r trefniadau cyllid hyn, yn hytrach na Llywodraeth y DU.
  4. Dylai pob llywodraeth bennu ei blaenoriaethau treth a gwariant ei hunan a bod yn atebol am y penderfyniadau hyn. 

Cyfiawnder a’r Llysoedd

  1. Dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, fel y gwnaed eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  2. Dylai aelodaeth y Goruchaf Lys adlewyrchu natur y Deyrnas Unedig.

Y cyfansoddiad

  1. Dylid sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol, gydag aelodau o bob rhan o’r DU, i roi ystyriaeth briodol i’r ffordd y llywodraethir y DU a’r berthynas rhwng y pedair gwlad.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rydym yn sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys cynnal sgwrs genedlaethol â’r cyhoedd am y ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghymru. Bydd datganoli a’r berthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y dyfodol hefyd yn cael eu trafod.

Bydd hwn yn gyfle i ystyried y diwygiadau a fyddai’n angenrheidiol i gyflawni newid er budd Cymru ac i’w grymuso, er mwyn dod yn fwy ffyniannus ac i wella ansawdd bywyd a llesiant.

Os hoffech wybod mwy, mae Diwygio ein Hundeb ar gael i’w darllen yma.