Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Ionawr 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Gellir gweld canlyniad yr ymgynghoriad hwn ar wahân ar gov.uk. (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Atodiad II o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff diwygiedig wedi'i ddiwygio a bydd y fformiwla ar gyfer cyfrifo effeithlonrwydd ynni, a adwaenir fel R1, yn newid o 31 Gorffennaf 2016 ymlaen.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Atodiad II o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (2008/98/EC) yn nodi rhestr o weithrediadau adfer nad yw’n gynhwysfawr. Caiff gweithrediadau sy’n defnyddio gwastraff yn bennaf fel tanwydd i greu ynni eu categoreiddio’n weithrediadau R1. Rhaid i ynni a ddaw o weithfeydd gwastraff sy’n canolbwyntio’n benodol ar brosesu gwastraff solet dinesig a’r prosesu hwnnw’n cael ei gategoreiddio’n waith adfer rhaid cwrdd â throthwy penodol ar gyfer effeithlonrwydd ynni gan gynnwys y fformiwla ar gyfer cyfrifo effeithlonrwydd ynni (“Fformiwla R1”).
Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu’r newidiadau hyn yn fanwl ac yn ceisio barn ar y newidiadau hyn.
Rydym wedi nodi dwy Ddeddf Seneddol a nifer o offerynnau statudol sy’n cynnwys cyfeiriadau at ‘adfer’ a ‘Cyfarwyddeb Wastraff’.
Rydym yn bwriadu diweddaru’r cyfeiriadau at ‘Gyfarwyddeb Wastraff’ ac ‘adfer’ i sicrhau bod y cyfeiriadau’n berthnasol i’r Gyfarwyddeb Wastraff fel y’i diweddarwyd gan Gyfarwyddeb yr UE 2015/1127.
Rydym yn gofyn i’r diwydiant a oes ganddo unrhyw bryderon am y modd yr ydym yn bwriadu gwneud y newidiadau hyn ac rydym yn awyddus i glywed gan:
- awdurdodau lleol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- gweithredwyr safleoedd tirlenwi
- gweithredwyr ynni o wastraff
- y rheini sy’n gweithredu cyfleusterau gwastraff a ganiateir a gwastraff sydd wedi’i eithrio
- sefydliadau proffesiynol a sefydliadau aelodaeth
- busnesau/sector preifat