Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Rydym yn ymgynghori ar ein cynnig i ddiwygio'r ffordd y mae pwyllgorau addasrwydd i ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg yn cael eu llunio.

Cefndir addasrwydd i ymarfer

Mae addasrwydd i ymarfer yn golygu meddu ar y sgiliau, y wybodaeth, y cymhwysedd a'r cymeriad i ymarfer mewn proffesiwn.

Mae addasrwydd i ymarfer hefyd yn ymwneud â'r broses a ddefnyddir gan reoleiddwyr proffesiynol statudol i ddelio ag achosion a gyfeirir atynt. Cyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) sy’n gyfrifol am y gwaith rheoleiddiol hwn mewn perthynas â’r gweithlu addysg yng Nghymru. 

Mae'r Cyngor yn ystyried atgyfeiriadau a wneir mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol ymarferydd, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol. Mae Cyngor hefyd yn gyfrifol am ystyried addasrwydd unrhyw ymgeisydd i gofrestru a chael ei dderbyn i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg. Yn ogystal, nhw yw'r corff apeliadau os yw Corff Priodol yn penderfynu bod Athro Newydd Gymhwyso wedi methu â chwblhau ei gyfnod sefydlu statudol yn foddhaol, ac os yw'r athro hwnnw yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad.

Disgyblu

Mae'r rhan fwyaf o atgyfeiriadau ynghylch addasrwydd i ymarfer yn dod gan gyflogwyr sydd â chyfrifoldeb statudol i atgyfeirio i Gyngor y Gweithlu Addysg pan fyddant yn diswyddo aelod o staff, neu pan fydd unigolyn yn gadael mewn amgylchiadau lle y gallai, fel arall, fod wedi'i ddiswyddo. Mae hyn yn cynnwys honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.

Addasrwydd i gofrestru

Gofynnir i ddarpar gofrestrwyr ateb nifer o gwestiynau am eu hanes blaenorol wrth gwblhau adran datganiad y ffurflen gais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Os bydd rhywun yn rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw gwestiwn yn ei ddatganiad, bydd ei addasrwydd ar gyfer mynediad i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn cael ei asesu gan swyddogion y Cyngor. Os yw'r datganiad yn fwy difrifol, bydd pwyllgor addasrwydd annibynnol yn cael ei gynnull i ystyried y cais.

Apeliadau sefydlu

Os bydd cyflogwr yn penderfynu bod athro newydd gymhwyso wedi methu â bodloni’r Safonau Athrawon wrth eu Gwaith yn ystod ei gyfnod sefydlu, gall yr athro apelio i Gyngor y Gweithlu Addysg yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Yn y sefyllfaoedd hyn, ochr yn ochr â'r aelod lleyg gofynnol, ni fyddai’r Cyngor ond yn cynnwys athrawon ysgol ar banel apeliadau sefydlu.

Felly mae gwaith achos addasrwydd i ymarfer y Cyngor yn hanfodol bwysig wrth gynnal safonau proffesiynol y gweithlu addysg yng Nghymru.

Y sefyllfa bresennol

Mae adran 26 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 ("Rheoliadau 2015") yn cyfeirio at aelodaeth a gweithdrefn pwyllgorau mewn perthynas â gwaith achos addasrwydd i ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg.

Yn benodol, rhaid i bob pwyllgor gynnwys un person sydd wedi’i gofrestru yn yr un categori ag y mae'r person sy'n wynebu achos gerbron y Cyngor wedi’i gofrestru ynddo.

Yn dilyn diwygiadau diweddar i'r categorïau cofrestru, fel y maent wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 a ddaeth i rym ym mis Mai 2023, mae 11 categori cofrestru gwahanol erbyn hyn, ac mae’n bosibl y bydd yna fwy yn y dyfodol:

  • athro ysgol a gynhelir
  • athro addysg bellach
  • athro ysgol annibynnol
  • athro sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
  • ymarferydd dysgu seiliedig ar waith
  • gweithiwr ieuenctid
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a gynhelir
  • gweithwyr cymorth mewn addysg bellach
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
  • gweithiwr cymorth ieuenctid

Y mater dan sylw

O dan y gofynion presennol yn Adran 26 o Reoliadau 2015, mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn aml yn wynebu heriau wrth geisio dod o hyd i aelodau panel. Gall hyn achosi oedi ar gyfer gwrandawiadau, ac felly greu risgiau cynyddol i les y rhai y mae’r broses yn ymwneud â nhw.

A nifer y categorïau wedi cynyddu, bydd angen i'r Cyngor recriwtio ymarferwyr o gronfeydd o bobl gofrestredig a allai fod yn fach iawn i ystyried achosion a ddaw i law mewn perthynas â phobl gofrestredig yn y categorïau hynny yn unig. Lle mae'r gronfa yn arbennig o fach, mae’n fwy tebygol bod unigolion yn gyfarwydd â’i gilydd, a gallai hynny arwain at wrthdaro buddiannau. Bydd yn her i’r Cyngor, felly, i recriwtio aelodau i'r pwyllgor addasrwydd i ymarfer ar gyfer y grwpiau newydd o dan y rheoliadau presennol.

Yn ogystal, mae'n gyffredin i unigolion sy'n wynebu achos addasrwydd i ymarfer fod wedi’u cofrestru mewn mwy nag un categori. A mwy o gategorïau wedi’u hychwanegu, mae dod o hyd i bobl addas ar gyfer pwyllgor yn debygol o fod yn anoddach byth yn weinyddol.

At hyn, mae hawl gan bobl gofrestredig i ofyn am i'w gwrandawiad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anffodus, mae nifer yr aelodau o baneli sydd ar gael i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfyngedig mewn rhai sectorau.

Yn olaf, mae rolau pwyllgorau yn wirfoddol, a rhaid i reolwyr llinell a chyflogwyr ymarferwyr eu cefnogi er mwyn hwyluso eu rhyddhau o'u swydd arferol. Mae staff cymorth dysgu mewn ysgolion a'r rhai mewn addysg bellach yn ei chael yn arbennig o anodd i gael eu rhyddhau o’u swyddi. Mae hyn yn golygu bod y nifer sydd ar gael i weithio fel aelodau paneli yn isel iawn.

Y cynnig

Rydym yn cynnig newid i'r rheoliadau sy'n llywodraethu cyfansoddiad y pwyllgor ymchwilio a'r pwyllgor addasrwydd i ymarfer, a fydd yn golygu y bydd gan Gyngor y Gweithlu Addysg fwy o hyblygrwydd i recriwtio o gronfa ehangach o ymarferwyr. Byddai egwyddorion tegwch a thryloywder yn parhau, ac ni fyddai unrhyw berson sy'n wynebu achos addasrwydd i ymarfer o dan anfantais oherwydd y newid.

Yn hytrach na bod angen 'person cofrestredig o'r un categori cofrestru â'r person cofrestredig sy'n destun yr achos disgyblu', byddai angen person sydd wedi'i gofrestru a'i gyflogi yn unrhyw un o'r categorïau cofrestru.

Gallai hyn fod yn berson o'r un categori cofrestru, neu gallai fod yn rhywun o'r un sector neu â statws tebyg a fyddai â dealltwriaeth dda o natur y rôl a'r math o leoliad. Mae hyn yn debyg i'r dull a ddefnyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru wrth ystyried eu paneli addasrwydd i ymarfer hwythau.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn penderfynu a yw profiad a dealltwriaeth person yn ei wneud yn addas i’w benodi’n aelod cofrestredig. Er nad yw'n ofyniad statudol penodol, mae'r Cyngor yn ystyried hyn wrth wneud penodiadau o'r fath.

Caiff pob aelod o'r panel addasrwydd i ymarfer eu penodi drwy broses recriwtio fanwl lle asesir eu hymddygiad a'u sgiliau. Bydd y rhai a benodir yn dilyn rhaglen sefydlu a mentora strwythuredig, a bydd rhaid iddynt fynychu hyfforddiant blynyddol. Bydd pob aelod o'r panel yn ymrwymo i weithredu'n ddiduedd a chydag uniondeb.

Bydd rhoi mwy o hyblygrwydd i Gyngor y Gweithlu Addysg wrth benodi aelodau panel Pwyllgor fel hyn yn caniatáu i achosion fynd yn eu blaen yn ddi-oed.

Os bydd y cynnig i ddiwygio Rheoliadau 2015 yn cael ei weithredu, bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori ar ei weithdrefnau a'i reolau disgyblu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r gofynion deddfwriaethol newydd yn llawn.

Credwn fod angen y newidiadau hyn i ddiogelu swyddogaeth reoleiddio Cyngor y Gweithlu Addysg i’r dyfodol. Bydd yr hyblygrwydd mwy mewn perthynas ag aelod cofrestredig y Pwyllgorau yn caniatáu i’r gwaith o reoleiddio priodol ar bob categori o bobl gofrestredig barhau, ni waeth faint o gategorïau o bobl gofrestredig sydd yna nawr neu a ychwanegir yn y dyfodol.

Y tymor hir

Credwn y bydd y newid hwn yn diogelu gwaith achos addasrwydd i ymarfer i’r dyfodol, o ran cyfansoddiad y pwyllgor, fel, os daw’n orfodol cael rhagor o grwpiau cofrestredig yn y dyfodol y bydd y broblem gyda recriwtio aelodau panel o gronfa gyfyngedig yn cael ei lliniaru.

Atal

Mae gwaith achos addasrwydd i ymarfer y Cyngor yn rhan hanfodol o sicrhau bod y bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysg a gwaith ieuenctid yn addas ac â’r gallu i wneud hynny. Bydd gweithdrefnau cadarn a sicrhau bod pwyllgorau wedi'u staffio'n llawn a'u llunio'n deg yn sicrhau bod unrhyw niwed i ddysgwyr gan ymarferwyr anaddas yn cael ei atal.

Integreiddio

Ar sail sicrhau bod achosion addasrwydd i ymarfer safonol yn gallu parhau, mesurau gwell i ddiogelu plant a phobl ifanc sy’n cyfrannu'n uniongyrchol at amcanion fel diwygio addysg, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed a dileu anghydraddoldeb.

Cydweithio

Y Cyngor a dynnodd ein sylw at y mater hwn yn ystod yr ymgynghoriad ar Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023. Rydym yn ddiolchgar i'r Cyngor am fod yn bartner i ni yn y gwaith o ddatblygu'r cynnig hwn i sicrhau bod achosion yn parhau i gael eu cynnal yn deg ac yn gadarn.

Cynnwys

Lansiwyd ymgynghoriad wyth wythnos ar 11 Medi, a bydd yn dod i ben ar 1 Rhagfyr. Er mwyn cael barn cynifer o ymarferwyr, pobl gofrestredig a darpar gofrestrwyr ag y bo modd, mae'r ymgynghoriad wedi cael cyhoeddusrwydd eang.

Mae'r ymgynghoriad hefyd wedi dod i sylw undebau addysg a fydd yn amlwg â diddordeb mewn sicrhau bod yr achosion addasrwydd i ymarfer yn parhau i gael eu cynnal yn deg o dan y trefniadau arfaethedig newydd.

Costau ac arbedion

Mae arbedion cost posibl i’r cynnig hwn. Mae'r Cyngor wedi gorfod gohirio gwrandawiadau/cyfarfodydd pan fo aelod o'r panel wedi tynnu'n ôl ar fyr rybudd yn y gorffennol a phan na fu’n bosibl dod o hyd i aelod arall o'r un categori cofrestru. Mae ehangu'r gronfa o aelodau yn debygol o arwain at ohirio llai o wrandawiadau a chyfarfodydd, ac felly bydd cost gorbenion yn is ar gyfer gwneud trefniadau newydd a thalu ffioedd canslo.

Mecanwaith

Mae angen diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 i wireddu'r cynnig hwn. Heb y newid deddfwriaethol, byddai’r Cyngor yn ei chael yn anodd bodloni’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer aelodau ei bwyllgorau.

Er y bydd y Cyngor yn naturiol yn parhau i weithredu yn unol ag egwyddor tegwch cyfraith gyhoeddus, bydd y newid i’r rheoliadau yn cynnal hyder pobl yn y system.

Adran 8. casgliad

8.1 Sut mae'r bobl y mae'r cynnig fwyaf tebygol o fod wedi effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

Mae'r ymgynghoriad a gynhelir rhwng 11 Medi a 1 Rhagfyr 2023 wedi cael cyhoeddusrwydd eang fel bod ymarferwyr, pobl gofrestredig a darpar gofrestrwyr yn gallu gwneud sylwadau ar y cynigion a bod yn sicr y bydd rhywun yn gwrando ar eu pryderon.

Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr undebau addysg yn gallu trafod unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Cyngor y Gweithlu Addysg yw'r arbenigwr yn y materion hyn, a chan ei fod yn gyfrifol am addasrwydd i ymarfer, y cyngor hwn fu ein partner allweddol wrth fynd ati i ddatblygu'r cynnig.

8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, sy'n gadarnhaol ac yn negyddol?

Y grŵp y mae’r cynnig hwn yn effeithio arnynt fwyaf yw pobl gofrestredig. Credwn y bydd diwygio'r gofynion ar gyfer pwyllgorau addasrwydd i ymarfer fel y nodir uchod yn cael effaith gadarnhaol neu niwtral, gan y byddai egwyddorion tegwch a thryloywder yn parhau o dan y trefniadau newydd.

Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i gynnal achosion mewn ffordd broffesiynol a gonest fel y gall y cyhoedd, pan fydd problemau'n codi, barhau i fod yn hyderus ynghylch addasrwydd y gweithlu addysg yng Nghymru.

8.3 Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant?

Y pwrpas y tu ôl i'r cynnig hwn i ddiwygio cyfansoddiad y pwyllgor addasrwydd i ymarfer yw cynnal uniondeb y system. Felly, bydd gan y cyhoedd hyder yn yr ymarferwyr oherwydd gallant ddangos bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni'r dyletswyddau sy'n ofynnol gan eu proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a bydd yn parhau i fonitro effeithiau'r cynnig hwn os caiff ei weithredu.