Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bore da a chroeso

Mae’n anodd credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Fel llawer ohonoch, mae’r gobaith o allu cael wyth awr ddi-dor o gwsg wedi hen ddiflannu. Ond ydi’r cyfan ei werth e? Bendant.

Mae pob un ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw addysg. Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol.

Mae digwyddiadau fel heddiw’n gyfle perffaith i ni rannu a phrofi ein syniadau. Felly, nid dim ond fi’n unig, neu Graham neu Steve sy’n trafod disgwyliadau – mae’r rhaglen rydym wedi’i llunio ar gyfer heddiw yn gyfrwng i ni rannu meddyliau, syniadau a thystiolaeth.

Dwi ddim yn gwadu bod llawer yn digwydd yn y byd addysg yng Nghymru - a dwi’n gwybod eich bod chi’n cydnabod hynny hefyd. Ond fy mhrawf syml ar gyfer unrhyw bolisi, diwygiad neu raglen yw gofyn a ydy e’n helpu i godi safonau a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad. Fydd e ddim yn cael fy nghymeradwyaeth os nad yw’n bodloni’r prawf.

Dros y 12 mis diwethaf, fy hoff agwedd ar y swydd yw cael teithio o amgylch Cymru i ymweld ag ysgolion a chlywed yn uniongyrchol gan athrawon, rhieni a disgyblion.

Dwi bob amser – bob amser yn cael fy synnu a’m hysbrydoli gan gymaint o benaethiaid ysgolion ledled Cymru.

Mae’n fraint wirioneddol gweld a chlywed sut mae bywydau, teuluoedd a dyfodol pobl yn cael eu newid er gwell gennych chi a’ch cydweithwyr.

Dwi’n gwybod eich bod chi’n byw’r genhadaeth bersonol a phroffesiynol honno i newid bywydau. Ac, wrth gwrs, chawsoch chi mo’ch gorfodi i gyflawni’r genhadaeth genedlaethol roeddwn i’n sôn amdani.

Gallech fod wedi dewis pob math o broffesiynau eraill yn lle. Byddai llawer ohonyn nhw wedi golygu llai o oriau, llai o straen, a llawer llai o graffu cyhoeddus.

Ond alla i ddim meddwl am lawer o broffesiynau mwy anrhydeddus na bod yn arweinydd ysgol.

Felly, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am ddilyn y llwybr anodd, ond boddhaol hwn gobeithio – am fod yn rhan allweddol o’r genhadaeth genedlaethol hon i godi safonau yn ein hysgolion a rhoi cyfle i bob plentyn gyflawni ei botensial.

Arweinyddiaeth

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi datgan y dylai arweinyddiaeth fod yn brif ysgogydd ar gyfer diwygiadau addysgol.

Dwi’n cytuno i’r carn, ac nid yw’n rhywbeth a oedd wedi’i flaenoriaethu o’r blaen. Felly, pan ddes i i Lywodraeth roedd ar frig fy agenda.

Dwi’n siŵr bod pawb yn gytûn bod pob ysgol angen arweinwyr ysbrydoledig ar bob lefel i lwyddo, o’r ystafell ddosbarth i swyddfa’r pennaeth.

Dyna pam dwi’n rhoi blaenoriaeth i sefydlu ein Hacademi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ein hunain.

Yn y 7 mis diwethaf, ers sefydlu’r Bwrdd Academi Cysgodol, dan gadeiryddiaeth Ann Keane, dwi wedi cael fy nghalonogi o weld y cynnydd graddol a wnaed.

Bydd yr Academi yn rhoi mynediad i’r dysgu gorau yn y byd. Bydd yn sicrhau ein bod ni’n datblygu doniau heddiw ac yfory yn llwyddiannus, gan weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a phrifysgolion.

A gallaf eich sicrhau chi: mae’r Academi hon yn fuddsoddiad yn arweinwyr y dyfodol, ond mae hefyd yn fuddsoddiad ynoch chi, ein harweinwyr ni heddiw.

Dwi’n credu y dylai arweinwyr fod yn arweinwyr dysgu yn eu hysgolion eu hunain a thu hwnt yn anad dim.

Felly, mae yna nifer o bethau ar droed ar hyn o bryd i sicrhau bod gennym ni arweinwyr ysbrydoledig sy’n gallu manteisio ar y cyfleoedd priodol ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau dysgu proffesiynol eu hunain.

Does dim ots os ydyn nhw am ganolbwyntio’n llwyr ar eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth neu am symud i swyddi arwain ffurfiol hyd at, ac yn cynnwys, bod yn bennaeth.

Bydd y safonau addysgu proffesiynol newydd arfaethedig yn cyfuno safonau ar gyfer athrawon ac arweinwyr, gydag arweinyddiaeth yn un o’r pum maes ymarfer ar gyfer yr holl athrawon, nid arweinwyr yn unig.

Yn achos CPCP a darpariaeth gyfredol, rydym wedi’i ehangu drwy weithio’n agos â chonsortia.

Mae yna ymarferwyr yn mynd trwy’r rhaglen hon ar hyn o bryd a byddaf yn gofyn am eu hadborth ar beth sy’n gweithio ac a oes angen gwneud gwelliannau o gwbl.

Felly, er fy mod i’n bendant bod angen datblygu’r CPCP, dwi hefyd yn gwbl glir y dylem gadw’r gofyniad a’r trothwy mynediad ar gyfer bod yn bennaeth.

Dwi’n gwybod ein bod ni’n gofyn llawer gan benaethiaid.

Felly, byddaf yn cyhoeddi cynlluniau peilot arian cyfatebol arloesol yn fuan ar gyfer clystyrau o ysgolion cynradd er mwyn i ni allu ehangu nifer y rheolwyr busnes.

Bydd hyn yn cefnogi arweinwyr ac athrawon i ganolbwyntio mwy ar godi safonau.

Bydd cael rheolwyr busnes ar waith yn rhyddhau mwy o amser i chi ganolbwyntio ar y tasgau rydych chi’n gallu eu cyflawni orau, a oedd yn rhan o’ch cylch gwaith gwreiddiol.

Does neb am weld athrawon a phenaethiaid yn cael eu gorlethu gan waith – mae angen canolbwyntio mwy ar addysgu a llai ar weinyddu.

Dyna un o’r rhesymau pam wnes i gomisiynu’r Arolwg Gweithlu Addysg Cenedlaethol diweddar a weinyddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Rhoddodd yr arolwg lawer o fanylion am bryderon y gweithlu a thros yr ychydig fisoedd nesaf bydd yn parhau i ddadansoddi’r data er mwyn helpu i lywio ein diwygiadau polisi.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i nodi biwrocratiaeth ddiangen a newydd lunio a chyhoeddi dogfen gynhwysfawr yn rhoi manylion yr holl ffurflenni data allanol a chasgliadau ystadegol sy’n rhaid i ysgolion eu cwblhau.

Dwi wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda rhanddeiliaid o’r gweithlu addysg i gyd i graffu ar y ddogfen hon a nodi meysydd y gellir eu symleiddio a’u lleihau.

Bydd lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth yn bwysig iawn wrth i ni symud ymlaen i ddiwygio’r cwricwlwm.

Diwygio’r Cwricwlwm/Ysgolion Arloesi

Dwi’n parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod rhaglen diwygio’r cwricwlwm yn cael ei gweithredu’n dda ac yn brydlon, gan ddysgu o beth sy’n gweithio yng Nghymru a ledled y byd.

Gwers bwysig o wledydd eraill yw bod pethau’n gallu mynd ychydig yn flêr wrth weithredu diwygiadau.

Dyna pam ein bod wedi gweithio gydag ymarferwyr a’r sector ehangach o’r cychwyn a pham mae consortia’n gweithio gyda ni i sicrhau bod ymarferwyr yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm drwy’r dull ysgolion arloesi.

Mae’r dull hwn yn arloesol, dewr ac yn ymddiried yn ein proffesiwn.

Dyma gam bwriadol i ffwrdd o ddull o’r brig i’r bôn y gorffennol, lle mae’r Llywodraeth yn cyfarwyddo, gorchymyn a chosbi, i un lle mae’n darparu arweiniad strategol, yn hwyluso a chefnogi.

Fodd bynnag, mae hefyd yn golygu na allwn ni wybod holl fanylion y cwricwlwm terfynol ar y cam hwn a dwi’n cydnabod y bydd rhai rhanddeiliaid yn teimlo’n anghyfforddus gyda’r dull newydd ar y dechrau.

Ond mae gennym brawf ei fod yn gallu gweithio. Gadewch i ni edrych ar ddatblygiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Roedd yr un sefyllfa’n bodoli, yr un cyfle agored ar y cychwyn, yr un angen i greu tîm a chydweithio i gyflawni canlyniad a rennir.

Doedd hi ddim yn hawdd, ond llwyddwyd i gyflawni canlyniad ardderchog, sy’n eiddo i bawb, ac sydd eisoes yn y camau cynnar o ran ymwybyddiaeth a mabwysiadu fel y gwyddoch chi – a dwi’n gobeithio eich bod chi’n rhan ohono.

Diweddariad Ar Y Cyfnod Sylfaen/Rhwydwaith/Cynllun Gweithredu

wi am bwysleisio pa mor bwysig yw cofio’r hyn rydym wedi’i greu gyda’r Cyfnod Sylfaen wrth i ni ddatblygu ein cwricwlwm newydd.

Mae tystiolaeth yn dangos inni fod y Cyfnod Sylfaen yn gweithio, a’i fod yn gwneud dysgu yn fwy pleserus ac effeithiol.

Pan mae’n cael ei weithredu’n dda, mae’n codi cyrhaeddiad plant yn bendant.

Dwi am sicrhau ein bod ni’n adeiladu ar y cynnydd hwn ac yn parhau i gynorthwyo ein plant ifanc drwy eu blynyddoedd cynnar i wneud yn siŵr eu bod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Ond dwi’n credu bod angen llawer mwy o gysondeb ledled Cymru.

Dyna pam y cyhoeddais fis diwethaf y bydd £1 miliwn arall ar gael i ddatblygu sgiliau’r holl staff sy’n darparu’r Cyfnod Sylfaen i blant 3 i 7 oed.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen, a fydd yn cefnogi’r gwaith o rannu ymarfer effeithiol ac yn gweithio’n agos â Rhwydweithiau Cenedlaethol Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Mathemateg, sydd wrthi’n cael eu datblygu. Drwy gydweithio bydd y rhwydweithiau hyn yn cyfrannu tuag at ddatblygu ein cwricwlwm newydd.

Llesiant

Heb swnio fel rhywun sy’n pregethu i’r cadwedig, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i blant fod yn hapus yn yr ysgol fel y gallan nhw ddysgu a ffynnu.

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos yn glir fod gan blant â lefelau emosiynol,  ymddygiad, a llesiant cymdeithasol uwch, lefelau cyrhaeddiad academaidd uwch ar gyfartaledd. Maen nhw’n cymryd mwy o ran ym mywyd yr ysgol, ac yn nes ymlaen mewn bywyd.

Rhaid i lesiant y plentyn fod wrth wraidd ein system addysg gynhwysol, a dyna pam mae hynny’n rhan amlwg o’n cynllun gweithredu newydd fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Nid mater o ymyrryd pan fo problemau’n dechrau codi yw e, er bod hynny’n bwysig wrth gwrs. Ond mae hefyd yn golygu hyrwyddo llesiant cadarnhaol, helpu plant i ddatblygu’n unigolion hapus a hyderus sy’n gallu ymdopi â heriau bywyd.

Ac un o’r ‘heriau bywyd’ cynharaf y mae plentyn yn gorfod ei wynebu yw pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n brofiad aruthrol.

Mae mynd i’r ‘ysgol fawr’ yn rhywbeth sy’n aros yn y cof i lawer ohonom. Atgofion hapus i rai, profiad brawychus ar y naw i  eraill!

Does dim dwywaith bod ein hysgolion cynradd yn cyflawni dros ein disgyblion. Ond mae’n rhaid i ni wneud llawer mwy i gefnogi’r broses bontio hon yn llwyddiannus, a rhaid i ni edrych ar dystiolaeth o arferion da.

Cymerwch Ysgol Gyfun Porthcawl er enghraifft – mae Estyn wedi’u nodi fel esiampl ragorol o arwain y blaen wrth bontio disgyblion. Ysgol sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod plant yn pontio mor rhwydd â phosib o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Maen nhw’n cydweithio’n agos ag ysgolion bwydo i nodi pa blant fyddai’n ei chael hi’n anodd symud, cyn cysylltu â’r disgyblion a’r teuluoedd er mwyn helpu i ddatrys unrhyw broblemau cyn iddyn nhw symud ysgol. Mae yna grŵp o’r enw ‘Helping Hands’ ar gyfer plant bregus neu orbryderus, grŵp sydd wedi helpu i wella eu llesiant, eu hunanhyder a’u cyfraddau presenoldeb.

Dw i’n gwybod bod llawer o waith da arall yn cael ei wneud ym maes llesiant a phontio.  Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb ar y cyd fel arweinwyr, athrawon a rhieni, i sicrhau bod y broses bontio mor ddidrafferth ac esmwyth â phosib i ddysgwyr ifanc.

Ond chi, fel arweinwyr a phenaethiaid, sy’n hollbwysig wrth eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

Gan ddibynnu ar sut rydych chi’n rheoli’r broses bontio hon, byddwch chi’n ffactor allweddol iawn o ran sut maen nhw’n llywio’r siwrnai addysg sydd o’u blaenau. Chi sy’n braenaru’r tir.

Dim pwysau fan’na te!

Atebolrwydd Ac Asesu

Nawr, dw i eisoes wedi dweud pa mor awyddus ydw i i ymweld â chymaint ag sy’n bosib o ysgolion a gwrando ar eich pryderon chi.

Un o’r pryderon a glywais yw sut fyddwn ni’n cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, os nad oes digon o athrawon ar waith.

Mae cynllunio a datblygu’r gweithlu addysg yn rhan hanfodol o gyrraedd ein nod. Byddwn ni’n sicrhau bod pob rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon yn cynnwys datblygu sgiliau Cymraeg fel bod gan bob Athro Newydd Gymhwyso Gymraeg sylfaenol wrth ymuno â’r proffesiwn, a’i fod yn datblygu’r sgiliau hynny wrth gamu ymlaen.

Thema arall sy’n codi’n aml wrth i mi fynd o ysgol i ysgol yw atebolrwydd ac asesu. Dw i wedi gwrando’n ofalus iawn ar y pryderon hynny.

Heb os nac oni bai, bydd asesu ac atebolrwydd yn hollbwysig i godi safonau.

Dw i’n cydnabod y ffaith taw prif bwrpas asesu yw darparu gwybodaeth a allai lywio penderfyniadau ar y ffordd orau i ddatblygu addysg disgyblion, ac adrodd i’w rhieni wedyn.

Trwy wneud hyn, dylai asesiadau wella addysg dysgwyr, gwella dulliau’r athrawon o addysgu a gwella dealltwriaeth rhieni. Dylai asesiadau gael eu defnyddio er budd pennaf eich disgyblion; gan sicrhau eich bod yn gallu addasu’ch strategaethau addysgu i gefnogi eu cynnydd.

Fodd bynnag, dylai asesiadau athrawon fod yn rhan o’n system atebolrwydd hefyd, ac yn aml iawn mae’r ffiniau rhwng y ddau wedi bod yn aneglur, gan arwain at oblygiadau anfwriadol yn yr ystafell ddosbarth.

Dwi wedi gwrando ar y feirniadaeth ac wedi astudio’r dystiolaeth ryngwladol: mae’n bosibl bod diffyg eglurder ar hyn o bryd ynglŷn â gwerthuso a gwella ar lefelau gwahanol ein system.

Dwi’n ystyried opsiynau amrywiol ar hyn o bryd a byddaf yn eu trafod yn fanylach yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, dwi am nodi’n glir y bydd mesurau gwelliant priodol ac ategol ar lefel ysgol, ranbarthol a chenedlaethol yn ganolog i’n dull gweithredu.

Galwad I Weithredu

Felly, gydweithwyr, dw i’n hyderus y bydd ein pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth addysgu, llesiant a chwarae teg i’n dysgwyr, a chyfrifoldeb ar y cyd – yn fodd i ni gyrraedd y safonau uchaf.

Byddaf yn parhau i ymddiried ynoch a’ch cefnogi i’ch carn.

Yn gyfnewid am hynny, dw i’n gwybod mai’ch dylanwad, eich egni a’ch ymroddiad chi fel arweinwyr fydd yn gweddnewid ein hysgolion, ac yn rhoi’r adnoddau gorau i’r myfyrwyr ddod yn ddinasyddion llwyddiannus, addysgedig sy’n cymryd rhan.

Hoffwn i bawb barhau i gydweithio, a gofalu nad yw cefndir plentyn yn pennu ei ddyfodol.

Gyda’n gilydd, fel bod pawb yn cyflawni i’w lawn botensial.

Gyda’n gilydd, fel bod Cymru’n ar flaen y gad yn y byd addysg.

Gyda’n gilydd, fel bod ein cenhadaeth genedlaethol yn lleihau’r bwlch cyrhaeddiad go iawn, ac yn codi safonau i bawb.

Diolch yn fawr.